Cymru: cyfarfod dirprwyedig Tachwedd 2024

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Tachwedd 2024

See all updates
Atodlen o benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru ar 4 Tachwedd 2024.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

The Judge's Lodging: constructing a viable community resource

Ymgeisydd: The Judge's Lodging Trust Limited

Disgrifiad o'r Prosiect: Er mwyn sicrhau cydnerthedd ariannol, diogelu'r adeilad hanesyddol bwysig hwn, a chynnal ei ddefnydd gan y gymuned, bwriedir addasu'r fflat cadw tŷ blaenorol ar y llawr cyntaf yn ddau lety gwyliau.

Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd yn y Grant o £138,563 i wneud cyfanswm grant o £303,515

 

Flat Holm: A Walk Through Time 

Ymgeisydd: Cyngor Caerdydd

Disgrifiad o'r Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar adfer adeiladau treftadaeth allweddol a dod â stori’r ynys i gynulleidfa ehangach o ymwelwyr a’r rhai nad ydynt yn ymwelwyr.

Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd yn y Grant a Chytuno i newid yn y dibenion cymeradwy o £249,998 i wneud cyfanswm grant o £2,047,528

 

St Cadoc's Church Caerleon re-ordering project Phase 2

Ymgeisydd: Eglwys Sant Cadog Caerllion

Disgrifiad o'r Prosiect: Gwarchod yr eglwys ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol gan greu gofod ar gyfer addoli a defnydd gan y gymuned.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Afro Fiesta

Ymgeisydd: Wrexham Africa Community CIC

Disgrifiad o'r Prosiect: Nod Afro Fiesta yw dathlu a hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd Affricanaidd trwy ddigwyddiad cymunedol bywiog a chynhwysol.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Amgueddfa Dinbych yn y Farchnad Fenyn (rhan o brosiect mwy Canolfan Diwylliant, Treftadaeth a Lles y Farchnad Fenyn)

Ymgeisydd: Amgueddfa Dinbych

Disgrifiad o'r Prosiect: Byddai’r prosiect hwn yn cefnogi adleoli Amgueddfa Dinbych i’w safle newydd yn y Farchnad Fenyn, trosglwyddo ein casgliadau’n ddiogel, gosod dehongliadau newydd a gweithredu rhaglen gyffrous newydd o weithgareddau a digwyddiadau i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd a phresennol. Bydd hefyd yn cefnogi recriwtio gwirfoddolwyr newydd, gan gynnwys aelodau ifanc, i gefnogi’r gwaith o redeg yr amgueddfa, cyflwyno’r gweithgareddau a chynaladwyedd hirdymor y sefydliad.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £217,977 (92%)

 

Shared History: Safeguarding Heritage and Engaging Our Community

Ymgeisydd: Ymddiredolaeth Cwrt Insole

Disgrifiad o'r Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn ceisio gwella hyfywedd masnachol Cwrt Insole, ac yn ceisio gwarchod ymchwil gan Archive Volunteers.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Coridor Bywyd Gwyllt Cymdogaeth: Pen-y-bont ar Ogwr

Ymgeisydd: The Froglife Trust

Disgrifiad o'r Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth o'r angen i warchod amffibiaid ac ymlusgiaid Cymreig. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy weithio gyda chymunedau lleol sydd ar hyn o bryd heb eu gwasanaethu'n ddigonol gan y sector cadwraeth natur i greu Coridor Bywyd Gwyllt Cymdogaeth (NWC) trwy Ben-y-bont ar Ogwr.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £250,000 (72%)