Cyhoeddi Eilish McGuinness fel ein Prif Weithredwr newydd
Bydd Eilish yn cymryd yr awenau gan Ros Kerslake CBE, a gyhoeddodd ym mis Gorffennaf ei bod yn camu i lawr fel Prif Swyddog Gweithredol y Gronfa treftadaeth a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol ar ôl pum mlynedd a hanner.
Mae'n fraint enfawr cael y cyfle yma i arwain y Gronfa Treftadaeth a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a chefnogi sefydliadau a chymunedau sy'n gofalu am ein treftadaeth gyfoethog ac amrywiol ledled y DU.
Eilish McGuinness
Dywedodd Eilish: "Mae'n fraint enfawr cael y cyfle hwn i arwain y Gronfa Treftadaeth a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a chefnogi sefydliadau a chymunedau sy'n gofalu am ein treftadaeth gyfoethog ac amrywiol ledled y DU."
Dywedodd Dr Simon Thurley CBE, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol: "Rwyf wrth fy modd bod yr Ymddiriedolwyr wedi dewis Eilish McGuinness fel Prif Weithredwr i olynu Ros Kerslake.
"Cyflwynwyd ymgeiswyr cryf iawn i'r Ymddiriedolwyr ar gyfer un o'r swyddi gorau ym maes treftadaeth ac rydym yn falch iawn o benodi rhywun â phrofiad eang, gallu rheoli ac arwain rhagorol ac ymdeimlad strategol cryf. Rwy'n bersonol, a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, yn edrych ymlaen at weithio gydag Eilish dros y blynyddoedd nesaf."
Profiad helaeth
Mae Eilish wedi gweithio ym maes treftadaeth ar hyd ei hoes broffesiynol ac mae ganddi brofiad helaeth ar draws y sector ac ehangder treftadaeth y DU. Ymunodd â'r Gronfa Treftadaeth yn 1996 ac mae wedi dal amrywiaeth o rolau, yn weithredol ac yn strategol. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Gweithredol Cyflenwi Busnes.
Dros yr 20 mis diwethaf, mae adran Eilish wedi bod ymhlith llawer o staff y Gronfa Treftadaeth sy'n gweithio ar y rheng flaen gyda sefydliadau treftadaeth i'w cefnogi drwy'r pandemig.
Ym mlwyddyn ariannol 2020-2021 fe wnaethant ein helpu i fuddsoddi mwy na £400 miliwn o arian parod i'r sector treftadaeth (cynnydd o 50% ar ein swm arferol), gan ddarparu cymorth hanfodol i fwy na 1,500 o sefydliadau treftadaeth. Ac fe'u canmolwyd am eu hyblygrwydd – llacio'r gofynion adrodd lle bo'n bosibl, cyflwyno taliadau ychwanegol os oes angen, a thrafod newidiadau o ran cwmpas neu gost oherwydd effaith COVID-19.
"Rwy'n edrych ymlaen at sicrhau ein bod yn parhau i ymateb i anghenion y dreftadaeth wrth i ni wella o'r pandemig."
Eilish McGuinness
Dywedodd Eilish: "Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi chwarae rhan hanfodol wrth helpu sefydliadau y mae'r pandemig yn effeithio arnynt, ac rwyf am dalu teyrnged i Ros Kerslake, ein hymddiriedolwyr, ein pwyllgorau a'n staff gwych am eu holl waith yn darparu nid yn unig arian y Loteri Genedlaethol ond hefyd arian brys ar ran adrannau'r llywodraeth mewn tair gwlad. Edrychaf ymlaen at sicrhau ein bod yn parhau i ymateb i anghenion y dreftadaeth wrth i ni wella o'r pandemig."
Cyn ymuno â'r Gronfa Treftadaeth, gweithiodd Eilish gyda Historic Scotland, Historic Monuments & Buildings Branch, Gogledd Iwerddon ac yn y sector treftadaeth yn Nulyn.
Mae ganddi radd mewn Hanes Celf ac Archaeoleg o Goleg Prifysgol Dulyn, ac MA o Brifysgol y Frenhines, Belfast, lle bu'n gymrawd ymchwil iau yn y Sefydliad Astudiaethau Gwyddelig ym Mhrifysgol Queen's Belfast.
Bydd Eilish yn ymgymryd yn swyddogol â rôl Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yn y flwyddyn newydd.