Penodi Dr Simon Thurley CBE yn Gadeirydd newydd
Bydd Simon yn ymgymryd â'r rôl tair blynedd ar 1 Ebrill 2021, gan olynu René Olivieri, sydd wedi bod yn Gadeirydd dros dro ers 2019. Mae René wedi chwarae rhan hollbwysig wrth lywio'r sefydliad drwy'r pandemig, gan gynnwys dosbarthu'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50m a chyllid sylweddol gan y Llywodraeth.
Arweinyddiaeth yn y sector treftadaeth
Rhwng 2002 a 2015 roedd Simon yn brif weithredwr English Heritage, yn gyfrifol am 420 o safleoedd Casgliad Treftadaeth Genedlaethol gan gynnwys Côr y Cewri a Chastell Dover a'r system Diogelu Treftadaeth Genedlaethol, gan gynnwys rhestru adeiladau.
Am bum mlynedd o 1997 bu'n gyfarwyddwr Amgueddfa Llundain, amgueddfa ddinesig fwyaf y byd, a'i huned archeolegol, MoLAS. Am wyth mlynedd yn y 1990au bu'n Curadur ac yn Syrfëwr y Fabric mewn Palasau Brenhinol Hanesyddol, gan arwain prosiectau amrywiol gan gynnwys Adfer y Cyfrin Ardd yn Llys Hampton.
"Mae'n anrhydedd o’r mwyaf cael fy mhenodi'n Gadeirydd ar adeg dyngedfennol i'r sector treftadaeth."
– Dr Simon Thurley
Angerdd personol
Mae gan Simon ddiddordeb brwd mewn natur ac mae wedi bod yn noddwr Ymddiriedolaeth Parciau a Gerddi Llundain ers 2004. Chwaraeodd ran yn y gwaith o sefydlu'r Canal and River Trust, lle bu'n ymddiriedolwr tan 2015. Mae'n un o ymddiriedolwyr y Llyfrgell Brydeinig a Sefydliad Andrew Lloyd Webber, sefydliad sy'n dyfarnu cyllid i brosiectau sy'n gwella addysg a chyfranogiad y celfyddydau, yn gwella mynediad ac yn cynyddu amrywiaeth ar draws sectorau'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.
Mae Simon yn Brofost o Goleg Gresham, sefydliad addysg uwch hynaf Llundain, a sefydlwyd yn 1597 i roi darlithoedd cyhoeddus am ddim yn y Ddinas. Fel hanesydd mae wedi ysgrifennu 13 o lyfrau gan gynnwys hanes o Bensaernïaeth Lloegr, Building England, a stori diogelu treftadaeth, Men from the Ministry.
Yn 2011 cafodd ei wneud yn CBE am ei wasanaethau i dreftadaeth. Mae'n briod gyda dau o blant ac yn byw yn Norfolk.
Diogelu a dathlu treftadaeth
Dywedodd Simon: "Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi'n Gadeirydd ar adeg dyngedfennol i'r sector treftadaeth. Bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu sefydliadau i ailadeiladu a ffynnu yn dilyn pandemig COVID-19 ac rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan yn hynny.
"Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am ehangder eithriadol y gwaith y mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ei gefnogi, o warchod cynefinoedd naturiol i ddiogelu a dathlu treftadaeth sydd wrth wraidd ein cymunedau.
"Mae fy ngyrfa wedi'i llunio gan gred gref yng ngrym treftadaeth y DU i gyfrannu'n gadarnhaol at fywydau pobl a'r mannau lle maent yn byw, gweithio ac ymweld â nhw. Mae cael y cyfle i gadeirio Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n rhannu'r weledigaeth hon, yn anrhydedd."
Cyfrannu at adferiad y DU ar ôl COVID
Dywedodd Ros Kerslake, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rwy'n falch iawn o groesawu Simon Thurley fel ein Cadeirydd newydd.
"Bydd Simon yn ymuno â ni ar adeg dyngedfennol, wrth i’r sector treftadaeth y DU ddod allan o un o'r argyfyngau mwyaf y mae wedi'i wynebu erioed. Mae gan dreftadaeth y potensial i wneud cyfraniad sylweddol i adferiad y DU ar ôl COVID, gan wneud cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt, gan roi hwb i economïau lleol, creu swyddi a chefnogi llesiant personol.
"Drwy ei ddyfnder o wybodaeth a phrofiad arwain yn ein sector, bydd yn gwneud cyfraniad mawr i'n helpu i gyflawni ein hagenda uchelgeisiol i gefnogi'r sector treftadaeth drwy hyn i ddyfodol cryfach a mwy gwydn. Mae buddsoddi yn ein treftadaeth er budd pawb yn y DU.
"Hoffwn ddiolch yn fawr i René Olivieri sydd, fel cadeirydd dros dro ers mis Rhagfyr 2019, wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lywio'r Gronfa dros y flwyddyn heriol ddiwethaf."
Dywedodd René Olivieri: "Rwy'n falch o fod wedi bod yn Gadeirydd dros dro ers mis Rhagfyr 2019. Mae fy amser i yn y rôl yma wedi'i ddiffinio gan y pandemig coronafeirws a'r ymateb anhygoel gan fy nghydweithwyr yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi'r sector treftadaeth ar yr adeg dyngedfennol hon.
"O fewn cyfnod byr, gwnaethom ddarparu Cronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50 miliwn a helpodd sefydliadau treftadaeth sy'n ei chael hi'n anodd pan oedd ei hangen fwyaf arnynt, yn ogystal â dosbarthu cyllid sylweddol gan y Llywodraeth.
"Rwy'n llongyfarch Simon Thurley ac rwy'n edrych ymlaen at weld y Gronfa yn arwain adferiad y sector treftadaeth o dan ei arweiniad."