Hyfforddodd Isabel yn wreiddiol fel syrfëwr gyda Jones Lang LaSalle, gan weithio ym maes adfywio trefol. Yna symudodd i rolau marchnata a datblygu busnes uwch yng Ngrŵp y Post Brenhinol, lle'r oedd hefyd yn gyfarwyddwr masnachol ar y Bwrdd Rhyngwladol.
Ymunodd â'r gwasanaeth sifil fel cyfarwyddwr gweithredol ar Fwrdd y Swyddfa Basport ac mae hi hefyd wedi gweithio yn y Swyddfa Gartref a Swyddfa'r Cabinet fel cyfarwyddwr strategaeth. Roedd ganddi rolau gweithredol ym Mhrifysgol Leeds a NHS Digital ac mae wedi'i lleoli yn swyddfa Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn Leeds.
Mae gan Isabel ddiddordeb arbennig mewn technolegau digidol, arloesi a thrawsnewid, mewn cynaliadwyedd ac o ran hygyrchedd, amrywiaeth a chynhwysiant. Yn NHS Digital hi oedd arweinydd gweithredol amrywiaeth ac roedd yn aelod o Gyngor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cenedlaethol y GIG.
Mae hi'n aelod o Fwrdd Yorkshire Housing a Yorkshire Housing Residential Ltd a chyn hynny bu'n gwasanaethu ar Fyrddau Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) ac Amgueddfa Feddygol Thackray.
Mae gan Isabel raddau o brifysgolion Birmingham a Reading, MBA Cranfield ac mae'n aelod o'r Sefydliad Marchnata Siartredig.