Proffil staff: Maria Campbell, Cynghorydd Cyfleusterau ac Ystadau

Proffil staff: Maria Campbell, Cynghorydd Cyfleusterau ac Ystadau

A head and shoulders portrait of a black woman standing in front of garden bushes
Mae Maria wedi'i lleoli yn ein swyddfa yn Llundain. Mae wedi gweithio yn y Gronfa Treftadaeth ers 2002.

Beth yw cyfrifoldebau eich rôl?

Sicrhau bod ein swyddfeydd yn ddiogel a'u bod mewn cydymffurfiaeth. Rwy'n trefnu offer TG ar gyfer dechreuwyr newydd neu unrhyw staff sydd ag anghenion arbenigol a nodwyd yn ystod atgyfeiriad iechyd galwedigaethol. Mae fy nhîm a minnau hefyd yn helpu pan fyddwn yn symud swyddfeydd. Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau gweithio gyda chyllidebau hefyd, sy'n dda, gan fy mod wrth fy modd yn dysgu pethau newydd.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio yma?

Rwy'n mwynhau dysgu pethau newydd bob dydd. Dydy dau ddiwrnod byth o'r un fath, ac mae hynny'n wych i mi.

Beth sy'n eich cymell chi yn y gwaith?

Rwy'n dod i gysylltiad â llawer o bobl yn fy rôl. Rwy'n mwynhau'r rhyngweithio hwnnw'n fawr a hefyd gwneud gwaith da i'm cydweithwyr. Mae’r Gronfa Treftadaeth hefyd wedi fy nghefnogi yn fy niploma diweddar gan y Sefydliad Rheoli Gweithle a Chyfleusterau, a gymerodd bedair blynedd i’w gwblhau. Mae wedi fy helpu i ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o'r byd rheoli cyfleusterau ac rwyf eisoes yn ymgymryd â thasgau newydd o ganlyniad.

Beth yw uchafbwynt eich amser yn y Gronfa Treftadaeth?

Gweld trawsnewidiad y sefydliad. Rydyn ni wedi bod trwy gymaint dros 20 mlynedd, fel ein newid mawr i weithio hybrid. Roedd yn rhaid i ni newid ein meddylfryd a chofleidio’r newid hwnnw. Roeddwn i'n ymwneud yn fawr â sicrhau bod gan ein staff yr holl offer angenrheidiol i wneud eu gwaith yn ddiogel ac yn hwylus gartref. Roedd yn heriol iawn ond yn gyflawniad aruthrol.

Beth yw eich hoff fath o dreftadaeth?

Rwyf wrth fy modd ag eglwysi, ond byddai'n rhaid i mi ddweud prosiectau cymunedol. Unrhyw beth sy’n galluogi pobl i roi rhywbeth yn ôl a chyfoethogi’r gymuned leol.