Ymunwch â ni i wneud eich #AddunedByd yr wythnos hon
O heddiw (dydd Llun 19 Ebrill) tan ddydd Gwener, mae'r Loteri Genedlaethol yn ein hannog i rannu #AddewidByd ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymrwymo i achub y blaned.
Mae'r ymgyrch sydd yn cael ei arwain i ni gan y naturiaethwr, ymgyrchydd amgylcheddol a chyflwynwr teledu Chris Packham yn edrych ar sut y gallom gydweithio i achub yr amglychedd.
"Maen rhaid i ni newid ein ymddygiad heddiw os yr ydym am wneud y dyfodol yn le gwyrddach a gwell ar gyfer cenhedloedd i ddod”
Chris Packham, naturiaethwr, ymgyrchydd amgylcheddol a chyflwynydd teledu
Ers 2011, mae'r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £2.2 biliwn mewn mentrau gwyrdd diolch i arian sydd wedi cael ei godi gan chwaraewyr. Mae'r prosiectau rhain wedi cynnwys grwpiau cymunedol sydd yn gwarchod cynefinoedd naturiol a gwaith celf sydd yn addysgu pobl ifanc am newid hinsawdd.
Meddai Chris Packham: “Mae'r Loteri Genedlaethol wedi darparu swm anferthol o nawdd i ariannu prosiectau cymunedol i fynd i'r afael a newid hinsawdd ar lefel leol. Maen rhaid i ni newid ein ymddygiad heddiw os yr ydym am wneud y dyfodol yn le gwyrddach a gwell ar gyfer cenhedloedd i ddod."
Amser i newid ein harferion
Rydym yn galw arnoch i rannu ei #AddunedByd wrth i waith ymchwil newydd ddangos bod 7 o bob 10 ohonom yn teimlo nad ydym yn gwnedu digon i warchod yr amgylchedd.
Mae'r pandemig a sgil effeithiau y cloi mawr wedi gwneud y sefyllfa yn waeth gyda 73% o'r rheini y'i cwesitynwyd yn adrodd eu bod nhw'n defnyddio mwy o drydan wrth wylio mwy o deledu a denyddio chyfrifiaduron a mae 34% yn dweud eu bod nhw'n defnyddio mwy o wresogi yn ystod y dydd nac erioed o'r blaen.
Ond mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod nifer ohonom yn bwriadu newid ein arferion pan ddoith y clo mawr i ben ac y bydd hyn o les i'r amgylchedd. Mae 40% ohonom yn dweud ein bod am gerdded yn fwy aml a mae 27% ohonom yn addo teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru car a chymryd gwyliau yn lleol.
Ein haddewid
Dyma ein Rheolwr Newid Hinsawdd, Jo Robinson-Cheale, yn trafod ein #AddunedByd a’r ysbrydoliaeth rydym yn ei gael gan y prosiectau rydym yn gweithio gyda nhw:
Sut i ymuno a gwneud gwahaniaeth
Os rydych chi'n gorff neu brosiect sydd wedi ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol gawllch chi gymryd rhan drwy wneud addewid ar y cyfryngau cymdeithasol:
- Rhannwnch addweid unigol megis cymryd potel ddŵr y gellir ei hail lenwi gyda chi fel nad oes angen i chi brynu potel blastig.
Neu
- Rhannwch addewid ar ran eich sefydliad megis defnyddio bin compost ar gyfer eich gwastraff bwyd.
Cofiwch:
- ddefnyddio'r hashnodau #AddewidByd a #LoteriGenedlaethol
- tagiwch @lottogoodcauses, @HeritageFundCYM a @HeritageFundUK ar Trydar
- tagiwch @NationalLotteryGoodCauses, @HeritageFundCYM a @heritagefunduk ar Instagram
Ein ymrwymiad i'r amgylchedd
Credwn fod gan y sector dreftadaeth rôl bwysig i’w chwarae wrth leiau allyriadau carbon a thaclo newid hinsawdd. Rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth trwy ein ariannu a rhannu adnoddau ac arferion da.
Dyma pam mae rhaid i bob corff rydym yn ei ariannu ddangos eu hymrwymiad i gynnwys cynaliadwedd tymor hir yn eu cynlluniau.
Dyma ragor o wybodaeth am ein adnoddau amgylcheddol, gwaith ymchwil a'r prosiectau rydym yn eu cefnogi.