Cymru: penderfyniadau pwyllgor Mawrth 2025
Ceisiadau rownd ddatblygu Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £250,000 i £10million
Achub Ein Treftadaeth Berllan; Saving Our Orchard Heritage
Ymgeisydd: The Orchard Project (Cause) Ltd
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae The Orchard Project yn cynnig prosiect 5 mlynedd (datblygu un flwyddyn, cyflwyno 4 blynedd) i gefnogi ac annog cymunedau ar draws Cymru i ddysgu am, adfer, creu, gofalu am a dathlu perllannau cymunedol traddodiadol. Mae rhestr o 34 o safleoedd ar y rhestr fer ledled Cymru wedi’i chyflwyno, a fydd yn cael ei mireinio yn ystod y cam datblygu.
Penderfyniad: Gwrthod
Ceisiadau rownd gyflwyno'r FfAS
Parc yr Esgob Walled Garden Restoration and Multi-functional Space
Ymgeisydd: TYWI GATEWAY TRUST
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae’r prosiect yn ceisio adfer yr ardd furiog hanesyddol ym Mharc yr Esgob, Abergwili, gan ei thrawsnewid yn ofod hyblyg, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd, llesiant, a dysgu am dreftadaeth. Bydd y prosiect yn atgyweirio ac yn gwarchod nodweddion hanesyddol allweddol, gan gynnwys waliau'r gerddi o'r 18fed ganrif, adeileddau cwrtil, a gweddillion tri thŷ gwydr Fictoraidd, a fydd yn cael eu haddasu i gefnogi gweithgareddau treftadaeth, garddwriaeth, cynhyrchu bwyd ac addysgol. Ochr yn ochr â gwaith adfer ffisegol, bydd y prosiect yn creu rhwydwaith newydd o lwybrau, mannau eistedd, gofod perfformio, a deunyddiau dehongli yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan sicrhau bod y safle’n hygyrch ac yn ddeniadol i ystod eang o ymwelwyr.
Penderfyniad: Dyfarnu grant Cyflwyno o £1,215,118 (63%)
Tylorstown Welfare Hall and Institute
Ymgeisydd: Tylorstown Welfare Hall Limited
Disgrifiad o'r Prosiect: Nod y prosiect 3 blynedd 5 mis hwn yw atgyweirio ac adfer Neuadd Les Tylorstown fel y gall ddarparu arlwy treftadaeth, diwylliannol a chymdeithasol o ansawdd uchel i bobl y Rhondda Fach. Bydd y cynllun cynhwysfawr o welliannau ffisegol i’r adeilad yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â chynllun gweithgareddau uchelgeisiol a fydd yn sefydlu’r neuadd fel canolbwynt ar gyfer gweithgarwch cymunedol.
Penderfyniad: Dyfarnu grant Cyflwyno o £4,773,504 (74%)