Local Places for Nature - Breaking Barriers
Mae pobl o dros 35 o wahanol grwpiau ethnig yn byw yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, sy'n un o'r rhannau mwyaf difreintiedig o safbwynt economaidd yng Nghymru. Mae tlodi, diffyg iaith Saesneg a sgiliau llythrennedd digidol, a diffyg mannau awyr agored gwyrdd diogel yn rhwystro mynediad pobl at fyd natur.
Creu cynllun lleol ar gyfer natur
Defnyddiodd SRCDC eu cysylltiadau presennol â phobl leol i wneud gwahaniaeth o ran mynediad at natur yn eu cymdogaeth.
Gan weithio’n agos gyda’r gymuned leol fe wnaethant gyd-greu cynllun lleol ar gyfer natur i drefnu eu syniadau a chynllunio sut i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i greu mannau lleol ar gyfer natur.
Roedd yr Awdurdod Lleol, cynghorwyr lleol a sefydliadau lleol yn frwd o blaid y cynllun, a sicrhaodd fod gan y prosiect etifeddiaeth barhaus.
Hyfforddiant arweinyddiaeth prosiectau natur
Cynhaliodd y prosiect hefyd gyrsiau arweinyddiaeth chwe mis, a ddysgodd 40 o bobl leol o gefndiroedd cymunedol ethnig amrywiol sut i redeg prosiectau natur cymunedol.
Bu i gyfranogwyr y cwrs weithio gydag addysgwr bywyd gwyllt proffesiynol a dysgu am fyd natur a bywyd gwyllt yn eu cymdogaeth. Wedi hynny cefnogodd dau hwylusydd prosiect y cyfranogwyr i ddatblygu ac arwain eu syniad prosiect gwyrddu lleol eu hunain.
Darparodd SRCDC gymorth iaith, TG a gofal plant hefyd, gan gydnabod anghenion ychwanegol y cyfranogwyr.
Ariannwyd y prosiect Greening Riverside drwy'r cynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: Chwalu Rhwystrau, sy'n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.