Templed cynllun prosiect a chofrestr risgiau
Atodiad | Maint |
---|---|
Project plan and risk register template (.xlsx) | 26.12 KB |
Templed cynllun prosiect a chofrestr risgiau (.xlsx) | 26.41 KB |
Mae'r cynllun prosiect yn un o rannau pwysicaf eich cais. Lawrlwythwch a defnyddiwch y templed hwn ar gyfer grantiau rhwng £10,000 a £250,000. Dylai nodi'r holl dasgau mewn ffordd resymegol a chynnwys cofrestr risgiau.
Noder bod gan y templed ddwy dudalen: un ar gyfer y cynllun prosiect ac un ar gyfer y gofrestr risgiau.
Cynllun prosiect
Dylai'r cynllun prosiect ddarparu gwybodaeth fanwl am y tasgau y gwnaethoch eu hamlinellu yn eich cais.
Ar gyfer pob tasg, gwnewch hi'n CAMPUS:
- cyrraeddadwy
- amserol
- mesuradwy
- penodol
- uchelgeisiol
- synhwyrol
Gosod allan eich cynllun prosiect
Rydym yn argymell bod eich cynllun prosiect mewn trefn gronolegol. Dyma le y byddwch yn dweud wrthym am y pethau y bydd eich prosiect yn eu gwneud ac yn eu cynhyrchu. Dywedwch wrthym beth fydd allbynnau eich prosiect a phwy fydd yn cymryd rhan ynddo. Dylech gynnwys rhifau lle bo modd.
Dylai'r cynllun prosiect ganolbwyntio ar y tasgau y mae'n rhaid eu cwblhau i wneud y prosiect yn llwyddiant. Dylech gynnwys yr holl weithgareddau a cherrig milltir allweddol yr ydych yn gobeithio eu cyflawni.
Pan gaiff ei lenwi, dylai'r tabl roi cynllun realistig i chi a'ch cydweithwyr ar gyfer cyflawni eich prosiect. Fodd bynnag, rydym yn deall bod y cynllun yn debygol o newid a gwella wrth i'ch prosiect ddatblygu.
Byddwn yn gofyn i chi gywain data drwy gydol eich prosiect i fesur llwyddiant eich cynlluniau ac yn gofyn i chi fyfyrio arnynt yn eich gwerthusiad prosiect.
Cofrestr risgiau
Mae cofrestr risgiau'n ddogfen, fel arfer wedi'i llunio fel tabl, sy'n rhestru'r holl risgiau a nodwyd gan sefydliad ac wedi'u blaenoriaethu yn nhrefn pwysigrwydd.
Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wynebu heriau a risgiau. Byddwn am weld pa risgiau yr ydych wedi'u hystyried, yr effaith y byddai'r risg yn ei chael ar eich prosiect a sut y byddech yn cynllunio i reoli pob risg.
Ar gyfer pob risg, amlinellwch:
- natur y risg, er enghraifft technegol, marchnad, ariannol, economaidd, rheoli, cyfreithiol
- disgrifiad o'r risg
- y cyfle y bydd y risg yn digwydd, gan ddefnyddio gwerth canrannol neu radd isel, canolig neu uchel
- yr effaith y gallai'r risg ei chael ar gostau, amser ac ansawdd y prosiect
- yr effaith gyffredinol y gallai’r risg ei chael ar gyflwyno’r prosiect
- sut y byddech yn rheoli’r risg