Proffil staff: Alison Costigan, Uwch Reolwr Buddsoddi
Beth yw cyfrifoldebau eich rôl?
Hanfod fy swydd yw ymwneud ag asesu ceisiadau mawr am arian grant, monitro cyflwyniad prosiectau'r ymgeiswyr llwyddiannus a bod yn rheolwr llinell i Reolwr Buddsoddi. Mae’r gwaith hwn yn rhoi cyfle gwych i mi ddatblygu perthnasoedd gyda sefydliadau ar draws y sector treftadaeth, cydweithwyr ar draws y Gronfa Treftadaeth a nifer o ymgynghorwyr arbenigol ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio yma?
Mae fy swydd i'n cynnig cipolwg anhygoel i mi ar bob math o dreftadaeth a'r bobl sy'n gweithio'n galed i'w hamddiffyn a'i rhannu. Ymhen wythnos efallai y byddaf yn asesu cais am gynefin â blaenoriaeth ar gyfer adar hirgoes, yn monitro’r gwaith adfer parhaus ar locomotif ager, yn cadeirio cyfarfod ynghylch datblygu prosiect amgueddfa ac yn mynychu digwyddiad agor adferiad wedi’i gwblhau ar barc hanesyddol. Mae hyn yn gyfrifoldeb sylweddol ac yn fraint.
Pa ran o'ch swydd sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i chi?
Gweld yr effaith drawsnewidiol y mae ein hariannu'n ei chael ar dreftadaeth, lleoedd, pobl a chymunedau. Mae'n gwneud yr holl waith caled yn werth chweil.
Beth sy'n eich cymell chi yn y gwaith?
Yn y brifysgol astudiais ddaearyddiaeth, y 'wyddor bontio' rhwng y gwyddorau cymdeithasol a naturiol, sydd i bob pwrpas wedi'i hymwreiddio yng nghyd-destun lle. Rwy’n teimlo’n angerddol, pan fyddwn yn cael y cyfle i ymwreiddio yn nhreftadaeth ein lle, ein cymuned a’n diwylliant, nid yn unig bod hynny’n meithrin ein hymdeimlad o berthyn a lles, ond y gall hefyd feithrin ein hymdeimlad o gyfrifoldeb personol dros y byd a phobl o'n cwmpas. Mae’r prosiectau rydym yn buddsoddi ynddynt yn darparu’r cyfle hanfodol hwnnw, ac mae gwybod fy mod yn chwarae rhan yn hynny’n sbardun enfawr i mi.
Beth yw eich hoff fath o dreftadaeth?
Rwyf wrth fy modd â pharciau hanesyddol. Maent yn arddangos dyluniad tirwedd a garddwriaeth anhygoel, yn darparu ffenestr i hanes cymdeithasol lle, yn gartref i gynefinoedd gwerthfawr, yn gweithredu fel coridorau bywyd gwyllt, yn darparu lle i fyfyrio'n dawel ynddo ac yn rhoi cyfleoedd gwych i ni chwarae a chreu atgofion. I mi, maent yn crynhoi'r manteision aruthrol y gall treftadaeth eu cynnig i bawb. Y ddau brosiect parc yr wyf yn eu monitro ar hyn o bryd, South Cliff Gardens yn Scarborough a Sheffield General Cemetery, wedi cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Treftadaeth mewn Perygl yn ddiweddar, diolch i’r gwaith anhygoel a ariannwyd gan ein grantiau. Mae hyn yn wir yn gyflawniad anferth.