Cymru: cyfarfod dirprwyedig Ionawr 2025

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Ionawr 2025

See all updates
Atodlen o benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru ar 7 Ionawr 2025.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Restoration of The Queen's Ballroom Exterior Façade

Ymgeisydd: Creations of Cymru Film and Media LTD

Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dau fis ar bymtheg (Ionawr 2025 i Mehefin 2026) i adfer ffasâd allanol adeilad Queen's Cinema yn Nhredegar.

Penderfyniad: Gwrthod

The Abercwmboi Hall, Institute and Heritage Project

Ymgeisydd: The Coal Industry Social Welfare Organisation

Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deunaw mis yw hwn sydd â'r nod o gyfeirio prosiect mwy yn y dyfodol i adfer ac ail-ddefnyddio Neuadd y Gweithwyr Abercwmboi fel hyb cymunedol cynaliadwy.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £146,923 (100%)

National Service: Veteran's Reflections

Ymgeisydd: Same but Different cic

Disgrifiad o'r Prosiect: Bydd y prosiect yn dod â Gwasanaeth Cenedlaethol yn fyw trwy storïau gweledol, clywedol ac ysgrifenedig gan dros 80 o filwyr. Bydd y prosiect yn cofnodi profiadau ac atgofion cyn-filwyr y Gwasanaeth Cenedlaethol ac yna'n sicrhau bod y storïau hyn ar gael trwy arddangosfeydd byw a digidol, podlediadau, ffilmiau a chyfryngau eraill.

Penderfyniad: Gwrthod

Botanical Colour – The Redpath Way

Ymgeisydd: Makepeace Studio CIC

Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deuddeg mis (Mawrth 2025 - Mawrth 2026) i ddogfennu, gwarchod ac archifo archif treftadaeth a ryseitiau lliw naturiol Margaret a David Redpath, perchnogion olaf Melin Wlân Wallis yn Nhreamlod, Sir Benfro. 

Penderfyniad: Gwrthod

The Old Library Wrexham's Creative Digital Hub

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae’r prosiect hwn yn rhan o brosiect 11 mis ehangach (a ariennir o ffynonellau eraill) sydd â’r nod o atgyweirio, adnewyddu ac ymestyn yr Hen Lyfrgell restredig Gradd II yng nghanol tref Wrecsam i ddod yn hyb digidol creadigol amlbwrpas newydd, gan gynnwys gofod ar gyfer arddangosfeydd, cerddoriaeth fyw a swyddfeydd i'w llogi.

Penderfyniad: Gwrthod

Wales: Serving the Nation – Stories of National Service 1947–63. A bilingual focus on compulsory military service in Wales. Cymru: gwasanaethu'r genedl - Storïau'r Gwasanaeth Gwladol 1947–63. Ffocws dwyieithog ar wasanaeth milwrol gorfodol yng Nghymru.

Ymgeisydd: Age Cymru Dyfed

Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â’r nod o gasglu storïau dros 75 o gyn-filwyr o’r Gwasanaeth Cenedlaethol, eu digideiddio drwy archif Cyn-filwyr Casgliad y Werin Cymru a’u rhannu drwy ymgysylltu â’r gymuned a digwyddiadau. Prosiect Cymru gyfan yw hwn.

Penderfyniad: Gwrthod

Securing the Past and Serving the Future

Ymgeisydd: Community Arts Rhayader And District

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae CARAD yn cynnig prosiect tair blynedd i ariannu tri aelod o staff i helpu sicrhau dyfodol agos yr amgueddfa, cynllunio arddangosfeydd, cynyddu ymgysylltiad cymunedol a sicrhau cynaladwyedd y sefydliad.

Penderfyniad: Gwrthod

Visions of Wales: Connecting communities in Powys with the life and legacy of the Davies sisters

Ymgeisydd: Oriel Davies Gallery

Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd (Ebrill 2025 i Fawrth 2028) i greu oriel ffocws ‘sbotolau’ diogel gyda hinsawdd a reolir yn ymroddedig i stori’r chwiorydd Davies yn Oriel Davies yng nghanol Y Drenewydd. Bydd yr oriel yn sefydlu rhaglen dreigl o arddangosfeydd gydag eitemau o gasgliad Davies ar fenthyg o amgueddfeydd eraill, ynghyd â rhaglen gydweithredol o weithgareddau ymgysylltu cymunedol.

Penderfyniad: Gwrthod