Cymru: cyfarfod dirprwyedig Hydref 2024
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Steel Town Voices
Ymgeisydd: Theatr3
Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect 1 mis hwn yw dogfennu lleisiau nas clywyd cymuned gweithwyr dur Port Talbot, sy'n wynebu colli'r ffwrneisi chwyth yng nghanol y dref ar hyn o bryd.
Penderfyniad: Gwrthod
Dafydd ap Gwilym and Persian Poetry
Ymgeisydd: Gritty Films Limited
Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect 12 mis hwn yw helpu i warchod barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol drwy weithio gyda phobl o gymunedau Caerdydd a’r Cymoedd a defnyddio caligraffeg, animeiddio a cherddoriaeth i ddangos ei pherthnasedd heddiw ac archwilio ei chysylltiadau cymharol â barddoniaeth glasurol o Bersia, yn arbennig gwaith y bardd Hafez o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Penderfyniad: Gwrthod
Botanical Colour – The Redpath Way
Ymgeisydd: Makepeace Studio CIC
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect treftadaeth ddiwylliannol cymunedol 13 mis gyda’r nod o ddathlu, cadw, a galluogi mynediad cyhoeddus i archif ryseitiau lliw naturiol unigryw Margaret a David Redpath – cwpl o Sir Benfro a pherchnogion olaf Melin Wlân Wallis (Treamlod, Sir Benfro).
Penderfyniad: Gwrthod
Llais Tyisha – Capturing the lost voices of Tyisha, Llanelli to support the redevelopment of the area - Using the history and forgotten buildings by sharing and listening to stories.
Ymgeisydd: Peoplespeakup Ltd
Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect 36 mis o hyd yn ceisio cofnodi atgofion pobl o safleoedd yn y gymuned sydd bellach yn segur, yn ogystal â hanes Sir Gâr. Mae hyn yn cynnwys yr ysgol Gymraeg gyntaf yn y gymuned (Ysgol Copperworks) a Sied Nwyddau'r Rheilffordd.
Penderfyniad: Gwrthod
The Steel Storybook: a community reclaiming its industrial heritage through art
Ymgeisydd: Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect 24 mis hwn yn canolbwyntio ar dreftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol Port Talbot. Bydd y prosiect hwn yn anelu at ddefnyddio'r gofod cyhoeddus sydd heb ei ddefnyddio'n ddigonol o dan yr M4 fel cynfas diwydiannol ar gyfer celf, gan adennill adeiledd y draffordd fel ased treftadaeth gyda rôl fwy cadarnhaol ym mywydau pobl.
Penderfyniad: Gwrthod
The extension, enhancement and future-proofing of the Y Lanfa Community and Cultural Hub and Wharf.
Ymgeisydd: CYNGOR SIR POWYS
Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect 8 mis yw gwella adeilad rhestredig Gradd II, "Y Lanfa" yn sensitif a rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Hyb Cymunedol a Diwylliannol sy'n gweithredu yno, trwy amgáu'r ardal dan do y tu allan, gan ddarparu gofod deulawr amlbwrpas newydd ar gyfer arddangosfeydd dros dro, gweithgareddau grŵp a manwerthu.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £163,732 (21%)
Afonydd Menai
Ymgeisydd: Menter Môn Cyf
Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect 24 mis hwn yw cael gwared ar fincod Americanaidd o ardal eang o Ogledd Cymru, gan adeiladu ar ymdrechion llwyddiannus ar Ynys Môn i amddiffyn y boblogaeth frodorol o lygod dŵr.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £249,902 (92%)
Afghan Oral Hisory: A Slice of Afghanistan in Wales
Ymgeisydd: KIRAN Cymru
Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r prosiect 12 mis yn canolbwyntio ar dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ffoaduriaid o Afghanistan yn y DU. Mae hyn yn cynnwys eu hatgofion, eu hanes llafar, eu traddodiadau diwylliannol, eu gwerthoedd, a'u profiadau bob dydd sy'n ymestyn o'u bywydau yn Afghanistan i'w hailsefydlu yn y DU.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £40,843 (100%)
Pride: Film with Live Orchestra – 10th Anniversary Special
Ymgeisydd: The Alternative Orchestra Ltd
Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect byr hwn yw dangos y ffilm "Pride" o 2014 gyda cherddorfa fyw o 60 o gerddorion a chôr cymunedol torfol, gan ddathlu pen-blwydd y ffilm, a nodi 40 mlynedd ers Streic y Glowyr.
Penderfyniad: Gwrthod
A Stepping Stone for Wildlife on the St Davids Peninsula
Ymgeisydd: Dr Beynon's Bug Farm Ltd
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 11 mis sydd â'r nod o brynu 7.82 hectar o dir ffermio dwys (4.18ha) a chynefin bywyd gwyllt (3.64ha) sydd mewn safle unigryw rhwng dwy ran dameidiog o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Comins Gogledd-orllewin Sir Benfro).
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £183,001 (100%)
Yr Hen Bost – Canolfan Dreftadaeth
Ymgeisydd: Partneriaeth Ogwen
Disgrifiad o'r prosiect: creu canolfan dreftadaeth gymunedol a fydd yn codi ymwybyddiaeth, balchder a dealltwriaeth ein cymuned o hanes lleol, a gwneud hynny fel canolfan loeren ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru a chyrff cenedlaethol eraill.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £247,251 (9%)
Narberth's Bonded Stores: Heritage and Development
Ymgeisydd: Amgueddfa Arberth Cyfyngedig
Disgrifiad o'r prosiect: Bwriad y prosiect 24 mis hwn yw edrych o'r newydd ar waith Amgueddfa Arberth. Ei nod yw datblygu amgueddfa sy'n gwasanaethu'r ardal nodedig hon o Orllewin Cymru ac sy'n anelu at ymgysylltu cymunedol a chreadigol eithriadol.
Penderfyniad: Gwrthod
Ogmore River Clean – A Peace for Nature
Ymgeisydd: Rushfield Gardens Community Group
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect glanhau afon wythnos o hyd i dynnu 13-15,000 o deiars o aber afon Ogwr ger Aberogwr. Y nod yw adfer yr ardal hon o afon hynod lygredig i'w chyflwr naturiol er mwyn i fywyd gwyllt a'r gymuned ei mwynhau.
Penderfyniad: Gwrthod
Adleisiau Iris – Capturing, preserving and celebrating the heritage of Iris Prize
Ymgeisydd: Iris Prize Outreach Limited
Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect 29 mis hwn yn anelu at greu adnodd parhaol sy’n adlewyrchu naratifau a chyflawniadau amrywiol cymunedau LHDTC+ yng Nghymru a thu hwnt. Bydd hanesion llafar gan gynulleidfaoedd, gwneuthurwyr ffilm a'r gymuned ehangach yn rhoi datblygiad ac effaith gymunedol Iris yn eu cyd-destun.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £137,530 (85%)
Cynnydd grant
Rhaglen Goroesiad a Chynaladwyedd Treftadaeth Amgueddfa Llangollen
Ymgeisydd: Amgueddfa Llangollen
Disgrifiad o'r prosiect: Byddai cynnydd grant o £28,000 yn caniatáu i Amgueddfa Llangollen gymathu costau TAW annisgwyl ar eu gwaith ailosod y to, y maent yn eu hwynebu ar ôl cael cyngor anghywir gan eu contractwyr.
Penderfyniad: Dyfarnu cynnydd yn y grant o £28,000 i wneud cyfanswm grant o £206,729