Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect

Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect

See all updates
Os ydych wedi derbyn grant gennym ni, bydd angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth am brosiectau fel y gallwn gasglu data am effaith ein cyllid.

Defnyddiwch y dudalen hon i:  

  • weld pa gwestiynau sy'n ymddangos yn y dasg Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect
  • cael arweiniad ar y ffordd orau o ateb y cwestiynau

Os dyfernir grant i chi, bydd angen i ni ofyn i chi am wybodaeth ychwanegol cyn i chi naill ai:

  • dderbyn eich contract grant ar gyfer grantiau rhwng £10,000 a £250,000
  • cael eich taliad cyntaf am grantiau datblygu o dan £250,000
  • gofyn am eich taliad cyntaf am grantiau datblygu a chyflwyno rhwng £250,000 a £10 miliwn

Gofynnwn y cwestiynau hyn i helpu i gasglu data ar effaith ein cyllid. Rydym yn casglu tystiolaeth o bob rhan o'n portffolio i helpu i lywio ein hymarfer a sut rydym yn cyflwyno ein strategaeth. Darganfyddwch fwy am sut rydym yn mesur ein heffaith yn ein Cynllun Cyflwyno Treftadaeth 2033.

Mae gan bob cwestiwn derfyn geiriau; fodd bynnag, nid oes angen i chi gyrraedd hyn. Dylech gynnwys gwybodaeth sydd ond yn berthnasol i'ch prosiect.

Os yw eich prosiect yn y cam datblygu, rydym yn deall efallai na fyddwch yn gallu darparu union ffigurau i ateb rhai o'n cwestiynau. Os felly, rhowch eich dyfynbris gorau i ni.

Ynglŷn â’r bobl fydd yn cefnogi eich prosiect

Faint o’r staff presennol fydd yn gweithio ar eich prosiect?

Dywedwch wrthym am unrhyw staff sydd eisoes yn gweithio i'ch sefydliad a fydd yn gweithio ar eich prosiect. Dylai hyn fod mewn swydd â thâl nad yw'n brentisiaeth nac yn hyfforddeiaeth. Byddwn yn gofyn am brentisiaethau a hyfforddeiaethau nes ymlaen.  

Mae hyn yn cynnwys costau staffio sydd wedi'u cynnwys o dan unrhyw gyllideb adennill costau llawn.

Help gyda chyfrifiadau cyfwerth ag amser llawn: Mae cyfwerth ag amser llawn (CALl) yn hafal i nifer yr oriau y bydd cyflogai amser llawn yn treulio yn gweithio ar eich prosiect bob wythnos. Er enghraifft, mewn sefydliad lle mae amser llawn yn cyfateb i 35 awr yr wythnos:  

  • os bydd aelod staff amser llawn yn treulio pob un o'r 35 awr o'u hwythnos waith ar eich prosiect, y CALl ar gyfer eu rôl fyddai 1.0
  • os bydd aelod staff amser llawn yn treulio dim ond 17.5 awr o'u hwythnos waith ar eich prosiect a'r gweddill ar eu dyletswyddau arferol, y CALl ar gyfer eu rôl yn y prosiect fyddai 0.5
  • os bydd aelod o staff rhan-amser sy'n gweithio 17.5 awr yr wythnos yn treulio eu holl amser gwaith ar eich prosiect, y CALl ar gyfer y rôl fyddai 0.5

Rhowch y wybodaeth hon i ni fel cyfrifiad cyfwerth ag amser llawn (CALl).

A fyddwch yn creu unrhyw swyddi newydd i gyflwyno eich prosiect?

Rhowch wybod i ni a fyddwch chi’n creu swyddi newydd i helpu i gyflwyno eich prosiect.

  • Ni fyddwn yn creu unrhyw swyddi newydd
  • Byddwn yn creu swyddi newydd

Os byddwch: Faint o swyddi newydd byddwch chi'n eu creu?  

Rhowch y wybodaeth hon i ni fel cyfrifiad cyfwerth ag amser llawn (CALl).

A fydd unrhyw prentisiaid presennol yn gweithio ar eich prosiect?

Mae prentisiaeth yn swydd gyflogedig lle mae gweithiwr yn dysgu yn y swydd, gan ennill profiad gwerthfawr yn eu maes dewisol. Os bydd unrhyw brentisiaid sydd eisoes gennych yn gweithio i'ch sefydliad yn cymryd rhan yn eich prosiect, rhowch wybod i ni yma.

  • Ni fydd unrhyw brentisiaid presennol yn gweithio ar ein prosiect
  • Bydd prentisiaid presennol yn gweithio ar ein prosiect

Os bydd: Faint o brentisiaid presennol fydd yn gweithio ar eich prosiect? [Rhowch rif]  

Rhowch wybod i ni beth fydd cyfanswm nifer y bobl.

A fyddwch chi'n creu unrhyw brentisiaethau newydd i gefnogi eich prosiect?

Efallai y byddwch chi’n darparu prentisiaethau newydd drwy eich prosiect. Os byddwch, rhowch wybod i ni am y cyfleoedd hyn.  

  • Ni fyddwn yn creu prentisiaethau newydd i gefnogi ein prosiect
  • Byddwn yn creu prentisiaethau newydd i gefnogi ein prosiect

Os byddwch: Faint o brentisiaethau newydd byddwch chi'n eu creu?

Rhowch wybod i ni beth fydd cyfanswm nifer y bobl.

A fydd unrhyw hyfforddeion presennol yn gweithio ar eich prosiect?

Mae hyfforddeiaethau yn swyddi hyfforddi yn y gwaith sy'n amrywio o ran hyd a strwythur, ac fe delir y Cyflog Byw Cenedlaethol, o leiaf. I gael mwy o wybodaeth am hyfforddeiaethau, darllenwch ganllawiau'r llywodraeth.  

  • Ni fydd unrhyw hyfforddeion presennol yn gweithio ar ein prosiect
  • Bydd hyfforddeion presennol yn gweithio ar ein prosiect

Os bydd: Faint o hyfforddeion presennol fydd yn gweithio ar eich prosiect?

Rhowch wybod i ni beth fydd cyfanswm nifer y bobl.

A fyddwch chi’n creu unrhyw hyfforddeiaethau newydd i gefnogi eich prosiect?

Rhowch wybod i ni a fyddwch chi’n darparu unrhyw hyfforddeiaethau newydd fel rhan o'ch prosiect, ac os byddwch, faint.

  • Ni fyddwn yn creu hyfforddeiaethau newydd i gefnogi ein prosiect
  • Byddwn yn creu hyfforddeiaethau newydd i gefnogi ein prosiect

Os byddwch: Faint o hyfforddeiaethau newydd byddwch chi'n eu creu?

Rhowch wybod i ni beth fydd cyfanswm nifer y bobl.

A fydd unrhyw wirfoddolwyr presennol yn gweithio ar eich prosiect?

Mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr presennol yn eich sefydliad a fydd yn gweithio ar eich prosiect.

  • Ni fydd gwirfoddolwyr presennol yn gweithio ar ein prosiect
  • Bydd gwirfoddolwyr presennol yn gweithio ar ein prosiect

Os bydd: Faint o wirfoddolwyr presennol fydd yn gweithio ar eich prosiect?

Rhowch wybod i ni beth fydd cyfanswm nifer y bobl.

A fyddwch chi’n creu unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli newydd i gyflwyno eich prosiect?  

Rhowch wybod i ni am unrhyw swyddi neu gyfleoedd gwirfoddoli newydd y byddwch yn eu creu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno eich prosiect.

  • Ni fyddwn yn creu unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli newydd
  • Byddwn yn creu cyfleoedd gwirfoddoli newydd

Os byddwch: Faint o gyfleoedd gwirfoddoli newydd byddwch chi'n eu creu i gyflwyno eich prosiect?

Rhowch wybod i ni beth fydd cyfanswm nifer y bobl.

Ynglŷn ag unrhyw ymwelwyr â’ch prosiect

A fydd eich prosiect yn cynnwys denu ymwelwyr?

Rhowch wybod i ni a fydd eich prosiect yn denu ymwelwyr i'ch sefydliad, safle neu ardal. Mae hyn yn cynnwys pobl a fydd yn ymweld â'ch prosiect ar y safle ac ar-lein.

  • Ni fydd ein prosiect yn cynnwys denu ymwelwyr
  • Rydym yn denu ymwelwyr ar hyn o bryd a byddwn yn parhau i wneud hynny fel rhan o'r prosiect
  • Bydd, er nad ydym yn denu ymwelwyr ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio gwneud hynny fel rhan o'r prosiect

Os ydych chi wedi dewis un o'r opsiynau cadarnhaol: Sut bydd pobl yn ymweld â'ch prosiect?

Efallai y bydd pobl yn ymweld â'ch prosiect ar y safle neu mewn digwyddiadau y gallech eu trefnu fel rhan o weithgarwch eich prosiect.  

Efallai y byddant yn ymweld â'ch prosiect ar-lein, hefyd. Mae ymwelwyr ar-lein yn cynnwys:

  • pobl sy'n defnyddio adnoddau digidol rydych chi wedi'u creu
  • ymwelwyr â'ch gwefan
  • tanysgrifwyr i unrhyw gylchlythyrau sydd gennych
  • dilynwyr ar eich cyfryngau cymdeithasol

Dewiswch pob un sy'n berthnasol.

  • Ymwelwyr ar y safle
  • Ymwelwyr ar-lein

Os dewiswyd yr opsiwn ‘Rydym yn denu ymwelwyr ar hyn o bryd a byddwn yn parhau i wneud hynny fel rhan o'r prosiect', dewiswch flwch ticio:  

Nifer yr ymwelwyr ar y safle

  • Faint o ymwelwyr ar y safle a gawsoch yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf? Rhowch y wybodaeth hon i ni fel cyfanswm, nid ymweliadau unigol.

Nifer yr ymwelwyr ar-lein

  • Faint o ymwelwyr ar-lein gawsoch chi yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf? Dylai hyn fod yn gyfanswm nifer yr ymwelwyr, nid ymweliadau unigol.

Ynglŷn ag effaith carbon eich prosiect

A yw eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf a fydd yn cynnwys gwaith ar adeiladau?

Gallai hyn gynnwys gwaith adeiladu o’r newydd neu adnewyddu, cadwraeth ac atgyweirio unrhyw adeiladau sy'n rhan o'r prosiect. Nid yw hyn yn cynnwys gwaith cyfalaf nad yw'n cynnwys gwaith ar adeiladau, fel gwaith ffisegol i dirweddau a chynefinoedd, digideiddio neu waith i sefydlogi cyflwr gwrthrychau.  

Mae hyn ar gyfer adeiladau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect yn unig.  

  • Na, nid yw ein prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf sy'n cynnwys gwaith ar adeiladau
  • Ydy, mae ein prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf sy'n cynnwys gwaith ar adeiladau

Os ydy: Rhowch wybod i ni pa fath o waith cyfalaf y byddwch yn ei wneud

Dewiswch bob un sy'n berthnasol

  • Adeilad newydd [Ticiwch y blwch]
  • Atgyweirio a chadwraeth [Ticiwch y blwch]  

Os bydd o leiaf 'Adeilad newydd' wedi cael ei ddewis:

Beth fydd cyfanswm arwynebedd y llawr mewnol ar gyfer yr adeiladau rydych chi'n eu hadeiladu pan fydd y gwaith cyfalaf wedi'i gwblhau?  

Dylai hyn fod yn gyfanswm arwynebedd llawr ar gyfer pob adeilad newydd sy'n rhan o'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys pob llawr ym mhob adeilad. Rhowch fesur yr arwynebedd llawr mewn metrau sgwâr.

Os bydd o leiaf 'Atgyweirio a chadwraeth' wedi cael ei ddewis:

Beth fydd cyfanswm arwynebedd y llawr mewnol ar gyfer yr adeiladau rydych chi'n eu hatgyweirio neu warchod pan fydd y gwaith cyfalaf wedi'i gwblhau?  

Dylai hyn fod yn gyfanswm arwynebedd llawr ar gyfer pob adeilad sy’n cael eu hatgyweirio neu warchod sy'n rhan o'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys pob llawr ym mhob adeilad. Rhowch fesuriad yr arwynebedd llawr mewn metrau sgwâr.  

Dywedwch wrthym y brif ffynhonnell wres ar gyfer adeilad neu adeiladau'r prosiect

Dywedwch wrthym am y prif ffordd rydych chi'n gwresogi unrhyw adeiladau sy'n  uniongyrchol gysylltiedig â'ch prosiect. Er enghraifft, os ydych yn cadw adeilad hanesyddol, dywedwch wrthym sut y bydd yn cael ei gynhesu yn ystod ac ar ôl y prosiect.  

Os oes unrhyw waith adeiladu neu adnewyddu yn cynnwys gosod system wresogi newydd, dywedwch wrthym ba fath o ffynhonnell wres rydych chi'n bwriadu ei gosod.  

Os nad yw eich prif ffynhonnell wres ar y rhestr, er enghraifft tanwydd solet, dewiswch 'Arall' a rhowch fwy o wybodaeth i ni.

Mae hyn ar gyfer adeiladau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'ch prosiect yn unig.

  • Nwy
  • Olew
  • Trydan
  • Pwmp Gwres
  • Arall

Os dewiswyd 'Arall': Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y ffynhonnell wres hon  

[Maes testun – 50 gair]

A yw eich holl drydan ar gyfer eich prosiect yn dod o ffynonellau adnewyddadwy?

Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cynnwys ynni solar, hydrodrydannol a phŵer gwynt.  

Dylech allu cael y wybodaeth hon gan eich cyflenwr ynni. Os byddwch yn dewis 'Na, nid yw ein holl drydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy', byddwn yn cyfrifo eich cymysgedd ynni yn seiliedig ar adroddiadau'r llywodraeth sy'n darparu cyfartaledd allyriadau carbon ar draws sefydliadau yn y DU. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich dyfarniad grant. I gael mwy o wybodaeth am ynni adnewyddadwy, darllenwch ein Canllaw Arfer Da: Cynaliadwyedd Amgylcheddol.  

  • Na, nid yw ein holl drydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy  
  • Na, ond rydym eisiau cyflawni hyn fel rhan o'n prosiect
  • Ydy, mae ein holl drydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy

A fydd eich prosiect yn golygu newid yn y defnydd tir?

Os yw eich prosiect yn cynnwys gweithio ar dir, gan gynnwys gwarchod neu greu tirwedd neu gynefin, mae angen i ni wybod a fydd gweithgaredd eich prosiect yn newid y defnydd o'r tir. Gallai hyn gynnwys:

  • cael gwared ar ardaloedd glaswellt neu gynefinoedd i greu adeilad neu arwyneb caled fel maes parcio
  • creu cynefinoedd newydd fel gwlyptir neu goetir ar dir fferm âr neu ardaloedd o dan laswellt amwynder
  • creu cynefinoedd newydd ar ardal a oedd yn balmantog neu wedi’i gorchuddio gan adeilad yn flaenorol

Gall newidiadau defnydd tir gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar allyriadau carbon ac iechyd y tir, gan ddibynnu ar yr hyn a wneir. Mae angen i ni wybod hyn fel y gallwn adrodd ar effaith amgylcheddol y prosiectau rydym yn eu hariannu. Hyd yn oed os dim ond ar ran o'r tir y mae hyn ac nid ar y cyfan, dewiswch 'Bydd' i roi gwybod i ni amdano.

  • Ni fydd ein prosiect yn cynnwys newid defnydd tir
  • Bydd ein prosiect yn cynnwys newid defnydd tir

Ynghylch cydnabod eich grant

Sut ydych chi'n bwriadu cydnabod eich grant?

Rhaid i bob derbynnydd grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gydnabod ein cefnogaeth yn gyhoeddus. Rhowch wybod i ni sut rydych chi’n bwriadu cydnabod ein cefnogaeth. Bydd angen i chi adrodd ar sut rydych chi wedi cyflawni hyn wrth gyflwyno eich prosiect.

Ewch i’n tudalen cydnabod a darllenwch y pecyn cymorth sy'n berthnasol i'ch rhaglen grant cyn cwblhau'r adran hon.

Dewiswch bob un sy'n berthnasol

  • Sianeli digidol gan gynnwys fideo, gwefan a chyfryngau cymdeithasol
  • Deunyddiau wedi’u hargraffu
  • Cysylltiadau cyhoeddus
  • Arwyddion (mewnol ac allanol)
  • Digwyddiadau lansio, dathlu a phen-blwydd
  • Arddangosfeydd, arddangosion ac arddangosiadau ac arteffactau
  • Dillad a deunyddiau hyrwyddo â brand arnynt  
  • Enwi gofod newydd (ar gyfer prosiectau dros £1m)
  • Arall

Os dewiswyd 'Arall': Rhowch wybod i ni am y math hwn o gydnabyddiaeth  

[Maes testun – 50 gair]

Gwiriwch eich atebion

Cewch weld crynodeb o'ch holl atebion.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i fynd yn ôl a newid ateb, os bydd angen.

Cyflwyno gwybodaeth am y prosiect

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar ôl i chi gyflwyno gwybodaeth am y prosiect, byddwch yn gallu:

  • derbyn eich contract grant ar gyfer grantiau rhwng £10,000-£250,000
  • cael eich taliad cyntaf am grantiau datblygu o dan £250,000
  • gofyn am eich taliad cyntaf am grantiau rhwng £250,000 a £10m

Diweddariadau i’r canllaw

Byddwn yn adolygu'r canllaw hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth defnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau, yn ôl yr angen. Byddwn yn cyfleu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen hon.