Mae Treftadaeth 2033, ein rhaglen Loteri Genedlaethol Newydd, ar agor ar gyfer grantiau o £10,000 hyd at £10 miliwn
Rydym yn barod i gefnogi prosiectau arloesol ac uchelgeisiol sy'n rhannu ein gweledigaeth i werthfawrogi treftadaeth, gofalu amdani a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.
Os oes rhywbeth o'r gorffennol yr ydych yn gofalu amdano ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol, rydym am glywed gennych.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Beth sydd wedi newid
Mae ein strategaeth Treftadaeth 2033 yn canolbwyntio ar fframwaith symlach o bedair egwyddor buddsoddi: arbed treftadaeth; diogelu'r amgylchedd; cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad; a chynaliadwyedd sefydliadol. Mae'n rhaid i chi ystyried y pedair egwyddor yn eich cais. Cryfder ffocws a phwyslais ar bob egwyddor yw i chi benderfynu ac amlygu.
Gan gofio am gostau cynyddol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, a thrwy ymateb i dueddiadau yn ein data ceisiadau grant, rydym wedi cynyddu ein grantiau lefel mynediad i £10,000. Mae hyn yn ychwanegol at gynnydd blaenorol i’r trothwy uwch i £10m (byddwn hyd yn oed yn ystyried buddsoddi dros £10m ar gyfer prosiectau treftadaeth gwirioneddol eithriadol).
Er mwyn symleiddio'ch profiad o ymgeisio am grant, rydym wedi:
- gwella cysylltiadau rhwng tudalennau ar ein gwefan fel y gallwch weld yn glir yr holl wybodaeth y mae angen i chi ei hystyried cyn gwneud cais
- lleihau hyd a chymhlethdod ein canllawiau cais a nifer y cwestiynau y mae'n rhaid i chi eu hateb
- gwneud hi'n haws dweud wrthym am eich treftadaeth a'r prosiect rydych chi am ei gyflawni
- symleiddio'r broses ar gyfer grantiau o £10,000–£250,000 i wneud cais ar y lefel honno yn fwy di-dor
- diweddaru ein dull o dalu grantiau, gan ei gwneud hi'n haws i chi reoli a chyflwyno'ch prosiect
Mae eich barn a'ch arbenigedd wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad Treftadaeth 2033 a byddwn yn parhau i wrando ac ymateb. Rydym wedi cynllunio proses ymgeisio a all addasu i'ch adborth a byddwn yn eich diweddaru pan fyddwn yn gwneud newidiadau.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyblygrwydd a chefnogi cynaliadwyedd sefydliadau yn y cyfnod heriol hwn. Os oes gennych anghenion brys neu eithriadol, cysylltwch â'ch tîm lleol.
Cysylltu pobl a threftadaeth
Dywedodd Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn fuddsoddi £870m ar draws ein cynllun cyflawni tair blynedd cyntaf mewn prosiectau o bob maint sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
"Rydyn ni'n gweld treftadaeth yn eang ac yn gynhwysol. Os oes rhywbeth o'r gorffennol yr ydych yn gofalu amdano ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol, rydym am glywed gennych."
Darganfyddwch fwy
Archwiliwch ein canllawiau ymgeisio Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer grantiau o £10,000–£250,000 neu o £250,000–£10m.
Os ydych chi'n ystyried gwneud cais i ni am y tro cyntaf, dechreuwch trwy ddysgu mwy am yr hyn rydyn ni'n ei ariannu a sut i ddeall ac egluro eich treftadaeth.