Ein menter natur leol yn cyrraedd wyth gwaith ymhellach na'r disgwyl

Ein menter natur leol yn cyrraedd wyth gwaith ymhellach na'r disgwyl

Bachgen ifanc mewn cae o artisiogau yn edrych ar un o'r llysiau
Bachgen ifanc yn cymryd rhan mewn prosiect garddio cymunedol fel rhan o Nextdoor Nature. Llun: Gavin Dickson.
Pan wnaethom fuddsoddi £5 miliwn yn Nextdoor Nature, ein partneriaeth â’r Ymddiriedolaethau Natur, ein nod oedd cyrraedd 200 o gymunedau. Yn lle hynny, fe gyrhaeddon ni 1,600.

Aethom ati yn 2022 i helpu pobl mewn ardaloedd trefol a gwledig economaidd ddifreintiedig i gymryd rheolaeth dros benderfyniadau am natur a’r amgylchedd yn eu cymdogaethau.

Gwnaethom roi'r sgiliau, yr offer a’r cyfle iddynt redeg micro-brosiectau a fyddai’n gwella mynediad i fannau gwyrdd ac yn helpu taclo newid yn yr hinsawdd.

Ddwy flynedd wedyn, mae’r canlyniadau wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau, gyda thrawsnewidiadau’n digwydd mewn 1,600 o gymunedau ar draws y DU.

Mae Nextdoor Nature wedi galluogi cymunedau Roma yn Nwyrain Belfast i gymryd rhan mewn garddio bywyd gwyllt ac ysgolion lleol i ymwneud â chynlluniau ailgyflwyno adar prin yn Swydd Gaint. Mae wedi gefnogi ail-wylltio yng nghanol tref Derby a gofod ffydd llesol i natur yn Slough.

Mae wedi tanio angerdd ac ymrwymiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl a'n hamgylchedd yn y dyfodol.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

A pair of women crouching down planting seedlings in a garden bed
Cyfranogwyr Nextdoor Natur yn plannu mewn gwely gardd. Llun: Penny Dixie.

 Ymrwymiad i'r gymuned a'r amgylchedd

Dangosodd gwerthusiad o'r rhaglen, Power to the People: Nextdoor Nature’s legacy for communities and wildlife, y canlynol:

  • Dywedodd 95% o'r cyfranogwyr fod mwy o gydweithio bellach rhwng trigolion, sefydliadau lleol a grwpiau
  • Teimla 82% fod mwy o benderfyniadau am fywyd gwyllt yn nwylo pobl leol bellach

Adroddodd cyfranogwyr hefyd iddynt deimlo'n rhan o rywbeth mwy na nhw eu hunain a'u bod yn ymfalchïo'n fwy yn eu hardal leol. Dywedodd un ohonynt: “Mae'n rhoi pwrpas a 'hwb gorfoleddus' i mi; mae wedi cynyddu fy ymdeimlad o gymuned,” tra dywedodd rhywun arall: “Mae wedi cyfrannu at ymdeimlad o ddiben a pherthyn.”

Four men standing around a raised garden bed, smoothing the soil
Gwely gardd wedi'i godi a adeiladwyd yn Hull fel rhan o Nextdoor Nature. Llun: Andy-Steele.

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rwyf wrth fy modd bod cynifer o bobl yn cymryd rhan yn weithredol wrth ofalu am fyd natur a'i fod wedi tanio angerdd ac ymrwymiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl a’n hamgylchedd yn y dyfodol.

“Mae’r rhaglen hon yn gwireddu ein huchelgais i gysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth a’r amgylchedd naturiol ac yn cefnogi ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal i bawb.”

Etifeddiaeth i natur

Roedd Nextdoor Nature yn rhan o gyfanswm buddsoddiad o £8m i greu etifeddiaeth i fyd natur i nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth II. Roedd gennym bartneriaeth hefyd â Groundwork UK ar fenter £3m a ddarparodd leoliadau gwaith natur â thâl i 98 o bobl ifanc er mwyn helpu i arallgyfeirio’r sector treftadaeth naturiol.

Dywedodd Nikki Williams, Cyfarwyddwr Ymgyrchu a Chymunedau yn yr Ymddiriedolaethau Natur – ein partner cyflwyno ar gyfer Nextdoor Nature: “Rydym wedi'u hymostwng gan y gwaith rhyfeddol y mae cymunedau wedi’i gyflawni ar draws y DU ac yn arbennig o gyffrous gyda'r wybodaeth bod y newidiadau hyn yn ffurfio rhan o etifeddiaeth gynaliadwy wrth i fwy o bobl gael eu hysbrydoli i weithredu dros natur lle maent yn byw.”

Mynnwch gip ar adroddiad gwerthuso llawn Nextdoor Nature a darllenwch astudiaethau achos a storïau pellach gan gyfranogwyr ar wefan Nextdoor Nature

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...