Cymru: cyfarfod dirprwyedig Chwefror 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Dolgarrog: Pentre Bach, Stori Fawr
Ymgeisydd: Cyngor Cymuned Dolgarrog
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn i adrodd hanes pentref Dolgarrog gan ddefnyddio'r achlysur 100 mlynedd yn ôl pan fu trychineb argae uwchben y pentref fel sylfaen.
Penderfyniad: Gwrthod
Gwarchod Treftadaeth Gŵyr: Cofleidio Arwyddion Dwyieithog i Ddathlu'r Iaith Gymraeg, Diwylliant, a Chynhwysiad ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol
Ymgeisydd: Y Felin Ddŵr
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae'r prosiect pum mis yn cynnwys cyflwyno arwyddion dwyieithog i sicrhau bod Canolfan Treftadaeth Gŵyr yn cynrychioli treftadaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru.
Penderfyniad: Gwrthod
The Steel Storybook: a community reclaiming its industrial heritage through the arts
Ymgeisydd: Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hon sy'n seiliedig ar dreftadaeth ddur Port Talbot. Bydd Prifysgol Abertawe, gan weithio gyda Theatr3 a Raspberry Creatives CIC, yn cynnal gweithdai gydag aelodau o'r gymuned i recordio archif sain o atgofion a storïau lleol yn ymwneud â threftadaeth ddur y dref.
Penderfyniad: Gwrthod
Learning from the Past: Giving to the Future
Ymgeisydd: Prosiect Down To Earth
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o gyflwyno amrywiaeth o raglenni addysgol â ffocws ar lesiant a chyrsiau hyfforddi mewn adeiladu traddodiadol a naturiol a rheoli tir cynaliadwy i bobl ifanc ac oedolion o grwpiau cymunedau difreintiedig ac agored i niwed yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gâr.
Penderfyniad: Gwrthod
Llwybrau Treftadaeth: Cysylltu Cymunedau a Bywyd Gwyllt Ceredigion
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect pedair blynedd yw hwn a fydd yn ceisio gwarchod treftadaeth naturiol Ceredigion rhag dirywiad ecolegol, cryfhau'r cysylltiad rhyngddi a phobl, gwella mynediad a dealltwriaeth a gwella bioamrywiaeth ar nifer o safleoedd ar draws y Sir.
Penderfyniad: Gwrthod
Art & Activism at the Heart of the Coalfield
Ymgeisydd: The Ystradgynlais Miners Welfare And Community Hall Trust Limited
Disgrifiad o'r Prosiect: Nod y prosiect dwy flynedd hwn yw dod â chenedlaethau gwahanol o gymuned Ystradgynlais, De Cymru ynghyd i archwilio a mwynhau eu treftadaeth trwy ddysgu digidol rhwng y cenedlaethau, recordio hanes llafar, gwneud baneri a dathlu cymunedol.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £46,242 (90%)
Tracks Through Time
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect un flwyddyn yw hwn sydd â’r nod o atgyweirio ac adfer adeilad rhestredig Gradd II y Sied Nwyddau Rheilffordd yn Llanelli, gan ei wneud yn gwbl cadarn rhag y tywydd a dŵr glaw at ddefnydd y gymuned.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £220,000 (50%)
Rockpool Rangers
Ymgeisydd: Beach Academy CIC
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd (Mawrth 2025 i Fawrth 2028) i wella gwybodaeth am byllau glan môr, cynnig cyfleoedd i ofalu amdanynt ac addysgu pobl sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i archwilio pyllau glan môr mewn ffordd sy’n lleihau niwed a difrod.
Penderfyniad: Gwrthod
Mynachlog Fawr – Emergency Repairs and Community Led Development
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect 9 mis yw hwn sydd â’r nod o gyflawni gwaith atgyweirio brys i ffermdy Mynachlog Fawr rhestredig gradd II*, ynghyd â darparu cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr ac unigolion â diddordeb.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £122,151 (94%)
Freshwater Futures – Creating resilient waterways and communities in Gwent
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd (Ebrill 2025 i Fawrth 2028) gyda'r nod o wella bioamrywiaeth dŵr croyw ac iechyd ecosystemau ar bum afon yng Ngwent trwy gynnwys cymunedau lleol mewn gweithgareddau sgiliau ymarferol a gwyddoniaeth dinasyddion i feithrin cysylltiad rhwng pobl a chreu model cynaliadwy ar gyfer cyfranogiad cymunedol hirdymor.
Penderfyniad: Gwrthod
Denbigh Museum at the Buttermarket (part of the larger project the Buttermarket Culture, Heritage and Wellbeing Centre)
Ymgeisydd: Denbigh Museum / Amgueddfa Dinbych
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd yw hwn i adleoli casgliad Amgueddfa Dinbych o'r Hen Lys Ynadon anaddas i'r Farchnad Fenyn restredig Gradd II ar ei newydd wedd yng nghanol tref Dinbych.
Penderfyniad: Gwrthod