Y ‘ddinas 15 munud’ yn ysbrydoli treftadaeth Cymru
Caru eich ardal
Er bod amgylchiadau'r chwe mis diwethaf wedi bod yn heriol i bawb, un ffactor hynod gadarnhaol i ddod o'r pandemig yw mwy o ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o'n hamgylchedd lleol.
Mae llawer ohonon ni, a minnau‘n un ohonynt, yn euog o beidio â gwerthfawrogi'r hyn rydyn ni’n ddigon ffodus i'w ganfod ar garreg ein drws. Weithiau rydyn ni mor gyfarwydd â'n hamgylchedd bob dydd fel na allwn ni weld yn glir pa bethau diddorol a phwysig sydd o'n cwmpas.
Ond yn ddiweddar, mae aros yn lleol a cherdded mwy wedi golygu fy mod wedi dod i ailadnabod llwybrau natur a thirnodau lleol roeddwn i wedi eu hen anghofio – pleser pur. Ac rwy'n gwybod nad fi yw’r unig un sydd wedi cael codi fy nghalon fel hyn; mae’n ddigon hysbys y gall cysylltu unigolion â natur a threftadaeth gyfrannu'n aruthrol at ymdeimlad o les a phwrpas.
Cyllid i dreftadaeth eich milltir sgwâr
Mae treftadaeth leol yn rhywbeth rydyn ni wedi bod yn ei hyrwyddo ers tro byd yma yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, felly pan gysylltodd CADW, y corff amgylchedd hanesyddol â ni a chynnig cydweithio i ddarparu cyllid newydd ar gyfer treftadaeth eich milltir sgwâr, wrth gwrs, gwnaethon ni fachu ar y cyfle ar unwaith.
Gyda’n gilydd, fe lansion ni’n ddiweddar ein rhaglen Grantiau Treftadaeth Eich Milltir Sgwâr newydd sbon - a ysbrydolwyd gan y cysyniad o ‘ddinas 15 munud’ ddatblygwyd yn ddiweddar gan yr Athro Carlos Moreno ym Mhrifysgol Sorbonne ym Mharis - a fydd yn helpu pobl i gryfhau'r cysylltiadau sydd ganddyn nhw â'u hamgylchedd cyfagos.
Ymdeimlad o le ac o berthyn
Yn y Gronfa Dreftadaeth, rydyn ni’n ystyried 'treftadaeth' nid yn unig fel amgueddfeydd, cestyll ac adeiladau hanesyddol – er ei bod yn cynnwys y pethau hynny i gyd wrth gwrs – ond fel unrhyw beth sy'n eich helpu i deimlo eich bod yn perthyn mewn lle neu i le. Mae cof diwylliannol yr un mor bwysig ag unrhyw beth cyffyrddadwy: nid yw'r ffaith na allwch gyffwrdd rhywbeth yn golygu na all gyffwrdd â chi.
Efallai pan glywch ddarn penodol o gerddoriaeth o'r capel lleol, neu pan bostiwch lythyr yn yr un blwch post ag a ddefnyddiodd eich rhieni neu eich neiniau a theidiau, neu pan archebwch bysgod a sglodion o siop sydd wedi bod yn llawer o bethau yn ei chymuned ers ei hadeiladu 200 mlynedd yn ôl, eich bod yn teimlo'r atyniad hwnnw, yr ymdeimlad arbennig hwnnw o berthyn.
Yr ymdeimlad hwn o le rydyn ni eisiau helpu pobl i’w roi ar gof a chadw gyda'r grantiau newydd hyn, i'w hannog i gofnodi eu straeon a chael gwybod mwy am ble maen nhw’n byw.
Gallai olygu creu llwybrau cerdded newydd, arddangosfeydd ffenestri llawn gwybodaeth, adnoddau digidol neu baneli dehongli deniadol. Bydd syniadau arloesol ar gyfer nodi a dathlu treftadaeth leol gan ddefnyddio celf, theatr neu adrodd straeon hefyd yn cael eu croesawu, os ydyn nhw’n ysbrydoli pobl i gymryd mwy o ddiddordeb yn eu mannau lleol.
Cadw atgofion yn fyw
Mae treftadaeth leol yn gwneud ac yn llunio’r gymuned o'i hamgylch, ac mae'n rhywbeth y dylai pawb gael mynediad ati, a'r cyfle i’w gwerthfawrogi a’i deall.
Diolch i’n partneriaeth â CADW a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd pobl yn cael cyfle i gadw eu hatgofion o'u tirwedd leol a'u cadw'n fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn bersonol, allai ddim aros i weld syniadau pobl a helpu i'w gwireddu.
Gwneud cais am Grant Trysorau y Filltir Sgwâr
Mae grantiau o rhwng £3,000 a £10,000 ar gael, gyda phroses ymgeisio syml, fydd yn rhoi cymorth i amrywiaeth enfawr o wahanol weithgareddau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi 14 Hydref a rhaid i brosiectau fod wedi eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2021.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.heritagefund.org.uk/funding.