Treulio Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gartref
O aros yn y cartref a gwersi dawnsio swing ar-lein i ddramâu radio, arddangosfeydd ar-lein a sgyrsiau, mae prosiectau a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn sicrhau nad anghofir 75 mlynedd ers buddugoliaeth yn Ewrop.
Atgofion o Ddyfnaint
Un o'r rhai sy'n cofio diwrnod VE, a oedd yn nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop yn 1945, yw Mary Overill, 98 oed. Bu'n gweithio yn Awyrlu Atodol y Merched yn ystod y rhyfel, gan gynnwys yn y Weinyddiaeth Awyr yn Whitehall. Mae'n cofio gadael ei swyddfa fraich-ym-mraich gyda'i ffrind.
"Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth, roedd pobl ym mhobman, yn bloeddio, gweiddi a dawnsio yn y stryd!"
Mary Overill, 90 oed
Meddai: "Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth, roedd pobl ym mhobman, yn bloeddio, gweiddi a dawnsio yn y stryd! Roeddwn i'n teimlo ychydig yn ofnus o fod mewn tyrfa mor enfawr, ond fe ymunon ni â'r miloedd a gasglodd y tu allan i Balas Buckingham i godi calon y teulu Brenhinol."
Mae ei stori'n cael ei hadrodd fel rhan o gyfnod o 10 diwrnod cyn Diwrnod VE gan bishopsteignton Heritage yn ne Dyfnaint.
Straeon o Harrow
Roedd Mike Pearce, sy’n 82 oed bellach, yn byw yn Harrow, Llundain, yn 1945. Roedd yn saith pan ddaeth y rhyfel i ben. Mae'n cofio: "diwrnod VE wnaeth i ni gyd deimlo'n llawn llawenydd.
"Roedd y partïon stryd, lle buom yn dathlu gyda chymdogion, yn llawer o hwyl gyda baneri a byrddau yn llawn danteithion."
Mike Pearce, 82 oed
"Roedd y wybodaeth fod y rhyfel drosodd ac na fyddai rhagor o fomio na bygythiad o gael eu gorchfygu gan y Natsïaid yn hollbwysig ...
"Roedd y partïon stryd, lle buom yn dathlu gyda chymdogion, yn llawer o hwyl gyda baneri a byrddau yn llawn danteithion gyda phob math o bethau a oedd fel arfer yn cael eu gweini ar ben-blwyddi. Roedd bywyd yn llawn goleuni a hapusrwydd."
Stori tristach yn ystod y rhyfel o Harrow yw un Betty, 90 oed, sy'n cofio'n fyw am y bore syrthiodd bom ar ei thŷ. Roedd yn ddiwrnod hiraf y flwyddyn, 21 Mehefin 1944.
Wedi dod yn ôl o aros mewn lloches drwy'r nos, roedd Betty, oedd yn 14 oed ar y pryd, yn cuddio tu ôl i ddrws y gegin wrth i'w rhieni a'i chwaer gael eu lladd gan fom.
Oherwydd y profiad trasig yma, mae Betty yn cofio peidio â dathlu mor galed ag y gwnaeth llawer o bobl eraill ar ddiwrnod VE. Ymunodd yn y dathliadau gyda ffrindiau o'r gwaith wrth iddynt ddod i Lundain, ond ar gyfer Betty, roedd yn foment o fyfyrdod – y tro cyntaf ers talwm yr oedd hi'n teimlo fel y gallai ymlacio.
Dod o hyd i fwy o straeon
Bydd straeon Betty a Mike yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa yn Headstone Manor & Museum, Harrow. Y bwriad ar hyn o bryd yw agor ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.
Yn y cyfamser mae'r Amgueddfa'n cynnig gweithgareddau diwrnod VE ar eu gwefan yn ogystal â blas o’r arddangosfa ar Pinterest.
Mwy am ddiwrnod VE
- Gellir gweld rownd o ddigwyddiadau allweddol ar wefan VE Day 75.
- Darganfyddwch fwy o syniadau ar sut i gymryd rhan mewn treftadaeth o gartref.