Fel Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Cyflawni Busnes, mae Anne yn arwain y gyfarwyddiaeth sy'n gyfrifol am gyflawni cenhadaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy ymgysylltu a buddsoddi, a thrwy ddatblygu partneriaethau strategol, ledled y DU yn lleol ac yn genedlaethol.
Cyn hynny, roedd Anne yn Gyfarwyddwr Lloegr, Canolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr, lle bu'n gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni pob agwedd ar strategaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar draws yr ardal. Cyn hyn roedd hi'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau. Fel rhan o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, bu'n goruchwylio gwaith chwech o'r timau gweithredol rhanbarthol a gwleydydd blaenorol. Roedd hi hefyd yn gyfrifol am y tîm cyfreithiol a Mannau Addoli Rhestredig Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol: Cronfa Atgyweirio'r To.
Ymunodd Anne â Chronfa Treftadaeth y Loteri ym mis Tachwedd 1999 fel Rheolwr Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr. Yn 2002, symudodd i fod yn Bennaeth tîm Gorllewin Canolbarth Lloegr a sefydlu canolfan y tîm yn ei dinas enedigol, Birmingham.
Cyn ymuno â'r Gronfa Treftadaeth, gweithiodd Anne yn y gwasanaeth sifil ac roedd ganddi amrywiaeth o rolau yn yr Adran Masnach a Diwydiant a Swyddfa'r Llywodraeth Gorllewin Canolbarth Lloegr. Roedd nifer o'r rolau hynny'n ymwneud â delio â grantiau llywodraeth y DU ac Ewrop i ddiwydiant ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf ac arloesi.
Astudiodd Anne Hanes Canoloesol a Modern ym Mhrifysgol Birmingham ac mae ganddi MPhil yn hanes cymdeithasol-wleidyddol canoloesol cynnar de Swydd Stafford.