Cymorth Busnes a Datblygu Menter
Wrth i'r sector treftadaeth wynebu rhai o'i heriau mwyaf, mae ein cefnogaeth yn bwysicach nawr nag erioed o'r blaen.
Rydym wedi buddsoddi mwy na £6miliwn mewn rhaglenni hyfforddiant cymorth busnes a datblygu menter ledled y DU, gan weithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr yn y sector i'w darparu.
Rydym eisiau helpu'r sector treftadaeth i fod yn fwy cadarn, mentrus a blaengar.
Cyfleoedd i gymryd rhan
Cinio dysgu: datblygu eich cydnerthedd sefydliadol
Clywed gan aelodau ein rhaglenni hyfforddiant cymorth wrth iddynt rannu pwyntiau dysgu allweddol. Yn agored i sefydliadau treftadaeth ar draws y DU, caiff y sesiwn ryngweithiol hon ei harwain gan Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion o Gymru a Re:Model o Ogledd Iwerddon. Gallwch gael syniadau i helpu gyda’ch taith gydnerthedd a chwrdd â’ch cymheiriaid.
Cynhelir y digwyddiad am ddim hwn ar Zoom, rhwng 12hanner dydd ac 1pm ar 16 Mawrth. Cofrestrwch am y cyfarfod hwn.
Y rhaglenni rydym ni wedi eu hariannu
Cymorth busnes
Gan weithio gydag arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol allanol, datblygom amrywiaeth o raglenni cymorth busnes wedi'u teilwra i holl wledydd y DU.
Mae'r rhaglen hon ar gau ar gyfer ceisiadau. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Rebuilding Heritage.
Mae Rebuilding Heritage yn rhaglen am ddim a ddarperir gan y Gynghrair Dreftadaeth sy'n cynnig cymorth un-i-un a grwpiau bach i sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda threftadaeth ledled y DU.
Bydd y rhaglen yn helpu cyfranogwyr i fagu hyder, goresgyn heriau uniongyrchol a chynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Bydd y prif feysydd ffocws yn cynnwys cynllunio busnes, codi arian, a marchnata a chyfathrebu.
Mae'r ystod lawn o gymorth sydd ar gael yn cynnwys:
- cymorth busnes un-i-un gyda Creative United
- strategaeth gyfathrebu un-i-un gyda'r Media Trust
- ymgynghoriaeth codi arian un-i-un gyda'r Sefydliad Codi Arian Siartredig
- Hyfforddiant Arweinyddiaeth Ail-adeiladu gyda Clore Leadership
Bwriad Cwmpawd Treftadaeth yw helpu sefydliadau treftadaeth bach a chanolig yn Lloegr i dyfu cydnerthedd a bywiogi'r sector. Fe'i cyflwynir gan Cause4 mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchnata'r Celfyddydau a Creative United.
Yng ngwanwyn 2021, dyfarnwyd cyllid ychwanegol gan y Gronfa Treftadaeth a'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i ehangu o 150 i 300 o sefydliadau sy'n cymryd rhan.
- Mae’r rhaglen hon ar gau ar gyfer ceisiadau. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Cwmpawd Treftadaeth.
Mae Goroesi i Ffynnu: Cefnogi Treftadaeth Gynaliadwy Busnesau Treftadaeth yr Alban yn rhaglen hyfforddi cydnerthedd ac arweinyddiaeth sy'n gweithio gyda 40 o sefydliadau treftadaeth yn yr Alban i'w helpu i ddatblygu modelau busnes cynaliadwy.
Mae'r hyfforddiant wedi'i deilwra yn cwmpasu arweinyddiaeth, llywodraethu, cynllunio busnes ac ymgysylltu â'r gymuned.
Mae'r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno gan arbenigwyr yn y diwydiant o Museums Galleries Scotland, Fforwm Amgylchedd Adeiledig yr Alban a Greenspace Scotland.
- Mae'r rhaglen hon ar gau ar gyfer ceisiadau. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Surviving to Thriving.
Mae Re:Model yn rhaglen sy'n cael ei chyflwyno gan Thrive and Arts & Business NI.
Mae ystod eang o sefydliadau treftadaeth yng Ngogledd Iwerddon yn rhan o'r rhaglen sy'n gweithio i greu eu cynllun newid personol eu hunain a fydd yn gweithredu fel map ffordd tuag at gydnerthedd a chynaliadwyedd.
Mae'r ail garfan o sefydliadau wedi dechrau gweithio ar y rhaglen.
- Mae'r rhaglen hon ar gau ar gyfer ceisiadau. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Thrive.
Mae Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn brosiect dwyieithog ledled Cymru sy'n ceisio helpu sefydliadau treftadaeth micro, bach a chanolig i ddod yn fwy gwydn a chynaliadwy drwy ehangu eu ffrydiau incwm, eu cynulleidfaoedd, eu timau a'u byrddau.
Fe'i harweinir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) mewn partneriaeth â Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt). Mae hefyd yn cael ei chefnogi gan Anabledd Cymru, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chefnogi Ieuenctid Cymru (EYST) a Pride Cymru.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:
- archwiliadau iechyd sefydliadol i adolygu cydnerthedd a galluogi dull mwy strategol ac effeithlon o ddatblygu busnes
- sesiynau anogaeth ar bynciau fel llywodraethu, cynhyrchu incwm, marchnata a mesur a rhannu gwerth ac effaith gymdeithasol
- cymorth i sefydliadau ehangu eu rhwydweithiau a chyrraedd mwy o bobl o gymunedau sydd heb gael eu gwasanaethau’n ddigonol
- cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer unigolion o grwpiau sydd heb gael eu gwasanaethau’n ddigonol ac â diddordeb mewn gwirfoddoli, dod o hyd i gyflogaeth neu fod yn ymddiriedolwr ym maes treftadaeth
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Catalydd Cymru.
Datblygu menter
Rydym wedi datblygu dwy raglen ledled y DU gyda'r nod o gefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth i ddatblygu sgiliau menter.
Mae Camau at Gynaliadwyedd yn cefnogi sefydliadau o bob rhan o'r DU i gryfhau eu sgiliau arwain strategol a chynhyrchu incwm. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan yr Academi Mentrau Cymdeithasol, gyda chefnogaeth partneriaid consortiwm.
Bydd sefydliadau sy'n cymryd rhan yn dysgu sut i fod yn uchelgeisiol ac yn flaengar, a sut i gyflawni prosiectau newydd a chyffrous. Mae’r rhaglen yn darparu'r canlynol:
- helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer cynaliadwyedd a'i feithrin
- ariannu hyd at £10,000 i helpu i lunio a lansio syniadau busnes
- hyfforddiant / mentora busnes wedi'r rhaglen
- adnoddau a phecynnau cymorth ar gyfer llwyddiant
Mae'r rhaglen hon ar gau ar gyfer ceisiadau. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Camau at Gynaliadwyedd.
Mae'r rhaglen Heritage Trade Up yn cael ei chynnal gan yr Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol gyda Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth a'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.
Mae'r rhaglen yn cefnogi arweinwyr sefydliadau treftadaeth i ddatblygu a chryfhau eu entrepreneuraidd. Ei nod yw rhoi'r sgiliau a'r rhwydweithiau sydd eu hangen ar sefydliadau i fod yn fwy arloesol, cynyddu incwm sy'n cael ei fasnachu a gwydnwch ariannol, a chreu newid cadarnhaol o fewn eu sefydliadau a'u cymunedau.
Bydd SSE yn cefnogi sefydliadau i ddod â threftadaeth i gynulleidfa ehangach, felly mae'r sector mewn gwell sefyllfa i adeiladu cymdeithas fwy cysylltiedig a chynhwysol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
- dysgu gan gymheiriaid
- hyd at £10,000 Grant Masnach yn cefnogi adferiad o'r pandemig coronafeirws (COVID-19)
- y cyfle i gael rhwydwaith cymorth o gyfoedion tebyg i'r un anian
- Mae'r rhaglen hon ar gau ar gyfer ceisiadau. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Heritage Trade Up.
Grantiau cydnerthedd ac adferiad
Mae cynaliadwyedd sefydliadol yn un o'r pedair egwyddor buddsoddi a fydd yn arwain ein holl benderfyniadau grant o dan Dreftadaeth 2033.
Mae ein cyllid yn hyblyg ac yn ymatebol i'r hyn sydd ei angen ar eich sefydliad i symud ymlaen yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy.
Efallai y bydd angen i chi gaffael sgiliau neu wybodaeth newydd, archwilio modelau gweithredu neu lywodraethu newydd, ystyried cymorth gan ymgynghorwyr allanol neu adolygu eich dull o gynhyrchu incwm. Archwiliwch fwy yn ein canllawiau cynaliadwyedd sefydliadol.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael y diweddariadau diweddaraf am ein rhaglenni cyllid a chymorth yn syth i'ch mewnflwch.
Darganfyddwch fwy o adnoddau, gwybodaeth ddefnyddiol a diweddariadau isod:
Straeon
Five tips for more robust and innovative heritage organisations
Straeon
Looking forward - new ways to be resilient
Newyddion
£2 filiwn i helpu'r sector treftadaeth i adfer ar ôl y pandemig
Newyddion
Gwella eich sgiliau busnes a chryfhau gwydnwch
Blogiau