Penderfyniadau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Medi 2024

Penderfyniadau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Medi 2024

See all updates
Atodlen o benderfyniadau a wnaed gan yr is-fwrdd cymorth grant nad yw'n dod o'r Loteri (is-set o Ymddiriedolwyr), 30 Medi 2024.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Cynllun grantiau cyfalaf sydd â'r nod o alluogi cymunedau yng Nghymru i gaffael, adfer a gwella natur.

Atodlen o benderfyniadau

Blaenau Gwent Flourish and Thrive

Ymgeisydd: Tai Calon Community Housing

Disgrifiad prosiect: Mae’r prosiect hwn yn rhan o strategaeth coetir a mannau gwyrdd gyffredinol y mae Tai Calon wedi’i datblygu. Blaenau Gwent yw un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid ardaloedd o dir nas defnyddir i hybiau tyfu bwyd ffyniannus.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £249,910 (100%)

Restoring Plas Gunter Gardens

Ymgeisydd: Plas Gunter Mansion Trust cyf

Disgrifiad prosiect: Rydym yn bwriadu aduno Plasty Plas Gunter â’r tir a fu unwaith yn erddi iddo er budd pawb yn ein cymuned. Bydd y tir, sydd ar hyn o bryd yn segur ac yn diffaith, yn cael ei adfer fel lle ar gyfer natur.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £250,000 (87%)

Hwb y Gors Community Garden

Ymgeisydd: Awel Aman Tawe

Disgrifiad prosiect: Mae’r prosiect hwn yn gofyn am ariannu i ddatblygu maes chwarae’r hen ysgol yn yr hwb cymunedol carbon isel newydd: Hwb y Gors (HyG) yn fan cymunedol gwyrdd gyda ffocws ar fioamrywiaeth, iechyd meddwl cadarnhaol, tyfu bwyd a chynefinoedd bywyd gwyllt.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £99,821 (35%)

The Hafod Garden Park

Ymgeisydd: Coastal Housing Group Limited

Disgrifiad prosiect: Bydd y prosiect hwn yn creu Parc Gardd awyr agored arloesol ger Ysgol Gynradd yr Hafod yn Abertawe. Nod y fenter newydd hon yw trawsnewid gofod trefol yn fferm lysiau permaddiwylliant ffyniannus a gweithdy awyr agored rhyngweithiol.

Penderfyniad: Gwrthod

Cwm Saerbren Community Nature Reserve

Ymgeisydd: WtoW Ltd ( Welcome to our Woods Ltd)

Disgrifiad prosiect: Mae’r cynnig hwn yn gychwyn ar daith a fydd yn gweld byd natur yn cael ei adfer yng Nghwm Saerbren ac i fynnu rheolaeth dda ar y SoDdGA trwy ddileu rhywogaethau ymledol, a rheoli’r glaswelltir.

Penderfyniad: Gwrthod

Penarth Town Council Adopt A Raised Bed Scheme

Ymgeisydd: Penarth Town Council

Disgrifiad prosiect: Ein nod yw ailddefnyddio ac ailddatblygu un o'n mannau awyr agored i gynyddu'r ddarpariaeth o ofod tyfu a mynediad i ofod tyfu yn y dref. Byddai'r gofod yn cynnwys nifer o welyau blodau wedi'u codi a fyddai'n ffurfio cynllun "mabwysiadu gwely wedi'i godi".

Penderfyniad: Gwrthod

Brynawel's Recovery Village: Community Food Growing Hub, Wildflower Meadow and Community Meeting Building.

Ymgeisydd: Brynawel House Alcohol and Drug Rehabilitation Centre LTD

Disgrifiad prosiect: Bydd y prosiect yn darparu man tyfu cymunedol, gan gynnwys adeiladu man cyfarfod dan do, er mwyn i'r gymuned ddysgu sgiliau a fydd yn eu galluogi i adennill a chynnal eu treftadaeth. Adeilad cymunedol, "The Nature Nook" a fydd yn darparu ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant.

Penderfyniad: Gwrthod

Growing Wild

Ymgeisydd: The Elemental Adventures project cic

Disgrifiad prosiect: Nod y prosiect hwn yw creu gofod tyfu bwyd cymunedol ar ffurf coedwig / gardd permaddiwylliant (Coedwig Helfwyd) ar ein safle coetir yng Nghymru ac mae'n rhan o gynllun mwy i gynnig mwy o wasanaethau i ardal ddemograffig ehangach.

Penderfyniad: Gwrthod

Hubberston Green

Ymgeisydd: Hubberston and Hakin Hands Together Ltd

Disgrifiad prosiect: Bydd y prosiect yn gwarchod ac yn gwella llain fach o "dir llan" trwy weithredu cynllun i annog amrywiaeth rhywogaethau planhigion a bioamrywiaeth gyffredinol rhywogaethau infertebrataidd a chlwydo ystlumod.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £87,000 (100%)

Fferm Cymunedol Tir Y Ffynnon Community Farm

Ymgeisydd: Ffynnone Community Resilience C.I.C

Disgrifiad prosiect: Bydd Fferm Gymunedol Tir Y Ffynnon yn gwella diogelwch bwyd ac adferiad byd natur ac yn grymuso’r gymuned gyfan i gymryd rhan mewn creu eu dyfodol bwyd trwy ddatblygu rhwydwaith cydlynol o gynhyrchwyr bwyd presennol a newydd, darparwyr ategol, sefydliadau cymunedol a lleol, a chyrff statudol.

Penderfyniad: Gwrthod

Restore Nature and Engage People – Nature Retreat Centre

Ymgeisydd: Small Woods Association

Disgrifiad prosiect: Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda'r rhai sydd mewn angen i greu "canolfan encilfa natur a bioamrywiaeth" i gefnogi ymgysylltu a dysgu ar draws cenedlaethau; gan ysbrydoli pobl i ofalu am natur mewn lleoliad trochi.

Penderfyniad: Gwrthod