Cyllid newydd ar gyfer rhaglenni hyfforddi sgiliau menter a busnes
Gyda chyfanswm o £3miliwn o fuddsoddiad, rydym yn gobeithio ariannu:
-
rhaglen hyfforddi ledled y DU i ddatblygu diwylliant cryfach o fenter lwyddiannus yn y sector treftadaeth
-
rhaglenni ar draws y pedair gwlad yn y DU, yn canolbwyntio ar sgiliau busnes ac arweinyddiaeth - gan gynnwys arallgyfeirio incwm, datblygu cefnogwyr, gwirfoddolwyr a chynulleidfaoedd, ymateb i gyfleoedd newydd a gwrthsefyll bygythiadau ac adeiladu rhwydweithiau cryfach
Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol, ymrwymodd y Gronfa i gomisiynu rhaglenni cymorth busnes er mwyn cynyddu cydnerthedd a sgiliau codi arian, cynllunio busnes ac ariannol, llywodraethu, menter fasnachol ac ymgysylltu â buddsoddiad cymdeithasol.
Mae cyllid ar gael fel rhan o'n hymgyrch meithrin gallu a chydnerthedd sefydliadol, a gaiff ei lansio yn ystod gwanwyn 2020. Bydd y rhaglenni hyfforddi a datblygu a ariennir yn rhan o'n gwaith tuag at ein hamcan strategol i gefnogi sefydliadau yr ydym yn eu hariannu i fod yn fwy cadarn, mentrus a blaengar.
Sut i ymgeisio
Am ragor o wybodaeth am yr arian yma a sut i ymgiesio, ewch i’n tudalennau Cyllid Datblygu Menter a Cyllid Cymorth Busnes.