Cymru: penderfyniadau pwyllgor Tachwedd 2024
Ceisiadau rownd ddatblygu Treftadaeth 2033
Ein afon – Cleddau – our river
Ymgeisydd: PEMBROKESHIRE LOCAL ACTION NETWORK FOR ENTERPRISE AND DEVELOPMENT LIMITED
Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect hwn sy’n seiliedig ar le, a grëwyd ar y cyd â’r gymuned, yn archwilio, yn rhannu ac yn dathlu’r dirwedd, ecoleg, treftadaeth a diwylliant cymhleth sy’n aml yn gwrth-ddweud ei gilydd ar hyd Afon Cleddau yng nghanol Sir Benfro. Fel y mae'r aber a llednentydd yr afon yn cysylltu Sir Benfro â'r byd, bydd y prosiect yn cysylltu'r gymuned â'n treftadaeth a rennir.
Penderfyniad: Gwrthod
Lost Peatlands – Landscape Connections Project
Ymgeisydd: Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o'r Prosiect: Cyflwyno prosiect amlddisgyblaethol ar raddfa’r dirwedd i adfer, cysylltu a gwarchod treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymoedd De Cymru er budd y bobl a’r blaned. Galluogi adferiad byd natur ac addasu i newid yn yr hinsawdd trwy adfer/rheoli cynefinoedd, gwella cysylltedd a chadwraeth rhywogaethau bywyd gwyllt allweddol. Darparu cyfleoedd i gymunedau wella addysg, sgiliau a llesiant, a hyrwyddo creu lleoedd a gwarchod hunaniaeth ddiwylliannol trwy ddatgelu stori newid yn y dirwedd a sut mae pobl wedi rhyngweithio ag ef dros amser.
Penderfyniad: Dyfarniad grant rownd Datblygu o £263,309 (79% o gyfanswm costau datblygu cymwys) gyda grant cyflwyno posibl o £1,933,490 (76% o gyfanswm costau cymwys y prosiect)
Gregynog: Codi'r To
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Gregynog
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae prif ffocws y prosiect yn cynnwys atgyweiriadau brys ar y to, cadwraeth adeiladau yn gyffredinol, a gwell hygyrchedd ac ymgysylltiad cyhoeddus.
Penderfyniad: Dyfarniad grant rownd Datblygu o £866,591 (90% o gyfanswm costau datblygu cymwys) gyda grant cyflwyno posibl o £4,100,729 (90% o gyfanswm costau cymwys y prosiect)
Ceisiadau rownd gyflwyno'r FfAS
Un eitem sydd eto i'w chyhoeddi.