Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
Mae ein cyllid yn dathlu'r adeiladau, trafnidiaeth a thechnoleg arloesol a helpodd i lunio'r byd modern.
Ers 1994 rydym wedi dyfarnu £630m i 1,600 o brosiectau diwydiannol, morol a thrafnidiaeth ledled y DU.
Rydym am helpu mwy o bobl i gadw a diogelu eu treftadaeth ddiwydiannol leol. Gall ein cyllid helpu i drosglwyddo'r sgiliau i genedlaethau iau i ofalu amdanyn nhw.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Mae’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu yn cynnwys:
- gwasg argraffu
- peiriannau pwmpio
- melinau gwynt
- llongau hanesyddol
- locomotifau
- tirweddau naturiol a drawsffurfiwyd gan ddiwydiant
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- dadorchuddio a chofnodi atgofion pobl o'n gorffennol diwydiannol
- rhoi pwrpas newydd i safle segur
- adfer a chynnal peiriannau gweithredu
- yn datgelu hanes diwydiant yn eich ardal chi
- archwilio rhwydwaith o gamlesi’r genedl
- darparu cyfleusterau i ymwelwyr ac adnoddau dysgu wedi'u staffio
- helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd a gofalu am eu treftadaeth
Sut i gael arian
Newyddion
Y chwe mis cyntaf: ein Fframwaith Ariannu Strategol
Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn gyffrous i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ym mis Ionawr fe wnaethon ni newid ein henw a'n brandio , yn ogystal â’r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn dosbarthu ein grantiau. Bellach mae gennym raglenni ariannu agore d ar gyfer pob math o dreftadaeth, o £3,000 i
Newyddion
Lansio gwerth £100m o Grantiau Treftadaeth Gorwelion
Bydd Grantiau Treftadaeth Gorwelion yn buddsoddi £100miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf mewn prosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsnewidiol a fydd yn chwyldroi treftadaeth y DU.