£7.6miliwn wedi'i ddyfarnu i amgueddfeydd unigryw ar draws y DU

£7.6miliwn wedi'i ddyfarnu i amgueddfeydd unigryw ar draws y DU

Person mewn ffedog yn helpu rhywun arall i ddefnyddio olwyn grochenwaith
Dysgu yn The Leach Pottery. Credyd: © Ellen Love.
O grysau pêl-droed eiconig i helmed deifio dyfnfor gyntaf y byd, rydym yn cefnogi prosiectau i rannu gwrthrychau hanesyddol prin gyda'r cyhoedd.

Yn ein rownd ariannu ddiweddaraf, rydym wedi buddsoddi mewn chwe amgueddfa sy'n arddangos treftadaeth amrywiol y DU drwy gasgliadau unigryw. Bydd arddangosfeydd newydd yn adrodd storïau pêl-droed, criced, deifio, crochenwaith a mwy, tra bydd llawer o'r arteffactau'n cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Mae ein buddsoddiad diweddaraf mewn amgueddfeydd yn dangos amrywiaeth a disgleirdeb anhygoel ein hamgueddfeydd
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol  

Dwy siwt ddeifio hanesyddol
Siwtiau Newt a Jim: dwy siwt ddeifio un atmosffer. Credyd: © Kevin Casey.

Amgueddfeydd i bawb

Mae’r prosiectau rydym wedi dyfarnu cyfanswm o £7.6m iddynt yn cynnwys:

Amgueddfa Dau Hanner (y dyfarnwyd £2.7m iddi) a fydd yn cyfuno Amgueddfa leol Wrecsam ag Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru, gan ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd yn nhreftadaeth chwaraeon y dref. Ymhlith y gwrthrychau eiconig sydd i'w harddangos fydd crys cyntaf John Charles a chap a ddyfarnwyd i Billy Meredith.

The Diving Museum (y dyfarnwyd £802,604 iddi) yn Gosport  a fydd yn paru adnewyddu'r fagnelfa Fictoraidd restredig Gradd II* â dehongliad newydd i arddangos hanes man geni'r diwydiant deifio dyfnfor byd-eang.

The Leach Pottery Museum (y dyfarnwyd £3.4m iddi) yn St. Ives sy'n sefydlu canolfan ddysgu a chynhyrchu newydd. Bydd y gofod newydd yn anrhydeddu etifeddiaeth y crochenydd byd-enwog Bernard Leach ac yn helpu cymunedau lleol i ddarganfod dulliau crochenwaith traddodiadol.

The Museum of Aberdeenshire (y dyfarnwyd £309,409 iddi) sy'n cael ei hariannu i ddatblygu cynlluniau i drawsnewid Tŷ Arbuthnot hanesyddol yn amgueddfa newydd i fod yn gartref i arteffactau gan gynnwys y Deskford Carnyx, trwmped Celtaidd cynnar prin.

Mae arian datblygu'n cefnogi The Egypt Exploration Centre (y dyfarnwyd £61,321 iddi) i fireinio cynlluniau ar gyfer adnewyddu eu hadeilad yn Camden. Bydd y gwaith adnewyddu'n caniatáu i'r Oxyrhynchus Papyri o bwys rhyngwladol gael ei arddangos am y tro cyntaf.

Bydd Lancashire Cricket Heritage Experience (y dyfarnwyd £176,650 iddo) yn datblygu cynlluniau i ddod â hyb treftadaeth rhyngweithiol i faes criced Emirates Old Trafford. Bydd yr amgueddfa'n cynnwys technoleg drochi, arddangosfeydd rhyngweithiol ac arddangosion ymarferol.
 

Crys pêl-droed Cymru coch â llewys hir
Crys gêm gyntaf John Charles ar gyfer Cymru v Iwerddon 1950. Credyd: Amgueddfa Wrecsam.

Ysbrydoli darganfod

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “O Swydd Aberdeen i Gernyw, mae ein buddsoddiad diweddaraf mewn amgueddfeydd yn dangos amrywiaeth a disgleirdeb anhygoel ein hamgueddfeydd, gyda chasgliadau o arwyddocâd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. 

"Bydd y prosiectau hyn yn ysbrydoli ymwelwyr o bob oedran, gyda llawer o’r casgliadau hyn yn cael eu datgelu am y tro cyntaf, a byddant oll yn cysylltu pobl â storïau unigol chwaraeon, deifio, crochenwaith, archaeoleg a llawer mwy, gan greu stori genedlaethol sy’n cwmpasu'r mathau niferus ac amrywiol o dreftadaeth sydd gennym i’w cynnig.

“Bydd ein buddsoddiad yng ngwead treftadaeth ddiwylliannol yr amgueddfeydd hyn yn ysbrydoli pobl, yn cysylltu cymunedau ac yn sbarduno twf, gan alluogi pawb i ddarganfod y dreftadaeth leol anhygoel mewn trefi ar draws y DU a chefnogi ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol, ac mae'r amgueddfeydd hyn yn dangos yr angerdd a'r amrywiaeth ohoni. Felly, waeth beth fydd y tywydd yr haf yma, mae yna bob amser amgueddfa neu le treftadaeth gwych ar agor i’w ddarganfod, ei archwilio a’i fwynhau."

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi dyfarnu £2.4biliwn i fwy na 5,900 o brosiectau seiliedig ar amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau ar draws y DU dros y 30 mlynedd diwethaf.

Ariannu amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau

Rydym yn ariannu prosiectau seiliedig ar gasgliadau sy'n helpu cadw a dathlu treftadaeth pobl, lleoedd a'r hyn yr ydym yn angerddol drosto. Mynnwch ysbrydoliaeth drwy bori rhai o'r prosiectau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau eraill rydym wedi'u cefnogi.
 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...