Ennyn diddordeb pobl ifanc mewn treftadaeth o'u cartrefi

Clywaf pobl yn aml yn dweud ei bod yn anodd cael pobl ifanc i ymwneud â threftadaeth.
Nid wyf yn credu bod hyn yn wir, ac nid ydym wedi cael unrhyw drafferth o ran denu pobl ifanc i fod yn rhan o brosiect ymgysylltu ieuenctid y Comisiwn Brenhinol, Treftadaeth Ddisylw?
Mae’r prosiect wedi ei gynnal ers tair blynedd bellach. Mae'n un o sawl prosiect yn dod o dan faner Treftadaeth Ddigariad? wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
"Rwy'n credu mai'r gyfrinach i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn treftadaeth yw gofyn iddynt beth maent yn ei werthfawrogi a sut yr hoffent ei gofnodi ar gyfer yr oesoedd a ddêl."
Yn sylfaenol i'r prosiect y mae cefnu ar ragdybiaethau am "dreftadaeth". Wedi'i ddiffinio'n gryno - treftadaeth yw'r pethau o'r gorffennol a'r presennol yr ydych yn eu gwerthfawrogi digon i fod eisiau eu cyflwyno i genedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n golygu bod gan bawb ddiffiniad ychydig yn wahanol am dreftadaeth.
Gofyn i bobl ifanc beth maent yn ei werthfawrogi
Rwy'n credu mai'r gyfrinach i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn treftadaeth yw gofyn beth maen nhw’n eu gwerthfawrogi a sut yr hoffent eu cofnodi ar gyfer yr oesoedd a ddêl. Mae ein grŵp wedi rhoi enw iddyn nhw eu hunain – y CHYPs (Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion). Maent, fel y gallech ddisgwyl, yn fedrus iawn yn y cyfryngau cymdeithasol, blogio, dylunio gwefannau a ffotograffiaeth.
Mae'n eu galw'n Ceredigion Gyfyngedig oherwydd eu bod wedi'u cyfareddu gan agweddau anghonfensiynol a rhai sy'n cael eu hanwybyddu. Roedd ganddynt yr un diddordeb yn y ceir a oedd yn cael eu dympio wrth y fynedfa i bwll plwm â’r archeoleg ddiwydiannol y tu mewn.

Flwyddyn yn ôl, perswadiais y Llyfrgell Genedlaethol i roi mynediad i'r CHYPs i ogof ddirgel sy'n gorwedd wrth ymyl y llwybr serth i fyny at y llyfrgell o'r brif ffordd i'r dwyrain allan o Aberystwyth.
Er gwaethaf y graffiti y tu mewn i'r fynedfa yn rhybuddio bod 'Marwolaeth rownd y gornel ', defnyddion ni ein sgiliau archeolegol i ddod o hyd i dystiolaeth o'i gorffennol fel archif ar gyfer llawysgrifau mwyaf gwerthfawr y Llyfrgell Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cipio bywyd yn ystod y pandemig
Tra bod argyfwng coronafeirws (COVID-19) yn ein rhwystro rhag gwneud gwaith maes gyda'r CHYPs, maent yn awyddus iawn i barhau gyda'u gwaith. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau â'r rhaglen ar ffurf ddiwygiedig – er enghraifft, mae'r CHYPs yn creu blog newydd i gipio bywyd yn ystod y pandemig – gan ei alw'n Treftadaeth Ansicr.

Maent yn parhau i baratoi arddangosfa wedi ei gohirio o'r enw Stori y Tŷ ar y Mynydd a fydd yn mynd yn ei flaen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Maent hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ar safleoedd hamdden ac adloniant Aberystwyth, i greu llwybr treftadaeth i’r dref.
"Efallai yr hoffen nhw gadw dyddiadur o'r amseroedd rydyn ni'n byw ynddynt – yn union fel y gwnaeth Samuel Pepys yn ystod tân mawr Llundain."
Felly, gadewch i ni glywed dim mwy o sôn am bobl ifanc sydd ddim yn ymddiddori mewn treftadaeth. Ac os oes gennych chi bobl ifanc gartref yn chwilio am syniadau i osgoi diflasdod, byddai'n werth cael sgwrs am yr hyn maen nhw'n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i’r dyfodol newydd.
Efallai y gallech eu hannog i ymgymryd â phrosiect neu wneud gwaith ymchwil gan ddefnyddio adnoddau ar-lein y Comisiwn Brenhinol a Chasgliad y Werin Cymru.
Efallai y bydden nhw hefyd yn hoffi cadw dyddiadur o'r amseroedd rydyn ni'n byw ynddynt – yn union fel y gwnaeth Samuel Pepys yn ystod tân mawr Llundain.
Dysgwch fwy
- Ymddangosodd y blog yma’n wreiddiol ar wefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
- Dysgwch fwy am Coflein, dronfa ddata a chatalogio treftadaeth ar-lein y Comisiwn Brenhinol.