Cymerwch ran yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2023
Ers y gêm Loteri Genedlaethol gyntaf yn 1994, mae mwy na £46biliwn wedi ei godi ar gyfer achosion da ym meysydd treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon, ffilm a chymuned. Mae hynny'n golygu fod dros £30miliwn yn cael ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bob wythnos.
Beth yw Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol?
Cynhelir Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol rhwng 18 a 26 Mawrth 2023. Gall unrhyw un sy'n ymweld â lleoliad neu brosiect sydd wedi'u cefnogi gan y Loteri Genedlaethol ddangos tocyn y Loteri Genedlaethol, Instant Win Game neu gerdyn crafu (ar bapur neu'n ddigidol) fanteisio ar gynnig arbennig 'diolch'.
Sut beth yw cynnig arbennig?
O fynediad am ddim a theithiau tu ôl i'r llenni i rodd neu baned o de cynnes, mae cymaint o ffyrdd i ddweud #DiolchIChi yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol.
Yn y gorffennol, mae cynigion poblogaidd wedi cynnwys:
- mynediad am ddim i Ganolfan Ddarganfod Banc Jodrell yn Sir Gaer, lle gwelsant gynnydd o 500 o ymwelwyr o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol
- Mynediad 2-am-1 yng Nghastell a Gerddi Hillsborough yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon
- gweithdai syrcas am ddim yn The Circus House ym Manceinion
- tocynnau am ddim i'r arddangosfa 'Eco-Visionaries' yn yr Academi Gelf Frenhinol yn Llundain
- teithiau cloisters am ddim yn Eglwys Gadeiriol Henffordd
- diodydd poeth am ddim yng Nghôr y Cewri
Cymerwch olwg ar enghreifftiau rhestr o'r blynyddoedd blaenorol am fwy o ysbrydoliaeth.
Pam cymryd rhan?
Mae'n ffordd wych o gydnabod eich grant a dweud 'diolch' wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr arian mae eich sefydliad wedi ei dderbyn. Eich cyfle chi yw dangos pa wahaniaeth mae'r gefnogaeth wedi'i wneud mewn ffordd glir ac uniongyrchol.
Mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith rydych chi'n ei wneud. Bydd digon o gyhoeddusrwydd ynghylch yr wythnos, gan gynnwys ymgyrch gyffrous yn y cyfryngau, hysbysebion a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn olaf, mae'n gyfle gwych i groesawu cynulleidfaoedd newydd. Dywedodd tua 70% o ymwelwyr a gymerodd ran yn arolwg y Loteri Genedlaethol yn 2021 nad oedden nhw erioed wedi ymweld â'r lleoliad o'r blaen, neu heb wneud hynny yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyna i chi lawer o ymwelwyr newydd!
Yn 2022, dywedodd 96 y cant o brosiectau a gwblhaodd arolwg cyfranogwyr y Loteri Genedlaethol y bydden nhw'n cymryd rhan eto.