Gweithio yma
O gynghori ymgeiswyr a gwneud penderfyniadau am grantiau, i sicrhau bod gan staff yr offer sydd ei angen arnynt i weithio'n effeithlon mewn swyddfeydd, gartref ac wrth deithio, a chodi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth y mae arian y Loteri Genedlaethol yn ei wneud - rydyn ni'n weithlu amrywiol, dawnus ac angerddol.
Mae ein timau'n gweithredu o fewn tair cyfarwyddiaeth:
Cyflwyno Busnes sydd ar flaen y gad o ran gwneud grantiau. Mae cydweithwyr yn ymgysylltu â darpar ymgeiswyr, yn asesu ceisiadau am ariannu, yn rheoli ein pwyllgorau gwneud penderfyniadau ac yn monitro a chefnogi prosiectau rydym wedi buddsoddi ynddynt. Maen nhw'n datblygu ac yn rheoli'r seilwaith sy'n cefnogi ein grantiau gan gynnwys canllawiau ymgeisio, ein gwasanaeth Cael eich ariannu ar gyfer prosiect treftadaeth a'n cymorth ymgynghoriaeth arbenigol. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid lleol i fwyafu ein heffaith ar dreftadaeth, pobl a chymunedau ar draws y DU, yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae'r Gwasanaethau Busnes yn cadw'r sefydliad yn symud. Mae cydweithwyr yn goruchwylio ein cyfleusterau a’n seilwaith TG, yn ogystal â chefnogi ein rhwydwaith o aelodau pwyllgor a Bwrdd. Maen nhw'n rhoi cyngor ar bwyntiau cyfreithiol, yn rheoli ein cyllid, yn goruchwylio recriwtio a hyfforddiant staff ac yn cefnogi lles y gweithlu.
Mae Arloesi a Mewnwelediad Busnes yn pennu ein hymagwedd strategol at ariannu, gan ddatblygu rhaglenni buddsoddi newydd a gefnogir gan ein hymchwil a’n data. Mae cydweithwyr yn marchnata argaeledd ein rhaglenni grant, yn hyrwyddo effaith gadarnhaol arian y Loteri Genedlaethol, ac yn goruchwylio ein perthynas â Llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol.
Mwy o wybodaeth
Mynnwch gip ar broffiliau rhai o'n staff i ddysgu mwy am y gwahanol rolau rydym yn eu cynnig a sut brofiad yw gweithio yma.