Caroline Crewe-Read

Caroline Crewe-Read

Gwraig mewn simper 'polo neck' ddu yn sefyll o flaen silff lyfrau
Role
Aelod o Bwyllgor Cymru
Mae Caroline wedi treulio ugain mlynedd yn gweithio yn sector amgylchedd hanesyddol Cymru a Lloegr.

Gweithiodd Caroline gyda Chomisiwn Adeiladau a Henebion Hanesyddol Lloegr rhwng 2003-2020 a bu mewn rolau codi arian a rheoli rhaglenni a phrosiectau. Bu'n gyfrifol am gyflwyno'r gwaith hanesyddol o wahanu'r Comisiwn i English Heritage Trust a Historic England yn 2015. Yna, bu i Caroline sefydlu ac arwain Tîm Partneriaethau a Dyngarwch cyntaf Historic England, gan godi £5.8 miliwn tuag at amrywiaeth o brosiectau'n gysylltiedig â Threftadaeth mewn Perygl, yr Archif, sgiliau a phrentisiaethau.

Mae Caroline yn Gadeirydd Dros Dro Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ar ôl bod yn Gomisiynydd ers 2016. Yn y rôl hon mae hi'n helpu i gynghori a llywio gwaith y Comisiwn i sicrhau bod treftadaeth amhrisiadwy ac anadnewyddadwy Cymru'n cael ei chofnodi, ei deall, ei gwarchod a'i gwella. Roedd Caroline yn Gadeirydd Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol y Comisiwn rhwng 2017 a 2024.

Mae gan Caroline MPhil mewn Rheoli Treftadaeth Archeolegol o Brifysgol Caergrawnt ac MA mewn Astudiaethau Dyngarol o Brifysgol Caint. Mae hi'n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn byw yn Nhrefynwy.