Penderfyniadau'r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) (rownd pump), Mai 2024

Penderfyniadau'r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) (rownd pump), Mai 2024

Atodlen o Benderfyniadau a wnaed gan yr is-fwrdd Cymorth Grant nad yw'n dod o'r Loteri (is-set o Ymddiriedolwyr), 28 Mai 2024.

Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Cynllun i adfer a gwella coetiroedd yng Nghymru, fel rhan o Fenter Coedwigoedd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Atodlen o Benderfyniadau

Adfer Coetir Hynafol Ysbyty (ACHY) / Ysbyty Ancient Woodland Restoration

Ymgeisydd: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn agor coetiroedd nad oeddent yn hygyrch o'r blaen at ddefnydd y gymuned. Bydd hyn yn creu llwybrau cerdded newydd, mannau hamdden a chyfleoedd addysgol, gan feithrin cysylltiad â natur ac annog cenedlaethau o gadwraethwyr yn y dyfodol.

Pendefyniad: Dyfarnu grant o £182,965.00 (100%)

Troed yr Harn Permissive Agroforestry Path

Ymgeisydd: Prosiect Coleg y Mynyddoedd Du

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn creu llwybr caniataol ar fferm Troed yr Harn sy'n ffinio â Gwarchodfa Natur Pwll y Wrach, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig oherwydd ei choetiroedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Penderfyniad: Gwrthod

Cogan - A Wood for all Seasons

Ymgeisydd: Cyngor Bro Morgannwg

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw helpu i gynnal, gwella a diogelu Coed Cogan, gan ddarparu coetir y gall pobl ei ddarganfod a'i fwynhau nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Penderfyniad: Gwrthod

Porthkerry - A Walk through the Woods

Ymgeisydd: Cyngor Bro Morgannwg

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn gwella hygyrchedd ac ymgysyltiad cyhoeddus â’r parc. Bydd hyn yn cynnwys darparu deunyddiau dehongli newydd, cyfleoedd gwirfoddoli, a gwell mynediad i bawb.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £249,676.00 (100%)

Colby Ancient Woodland Enhancement

Ymgeisydd: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn adfer y coetiroedd i'w gogoniant blaenorol, gan greu lle i ymwelwyr ailgysylltu â natur. Bydd llwybrau cerdded gwell yn galluogi mynediad haws, tra bydd y berllan gymunedol a'r planhigfeydd newydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden a dysgu.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £248,742.00 (100%)

Restoration and Reinvigoration of Maritime Woodland at Treborth Botanic Garden

Ymgeisydd: Prifysgol Bangor (Gerddi Botanegol Treborth)

Disgrifiad Prosiect: Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gynyddu hygyrchedd ac ymgysylltiad cymunedol â'r coetiroedd. Bydd yn cyflawni hyn drwy gael gwared ar rwystrau mynediad, creu cyfleoedd ar gyfer dysgu a hamdden, a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith y gymuned drwy raglenni gwirfoddol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £248,308.00 (100%)

Colwinston Old Ford and Coed Tregolwyn

Ymgeisydd: Cyngor Cymuned Tregolwyn

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw cynnal a datblygu'r coetir lleol at ddefnydd a gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â chreu ardal ddiogel i drigolion lleol.

Penderfyniad: Gwrthod

Staylittle Demonstration Woodland

Ymgeisydd: Nantyrhafod Limited

Disgrifiad Prosiect: Cyfle unigryw i greu coedwig ar raddfa tirwedd i bawb ei mwynhau, gwella lles a chysylltu ag ecosystem wydn sy'n cefnogi adferiad natur.

Penderfyniad: Gwrthod

Erlas Woodland

Ymgeisydd: Gardd Furiog Fictoraidd Erlas

Disgrifiad Prosiect: Mae Gardd Furiog Fictoraidd Erlas wedi ehangu ei maint ac wedi dod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Bydd y prosiect yn creu coetir cwbl hygyrch gyda phlannu newydd, cwt creadigol, a chysylltiad â'r Goedwig Genedlaethol bresennol, gan gynnig adnodd gwerthfawr i'r gymuned leol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £99,600.00 (100%)

Restoration of Mill Common Community Woodland

Ymgeisydd: Cyngor Cymunedol Sir Fynwy

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn adfer y coetiroedd ac yn creu gofod addysgol i'r gymuned. Bydd hyn yn cynnwys gwella mynediad, meithrin cyfranogiad cymunedol, a gwella bioamrywiaeth drwy adfer cynefinoedd a hyfforddiant sgiliau gwyrdd.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £250,000.00 (96.71%)

North Cardiff Woodlands Project

Ymgeisydd: Cyngor Caerdydd

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw cydbwyso anghenion natur a bodau dynol yn y coetiroedd. Adeiladu coetiroedd iach, gwydn, aml-ddefnydd, tra'n cynnal a gwella'r mynediad y mae'r cyhoedd yn ei fwynhau ar hyn o bryd a gwneud cyfraniad sylweddol i economi rhanbarth Caerdydd ac i Goedwig Genedlaethol Cymru.

Penderfyniad: Gwrthod

Access Penllergare

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Penllergare

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw trawsnewid y Dyffryn yn Hwb Coedwig Cenedlaethol drwy wella mynediad i'r coetiroedd hanesyddol a'r Arsyllfa Gyhydeddol.  Bydd llwybrau newydd, ardaloedd hamdden a rhaglenni addysgol yn cael eu datblygu, wrth ymgysylltu â'r gymuned mewn adfer a rheoli yn y dyfodol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £249,150.00 (100%)

Park Wood Talgarth

Ymgeisydd: The Woodland Trust

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn adfer bioamrywiaeth y coetir ac yn creu man croesawgar i'r gymuned. Cyflawnir hyn drwy gydweithio â gwirfoddolwyr, gan ganolbwyntio ar wella cynefinoedd, mynediad i'r cyhoedd, ac arddangos arferion gorau mewn rheoli coetiroedd cymunedol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £196,406.00 (97.52%)

Coed y Graig Newtown

Ymgeisydd: The Woodland Trust

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn adfer Rock Wood sydd wedi'i esgeuluso a'i gysylltu â choetir Coed y Graig, gan greu hafan bioamrywiol i drigolion y Drenewydd. Bydd gwell cyfleoedd mynediad ac ymgysylltu â'r gymuned yn caniatáu i breswylwyr fwynhau natur a chymryd rhan yn ei gadwraeth.

Penderfyniad: Dyfarnu grant £83,401.00 (89.81%)

Bynea Community Woodland

Ymgeisydd: Cyngor Sir Caerfyrddin

Disgrfiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn creu coetir newydd i'r gymuned, gan gynnig lle ar gyfer hamdden a buddion amgylcheddol.  Trwy blannu, creu llwybrau, a chyfranogiad cymunedol, bydd y prosiect yn gwella mynediad, bioamrywiaeth a lles.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £70,993.00 (77.27%)

Pentremawr Community Woodland Project

Ymgeisydd: Cyngor Sir Caerfyrddin

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn gwella'r coetiroedd ar gyfer pobl a natur. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy adfer cynefinoedd, gwell mynediad cyhoeddus gyda nodweddion ar gyfer pob gallu, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol fel grwpiau gwirfoddol. Nod y prosiect hefyd yw gwarchod treftadaeth hanesyddol a diwylliannol y coetiroedd.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £159,033.00 (100%)

Coed Gors y Gedol Access Improvement Programme.  Improving the accessibility of a Celtic Rainforest site in North Wales which is a SSSI and SAC with heritage interest; development of community use whilst enhancing the biodiversity in the woods

Ymgeisydd: Edmund Seymour Bailey and William James Bailey/trading as E S Bailey and Sons

Disgrifiad Prosiect: Bydd y coetir preifat hwn yn ymuno â'r Rhwydwaith Coedwig Cenedlaethol, gan gynnig gwell mynediad i bob gallu a hyrwyddo busnesau lleol. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth, ymgysylltu â'r gymuned, a chynhyrchu pren cynaliadwy trwy gynllun rheoli hirdymor.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £174,550.00 (100%)

Esgair Woodlands

Ymgeisydd: Wilderness Trust Ltd

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw rhoi llwybr ar waith i wneud y gorau o'r gofod gwych hwn a'i ddefnyddio fel adnodd cymunedol i bobl fwynhau a darganfod eu creadigrwydd trwy ddysgu, gweithgareddau a dathliadau yn y coed.

Penderfyniad: Gwrthod

Trehafren Fields Woodland Wander Trail

Ymgeisydd: Going Green for a Living Community Land Trust Ltd

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn creu hafan ar gyfer natur a phobl yng nghanol y dref. Bydd llwybr sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn mynd trwy goetiroedd sydd wedi'u hadfer, a bydd rhaglenni ymgysylltu â'r gymuned yn meithrin stiwardiaeth amgylcheddol a datblygu sgiliau.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £167,431.00 (100%)

Cynheidre Heritage Woodland Project

Ymgeisydd: Rheilffordd Treftadaeth Llanelli a Mynydd Mawr

Disgrifiad Prosiect: Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth y coetir ac alinio â Safonau Coedwigaeth y DU. Bydd yn cyflawni hyn drwy uwchsgilio gwirfoddolwyr mewn rheoli coetiroedd, creu cyswllt hanfodol mewn llwybr beicio rhanbarthol, a hyrwyddo ymgysylltiad cymunedol trwy ddigwyddiadau dwyieithog.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £85,274.00 (100%)

Coed Lles

Ymgeisydd: OUTSIDE LIVES LTD

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn adfywio'r coetir hynafol ym mhlas Aberduna, gan ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Bydd hefyd yn creu cyfleoedd i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ddatblygu sgiliau rheoli coetiroedd, gan feithrin cysylltiad â natur ar gyfer aelodau bregus o'r gymuned.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £104,181.00 (100%)

Coetiroedd Ogwen

Ymgeisydd: Coetir Mynydd

Disgrifiad Prosiect: Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gynnal a chadw hanfodol coetir aeddfed a ffridd gyda'i borfa bren a bydd yn creu coetir newydd i'w cysylltu â'i gilydd.

Penderfyniad: Gwrthod

Coed Hafod y Calch

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Elusennol Rhug

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn darparu buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i'n cymuned. Bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth hybu bioamrywiaeth, gan ddarparu cynefin cyfoethog ac amrywiol i wahanol rywogaethau, cefnogi bywyd gwyllt a chynorthwyo adferiad natur.

Penderfyniad: Gwrthod

Denmark Farm Woodand Connections

Ymgeisydd: The Shared Earth Trust

Disgrifiad Prosiect: Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar ddegawdau o gyfranogiad cymunedol i greu etifeddiaeth barhaol i'r Goedwig Genedlaethol. Bydd yn gwella hygyrchedd i bob gallu, yn hyrwyddo addysg a chysylltiad â natur, ac yn diweddaru cynllun rheoli'r coetir i flaenoriaethu iechyd, ymchwil a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £92,600.00 (92.51%)

RmCw Enhancement for the Community and Sustainability

Ymgeisydd: Dr P A Milner

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn cynyddu cyfranogiad y gymuned ac yn hyrwyddo rheoli coetiroedd yn gynaliadwy. Cyflawnir hyn drwy wella mynediad, darparu seilwaith ar gyfer digwyddiadau a dysgu, ac uwchsgilio gwirfoddolwyr mewn technegau prysgoedio.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £44,403.00 (100%)

Cydweithion gyda chymunedau a bywyd gwyllt yn y Preselau/Collaborating with communities and wildlife in the Preselis.

Ymgeisydd: Coed Preseli

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn gwella bioamrywiaeth a gwytnwch hinsawdd y coetir. Cyflawnir hyn drwy ymchwil wyddonol, ymgysylltu â'r gymuned, a chael gwared ar gonwydd i ffafrio dail llydanddail brodorol, gan hyrwyddo dyfodol cynaliadwy i'r goedwig a'r economi leol yn y pen draw.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £124,472.00 (100%)

Coed y Felin Woodland Management

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn sefydlu cylch rheoli hirdymor o brysgoedio a thynnu coed, er mwyn cynyddu amrywiaeth strwythurol y coetir ar gyfer bywyd gwyllt, tra'n datgloi gwerth masnachol pren i gynnal ei reolaeth barhaus y tu hwnt i oes y prosiect.

Penderfyniad: Gwrthod

Bringing the woodland experience to the people

Ymgeisydd: Chris Brown

Disgrifiad Prosiect: Mae'r prosiect hwn yn dymuno cynnal 320 erw o Goetir yr Iwerydd, er mwyn parhau i gael mynediad at natur, a heddwch a thawelwch i drigolion lleol ac ymwelwyr.

Penerfyniad: Gwrthod

Changing Forests in a Changing World

Ymgeisydd: The Trustees of Ilchester Estates (2) Trust and The Hon Mrs C A Townshend (The Stinsford Partnership)

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar Fryn Arau Duon, Coedwig Genedlaethol fawr i coetir Cymru, i addysgu trigolion Cilycwm, Caio, a Pumsaint am arferion rheoli coedwigoedd cynaliadwy. Bydd y prosiect hefyd yn gwasanaethu fel maes dysgu i aelodau eraill y Goedwig Genedlaethol, gan rannu gwybodaeth am goedwigaeth gorchudd parhaus, gwyddor coed, a chadwraeth wiwerod coch.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £148,390.00 (95.74%)

Coedtir Bryn Ifan

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn creu coetir newydd wedi'i reoli'n dda ar gyfer rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol.  Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar adfer coedwigoedd glaw brodorol, gwella cyfleoedd mynediad ac addysg, a meithrin cyfranogiad cymunedol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £194,929.00 (100%)

LLYN BRENIG WOODLAND ENHANCEMENTS

Ymgeisydd: Dwr Cymru Cyfyngedig

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn creu amrywiaeth o weithgareddau cymunedol a gwirfoddol i helpu i reoli'r coetir a dod â phobl yn agosach at eu hamgylchedd naturiol.

Penderfyniad: Gwrthod

LLWYN-ON RESERVIOR WOODLAND RENAISSANCE PHASE 1

Ymgeisydd: Dwr Cymru Cyfyngedig

Disgrifiad Prosiect: Bwriad y prosiect hwn yw creu coetiroedd amlbwrpas, gan wella mynediad ar gyfer hamdden, addysg a chyfleoedd dysgu.

Penderfyniad: Gwrthod

LLIW RESERVOIRS WOODLAND REGENERATION

Ymgeisydd: Dwr Cymru Cyfyngedig

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw creu coetiroedd amlbwrpas i safonau Coedwig Cenedlaethol, mynediad at weithgareddau hamdden, twristiaeth, addysg a lles fel y gall Lliw ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Penderfyniad: Gwrthod