Buddsoddi mewn treftadaeth o gymunedau ethnig amrywiol

Buddsoddi mewn treftadaeth o gymunedau ethnig amrywiol

Mae treftadaeth yn perthyn i bob un ohonom - a dyna pam rydym am helpu i adrodd straeon pawb.

Yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn cefnogi pob math o brosiectau sy'n archwilio ac yn dathlu treftadaeth o gymunedau ethnig amrywiol.

Yn ystod Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, rydym yn taflu goleuni ar brosiectau sy'n arddangos hanes a threftadaeth amrywiol y cymunedau hyn. Gallwch ddarganfod storïau'r prosiectau hyn isod.

Rydym hefyd am helpu'r sector ei hun i adlewyrchu poblogaeth y DU yn well.

Y termau rydym yn eu defnyddio

Mae rhai o'r termau rydyn ni'n eu defnyddio yn cynnwys:

  • cymunedau ethnig amrywiol. Yn yr Alban rydym yn defnyddio MECC (cymuned lleiafrifoedd ethnig a diwylliannol). Rydym wedi diwygio ein defnydd o'r term BAME (Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol).
  • LGBTQ+ (hunaniaethau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar a hunaniaethau eraill)
  • Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ddisgrifio amrywiaeth o grwpiau ethnig neu bobl â ffyrdd crwydrol o fyw nad ydynt o ethnigrwydd penodol

Rydyn ni'n defnyddio'r termau hyn oherwydd ein bod yn credu eu bod yn cael eu deall yn eang. Gall hunaniaethau fod yn gymhleth ac yn rhyngblethol, ac rydym hefyd yn ymwybodol y gallai llawer o'r termau hyn deimlo'n annigonol neu'n gyfyngol. Rydyn ni'n cadw'r iaith rydyn ni'n ei defnyddio'n gyson dan adolygiad.

Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Bob Mehefin mae'r Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn dathlu hanes, diwylliannau a thraddodiadau ystod amrywiol o gymunedau sy'n draddodiadol yn grwydrol. Mae'r thema eleni 'beth mae teulu'n ei olygu i chi' yn canolbwyntio ar bwysigrwydd teuluoedd, ar ba bynnag ffurf y maent.

Trwy rannu’r storïau a mwyhau lleisiau pobl sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr gallwn helpu taclo rhagfarn a chodi ymwybyddiaeth am orffennol a phresennol y cymunedau hyn.

Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect

O recordio bywyd teuluol Teithwyr i drosglwyddo bwyd a cherddoriaeth Roma draddodiadol, rydym yn ariannu prosiectau sy'n gwneud storïau pedair gwlad y DU yn fwy cynhwysol o dreftadaeth pawb.

Mynnwch ysbrydoliaeth gan y prosiectau isod a darganfod mwy am wneud cais am ein hariannu.