Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mawrth 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Hen Gymraeg
Ymgeisydd: Sonal Gajanan Khade
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tri mis yw hwn sydd â’r nod o atgyweirio ac adfer yr eiddo rhestredig Gradd II yn 7 Stryd Moch, Pwllheli, sydd o dan berchnogaeth breifat.
Penderfyniad: Gwrthod
Heritage in Your hands
Ymgeisydd: Centre of Sign-Sight-Sound
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deunaw mis yw hwn sy’n ceisio creu cyfryngau a gwybodaeth hygyrch ar gyfer y gymuned colled synhwyraidd mewn amrywiaeth o safleoedd treftadaeth yng ngogledd Cymru.
Penderfyniad: Gwrthod
ABERDULAIS COMMUNITY HERITAGE HUB – Turning a Past into a Future for Non-Traditional Volunteering and Employment in Heritage in Neath Port Talbot.
Ymgeisydd: St Giles Trust
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect pymtheg mis (Mawrth 2025 – Mai 2026) sydd â'r nod o adfywio Sgydau Aberdulais trwy ennyn diddordeb y gymuned, gan ganolbwyntio ar recriwtio ac uwchsgilio tîm gwirfoddolwyr amrywiol, yn enwedig y rhai sy’n wynebu adfyd oherwydd tlodi, trosedd a gwahaniaethu, i gyflwyno gweithgareddau treftadaeth gan gynnwys teithiau tywysedig, prosiectau cadwraeth, a digwyddiadau cymunedol.
Penderfyniad: Gwrthod
Greekscapes – Recording the Hellenic Heritage in South Wales
Ymgeisydd: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn a fydd yn defnyddio dull a arloeswyd gan Layers of London Project i nodi sut mae cymunedau Groegaidd olynol wedi siapio a dylanwadu ar dde Cymru fodern a’i thirweddau trefol.
Penderfyniad: Gwrthod
Dafydd ap Gwilym and Persian Poetry
Ymgeisydd: Gritty Films
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deuddeg mis (Mawrth 2025 – Mawrth 2026) i ddod â barddoniaeth Gymraeg glasurol i gymunedau rhyng-genhedlaeth ac amrywiol yng Nghaerdydd a’r Cymoedd, gan archwilio gwaith y bardd Dafydd ap Gwilym a’r cysylltiadau â barddoniaeth glasurol o Bersia, yn benodol gwaith Hafez, bardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Penderfyniad: Gwrthod
Llais Tyisha – Capturing the lost voices of Tyisha, Llanelli to support the redevelopment of the area – Using the history and forgotten buildings by sharing and listening to stories.
Ymgeisydd: Peoplespeakup LTD
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd (Ebrill 2025 – Fawrth 2028) i gofnodi hanes, atgofion a straeon am bum adeilad a safle lleol nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, o gymuned leol Tyisha yn Llanelli.
Penderfyniad: Gwrthod
Preserving Our Heritage 2025
Ymgeisydd: Cynon Valley Museum Trust
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd yw hwn sydd â'r nod o ddatblygu cydnerthedd Amgueddfa Cwm Cynon, sydd wedi'i lleoli yn Aberdâr, RhCT, i sicrhau bod y casgliad sydd ganddi'n parhau i dderbyn gofal, bod yn fyw ac yn hygyrch i'r cyhoedd.
Penderfyniad: Gwrthod
Cynefin: Connecting with Habitats and Heritage at Bwlch Corog
Ymgeisydd: Coetir Anian
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o gadw, cofnodi a deall yn well treftadaeth ddiwylliannol ac anniriaethol Bwlch Corog gyda chyfranogiad y gymuned i ailgysylltu pobl leol â'r dreftadaeth ar garreg eu drws ac ailddatgan y cwlwm rhwng cymuned a thirwedd.
Penderfyniad: Gwrthod
Preservation of Heritage for the Community
Ymgeisydd: Eglwys Sant Cadog Caerllion
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deufis yw hwn i lanhau ac adfer rhai o nodweddion treftadaeth allweddol Eglwys Sant Cadog.
Penderfyniad: Gwrthod
Denbighshire Dunscape
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaethau Cefn Gwlad
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect pedair blynedd yw hwn sydd wedi’i leoli yn Nhwyni Gronant, Sir Ddinbych, gyda’r nod o reoli’r safle’n fwy effeithiol, a darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr a phrofiadau addysgol i gymunedau lleol.
Penderfyniad: Gwrthod
Cynnydd yn y Grant
Menter Ty'n Llan
Ymgeisydd: Menter Tŷ'n Llan Cyfyngedig
Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd o £133,537 yn y Grant i wneud cyfanswm grant o £1,842,993.
The Trinity Centre – Sanctuary for All
Ymgeisydd: Cardiff Methodist Circuit
Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd o £244,135 yn y Grant i wneud cyfanswm grant o £1,136,135. Cytuno ar newid yng nghanran y grant o 36% i 35.86%.