Proffil staff: Rachel Pechey, Rheolwr Ymgysylltu Rhanddeiliaid
Beth yw cyfrifoldebau eich rôl?
Rwy'n rheoli sut mae'r Gronfa Treftadaeth yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar lefel gorfforaethol. Gall y term rhanddeiliad olygu ein partneriaid, ein cymheiriaid a/neu'r rhai sy'n dylanwadu arnom. Rwy’n gweithio’n agos gyda swyddfa’r Prif Weithredwr i sicrhau bod y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr yn cael y sesiynau briffio sydd eu hangen arnynt wrth gwrdd â rhanddeiliaid. Rwyf hefyd yn gweithio ar ystod o systemau a phrosesau i wneud cyfathrebu a chydweithio â’n rhanddeiliaid yn fwy effeithlon a rhagweithiol.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio yma?
Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod o'r un fath. Rwyf wir yn mwynhau'r amrywiaeth y mae'r rôl hon yn ei gynnig.
Beth sy'n eich cymell chi yn y gwaith?
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl, a llawenydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yw sicrhau bod amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau'n cael eu hystyried.
Beth yw uchafbwynt eich amser yn y Gronfa Treftadaeth?
Helpu trefnu digwyddiad seneddol San Steffan gyda’r tîm Polisi a Materion Cyhoeddus. Roedd yn ddigwyddiad anhygoel, gan arddangos gwaith y Gronfa Treftadaeth gyda phobl ifanc a lansio Treftadaeth 2033 yn San Steffan. Roedd yn wych cael amrywiaeth o bobl ifanc yn y digwyddiad i ddangos effaith ein hariannu.
Beth yw eich hoff fath o dreftadaeth?
Mae gen i MA mewn hanes canoloesol, felly nid yw'n syndod bod gennyf gariad at gestyll ac eglwysi, ond rwyf hefyd yn caru treftadaeth sy'n adrodd storïau pobl wrthym, gan arddangos safbwyntiau gwahanol sydd weithiau'n peri syndod.