Heritage Grants
Casglodd 'Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol' straeon cyfeillgarwch a pherthnasoedd 60 o bobl ag anabledd dysgu drwy sgyrsiau gyda nhw, eu ffrindiau, partneriaid neu aelodau o'r teulu.
A oedd gan wahanol grwpiau oedran brofiadau gwahanol?
Roedd y prosiect tair blynedd yn canolbwyntio'n bennaf ar straeon dau grŵp oedran – pobl rhwng 18 a 25 oed a phobl 45 oed a throsodd – ac archwiliodd a oedd profiad y ddau grŵp yn wahanol.
Roedd 'Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol' yn cynnwys amrywiaeth o bobl ag anabledd dysgu gan gynnwys y rhai â chymorth un-i-un, y rhai â chymorth cyfyngedig neu ddim cymorth ffurfiol a'r rhai sy'n byw gyda rhieni neu aelodau eraill o'r teulu.
Grymuso pobl ag anableddau dysgu
Cafodd y cyfranwyr eu hunain eu grymuso i benderfynu sut y byddai eu straeon yn cael eu hadrodd a sut y byddent yn cael eu cynrychioli mewn 80 o arddangosfeydd cyhoeddus 'Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol' a digwyddiadau dros dro ledled y wlad.
Recriwtiodd y prosiect dri 'llysgennad' a swyddog prosiect ag anabledd dysgu a hyfforddwyd 60 o wirfoddolwyr i'w gyflawni.
Lansiwyd ap symudol hefyd fel y gallai pobl gael gafael ar y straeon a gasglwyd ac maent hefyd yn rhan o Gasgliad y Werin Cymru.