Buddsoddi mewn treftadaeth o gymunedau ethnig amrywiol
Yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn cefnogi pob math o brosiectau sy'n archwilio ac yn dathlu treftadaeth o gymunedau ethnig amrywiol.
Rydym hefyd am helpu'r sector ei hun i adlewyrchu poblogaeth y DU yn well.
Y termau rydym yn eu defnyddio
Mae rhai o'r termau rydyn ni'n eu defnyddio yn cynnwys:
- cymunedau ethnig amrywiol. Yn yr Alban rydym yn defnyddio MECC (cymuned lleiafrifoedd ethnig a diwylliannol). Rydym wedi diwygio ein defnydd o'r term BAME (Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol).
- LGBTQ+ (hunaniaethau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar a hunaniaethau eraill)
- Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ddisgrifio amrywiaeth o grwpiau ethnig neu bobl â ffyrdd crwydrol o fyw nad ydynt o ethnigrwydd penodol
Rydyn ni'n defnyddio'r termau hyn oherwydd ein bod yn credu eu bod yn cael eu deall yn eang. Gall hunaniaethau fod yn gymhleth ac yn rhyngblethol, ac rydym hefyd yn ymwybodol y gallai llawer o'r termau hyn deimlo'n annigonol neu'n gyfyngol. Rydyn ni'n cadw'r iaith rydyn ni'n ei defnyddio'n gyson dan adolygiad.
Mis Treftadaeth Dwyrain a De-ddwyrain Asia
Rydym yn ariannu prosiectau gan grwpiau cymunedol amrywiol i helpu i wneud straeon pedair cenedl y DU yn fwy cynhwysol o dreftadaeth pawb. Drwy wneud hynny, rydym am helpu i fynd i'r afael â rhagfarn a chodi ymwybyddiaeth am orffennol a phresennol cymunedau amrywiol y DU.
Yn ystod mis Medi rydym yn dathlu treftadaeth Dwyrain a De-ddwyrain Asia.
Isod, porwch brosiectau sy'n archwilio cysylltiadau'r DU â'r byd ac yn dathlu diwylliannau a straeon cymunedau sydd wedi'u gwreiddio yn nwyrain a de-ddwyrain Asia.
Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect
Mynnwch ysbrydoliaeth gan y prosiectau isod a darganfod mwy am wneud cais am ein hariannu.