Ein gwaith
Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.
Dros fywyd ein strategaeth 10 mlynedd Treftadaeth 2033, rydym yn bwriadu buddsoddi £3.6biliwn biliwn a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl, lleoedd a chymunedau.
Yr ariannu sydd ar gael
Rydym yn cynnig ariannu ar gyfer prosiectau o £10,000 hyd at £10miliwn (mae'n bosibl y byddwn hyd yn oed yn ystyried buddsoddi dros £10m ar gyfer prosiectau treftadaeth gwirioneddol eithriadol).
Mae'r holl benderfyniadau a wnawn yn canolbwyntio ar fframwaith wedi'i symleiddio o bedair egwyddor fuddsoddi: achub treftadaeth; diogelu'r amgylchedd; cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad; a chynaladwyedd sefydliadol.
Gweld pa ariannu sydd ar gael gennym
Gweld y prosiectau rydym wedi'u hariannu
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n gofalu am ystod eang o dreftadaeth – o adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a'r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, straeon a mwy.
Archwiliwch rai o'r prosiectau rydym wedi'u hariannu
Mathau o dreftadaeth rydym yn eu cefnogi
Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac am ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Darganfyddwch fwy am y dreftadaeth rydym yn ei chefnogi a dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich syniadau prosiect.
Ardaloedd, adeiladau a henebion
Gofalu am adeiladau hanesyddol, henebion ac archaeoleg fel ein bod yn diogelu'r lleoedd y mae pobl yn eu caru.
Treftadaeth gymunedol
Dathlu ein treftadaeth gymunedol i ddod â phobl ynghyd a chynyddu balchder mewn mannau lleol.
Diwylliannau ac atgofion
Archwilio, achub a dathlu traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth gwahanol gymunedau.
Diwydiannol, morol a thrafnidiaeth
Diogelu a dathlu'r adeiladau, trafnidiaeth a thechnoleg arloesol a helpodd i lunio'r byd modern.
Tirweddau, parciau a natur
Gofalu am natur a helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd.
Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau
Cefnogi amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau fel y gallant adrodd hanesion lleoedd, pobl a diwylliannau'r DU.
Archwiliwch ein mewnwelediad a rhannwch eich barn
- Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth: ein menter codi hyder
- Cefnogi Busnes a Datblygu Menter: ein hymgyrch adeiladu gallu a chydnerthedd
- Mewnwelediad: ein gwaith ymchwil a gwerthuso
- Pwls Treftadaeth y DU: ein prosiect ymchwil cydweithredol