Robert Milburn

Robert Milburn

Llun proffil Robert Milburn
Role
Aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Risg
Mae Robert yn gyfrifydd siartredig ac roedd yn bartner archwilio gyda PwC am 25 mlynedd tan iddo ymddeol yn 2014.

Ers hynny, mae wedi bod yn un o ymddiriedolwyr Parks for London ac yn aelod annibynnol o Bwyllgorau Archwilio a Risg Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Yr Archifau Gwladol, yr Adran Masnach Ryngwladol a Marie Curie.

Ar hyn o bryd mae Robert yn ymddiriedolwr yr elusen Paintings in Hospitals ac yn aelod annibynnol o Bwyllgorau Archwilio a Risg yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Mae hefyd yn llywodraethwr ysgol ac yn gadeirydd sefydliad elusennol bach sy'n helpu ariannu cyfleoedd dysgu ar gyfer plant agored i niwed yn Libanus.

Magwyd Robert yn Swydd Warwick ac aeth i'r ysgol yno, wedi hynny fe astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, ac mae wedi byw yn Ne-orllewin Llundain am y 40 mlynedd diwethaf. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys hanes gwleidyddiaeth fodern, teithio, celf gyfoes, theatr ac opera, a cherdded.