Sut i ddenu a recriwtio doniau amrywiol i'ch sefydliad treftadaeth
Lansiwyd Newydd i Natur, ein rhaglen bartneriaeth gwerth £3miliwn, yn 2022 i gynnig lleoliadau gwaith â thâl sy'n seiliedig ar natur. Anogwyd pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig, sy'n anabl neu o gartrefi incwm isel i wneud cais i helpu cyfoethogi'r sector amgylcheddol a thargedu doniau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol.
Cynigiodd wyth deg dau o sefydliadau leoliadau gwaith i 98 o hyfforddeion, gan fabwysiadu dulliau newydd i sicrhau bod eu cyfleoedd yn hygyrch i'r grwpiau blaenoriaeth. O ganlyniad i'r prosesau recriwtio cynhwysol, roedd 86% o'r hyfforddeion yn dod o un o leiaf o'r grwpiau blaenoriaeth.
Cynigiodd y cynllun swyddi nad oeddent yn gofyn am gymwysterau penodol, a hynny'n rhan-amser os oes angen, a cheisiwyd ceisiadau'n weithredol gan bobl sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd.
Nina, hyfforddai Newydd i Natur yn Cotswolds National Landscape
Recriwtio cynhwysol
Roedd rhan o'r llwyddiant o ganlyniad i wneud newidiadau ym mhob cam o'r broses recriwtio - o nodi heriau amrywiaeth sefydliad drwy gofnodi data a chywain adborth gan staff, i sefydlu proses ymgeisio gynhwysol ac adolygiad dwy ffordd parhaus.
Dywedodd Hugo, Cynorthwy-ydd Gwyddoniaeth dan Hyfforddiant gyda Bumblebee Conservation Trust: “Roedd yn amlwg i mi bod yr awydd a fynegwyd i gyflogi pobl o gefndiroedd amrywiol yn fwy na datganiad gwag yn unig ac yr oedd Newydd i Natur a Bumblebee Conservation Trust yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag anghenion a allai fod gan bobl.”
Y manteision ar gyfer sefydliadau treftadaeth
Mae recriwtio cynhwysol yn dileu rhwystrau, gan ehangu'r gronfa o ddarpar ymgeiswyr a helpu rhoi hwb i greadigrwydd ac arloesedd yn y gweithle trwy gyflwyno gwahanol safbwyntiau a phrofiadau.
Dywedodd Ana Oliviera, Rheolwr Gardd yn Green Synergy, un o’r sefydliadau sy’n croesawu hyfforddai: “Rwy’n meddwl bod y rhaglen yn dda iawn ar gyfer sefydliadau bach sy’n cael trafferth gydag ariannu i gynyddu capasiti yn y tîm. Rwy’n meddwl y bydd yn gwella arferion cynwysoldeb a recriwtio ac ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â hil, niwroamrywiaeth ac anableddau.”
Dywedodd Nina, Swyddog Grantiau a Mynediad dan hyfforddiant yn Cotswolds National Landscape: “Oherwydd cyflwr iechyd, nid oeddwn yn gallu cwblhau Lefel A ac alla i ddim weithio oriau amser llawn. Cynigiodd y cynllun Newydd i Natur swyddi nad oeddent yn gofyn am gymwysterau penodol, a hynny'n rhan-amser os oes angen, a cheisiwyd ceisiadau'n weithredol gan bobl sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd. Pe na bai’r rhaglen Newydd i Fyd Natur wedi mynd ati i geisio’r rheini mewn grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd, ni fyddwn wedi teimlo’n ddigon hyderus i wneud cais.”
Ysgogi newid tymor hir
Dathlodd Newydd i Natur lwyddiannau’r rhaglen hyd yma mewn digwyddiad a ddaeth â rhai o’r hyfforddeion ynghyd mewn trafodaeth bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol o’r sector treftadaeth naturiol. Roedd yr hyfforddeion yn gallu myfyrio ar eu profiadau a rhannu ffyrdd o sicrhau bod eu hetifeddiaeth yn parhau.
Rwyf am gael mwy o bobl o fy nghefndir fy hun neu bobl a allai fod wedi'u neilltuo o gymdeithas i mewn i'r sector amgylcheddol.
Stephanie, hyfforddai Newydd i Natur gyda Bat Conservation Trust
Wrth feddwl am y dyfodol, dywedodd Stephanie, Swyddog Ymgysylltu Gwirfoddol gyda Bat Conservation Trust: “Hoffwn i gael gyrfa yn y sector amgylcheddol. A finnau'n dod o Dde Asia, mae gennym ein syniadau ein hunain am newid yn yr hinsawdd ac mae gennym ein hatebion ein hunain iddo hefyd. Rwyf am gael mwy o bobl o fy nghefndir fy hun neu bobl a allai fod wedi'u neilltuo o gymdeithas i mewn i'r sector amgylcheddol.”
Canllaw ymarferol i ddenu doniau amrywiol
Mae Groundwork a’r sefydliadau partner sy’n ymwneud â Newydd i Natur yn rhannu eu hargymhellion ar gyfer recriwtio cynhwysol mewn canllaw ymarferol, sy’n cynnig mewnwelediad a chyngor defnyddiol ar gyfer pob math o sefydliad treftadaeth.
Darllenwch y canllaw 10 cam i recriwtio cynhwysol.