Ymgynghorwyr cymorth prosiect (fframwaith RoSS)
Mae ein ymgynghorwyr RoSS arbenigol yn chwarae rôl bwysig wrth fonitro'r prosiectau a ariannwn a mentora grantïon a darpar ymgeiswyr. Maent hefyd yn darparu cyngor arbenigol i'r Gronfa Treftadaeth ynghylch yr ystod amrywiol o brosiectau a cheisiadau a ariannwn.
Mae ein cofrestr ymgynghorwyr wedi'i rhannu'n bedwar maes arbenigedd:
- rheoli prosiect adeiladu treftadaeth a diwylliant
- datblygu a rheoli busnesau
- ennyn diddordeb y cyhoedd mewn treftadaeth
- yr amgylchedd naturiol
Beth maen nhw'n ei wneud?
Mae ymgynghorwyr RoSS yn darparu amrywiaeth o wasanaethau:
- Cymorth monitro: dadansoddi risgiau, gwneud sylwadau ar gynlluniau prosiect, adolygu cyllidebau a chynnydd yn erbyn amserlenni a gwerthuso effeithiau prosiectau.
- Cymorth mentora: helpu grantïon i ddatblygu eu prosiectau, cefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu a goresgyn rhwystrau wrth gyflwyno eu prosiectau.
- Cefnogi staff y Gronfa Treftadaeth: darparu hyfforddiant a chyngor ar bynciau arbenigol.
- Sesiynau trafod i grantïon: hwyluso 'cymorthfeydd bach' gyda grantïon ar wahanol bynciau, megis gwirfoddoli.
- Adolygiadau ôl-gwblhau a pharodrwydd i weithredu: helpu grantïon i ddeall 'parodrwydd' prosiectau i agor i'r cyhoedd. Nodi risgiau ôl-gwblhau a chytuno ar gamau adferol.
- Cefnogi ein gwaith ymgysylltu: darparu cymorth i dimau Ymgysylltu'r Gronfa Treftadaeth, er enghraifft wrth fentora ac ymgysylltu ag ymgeiswyr sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol.
- Darparu cyngor arbenigol: cefnogi proses gwneud penderfyniadau'r Gronfa Treftadaeth drwy ddarparu cyngor arbenigol ynghylch agweddau ar gais gan brosiect.
- Darparu cymorth i grwpiau o grantïon: mentora grwpiau bach o grantïon, gan helpu nhw i ymdrin â heriau a'u hannog i rwydweithio.
Ein fframweithiau presennol
Dechreuodd y fframwaith presennol ar 1 Ebrill 2018 a bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024.
Mae gennym hefyd fframwaith sy'n arbenigo mewn treftadaeth ddigidol. Dechreuodd y fframwaith dwy flynedd hwn ar 1 Ebrill 2022 a bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024. Ni fydd yn cael ei ail-dendro.
Caffael y fframwaith nesaf
Penodir ymgynghorwyr i'r fframwaith drwy broses dendro sy'n cydymffurfio â gofynion caffael y sector cyhoeddus.
Bydd y broses o werthuso a dewis tendrau yn cael ei chwblhau ddiwedd hydref 2023, ac fe fydd y fframwaith newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2024.
Dod yn ymgynghorydd RoSS
Mae cam un y cyfle tendro ar gyfer ymgynghorwyr ar y Fframwaith nesaf bellach wedi'i gwblhau ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyflwyniadau newydd.