Arddangosfa newydd o atgofion cyn-filwyr o Wasanaeth Milwrol
Mae Cofio Gwasanaeth Milwrol Cenedlaethol yn olrhain hanes 18 o gyn-filwyr, gan gynnwys rhai y buont yn gwasanaethu yn yr Aifft, Gwlad yr Iorddonen, Singapore ac Irac.
60 mlynedd ers i Wasanaeth Milwrol ddod i ben yn y DU, mae’r prosiect sydd yn cael ei redeg gan y sefydliad nad yw’n gwneud elw, Same but Different - yn cyfleu cyfnod pwysig yn hanes diwylliannol y wlad trwy lygaid y dynion a wasanaethodd.
Mi ariannwyd yr arddangosfa gyda rhodd o £23,400 gan y Loteri Genedlaethol.
“ Onibai am y prosiect hwn, mi fyddai’r straeon yma wedi eu colli am byth a felly dyma enghraifft berffaith on pa mor bwysig yw hi i fuddsoddi arian y Loteri Genedlaethol mewn gwarchod ein treftdaeth.”
Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Rhan enfawr o dyfu i fyny
Mi wasnaethodd Elwyn Davies, 83, o Ogledd Cymru yn yr Aifft a bu’n helpu i warchod cyfarpar a werthwyd gan Fyddin Prydain ar ddiwedd Argyfwng Suez.
Meddai: “Fe fyddwn yn tybio y byddai holl brofiad y Gwasanaeth Milwrol ar goll am byth heblaw bod ein hanesion yn cael eu dogfennu. Roedd yn rhywbeth, a effeithiodd, wedi’r cyfan, ar filoedd o ddynion ifanc ar yr adeg honno ac roedd yn rhan enfawr o dyfu i fyny.”
Cadw atgofion
Meddai Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: ”Roedd Gwasanaeth Milwrol yn gyfnod unigryw yn hanes Prydain a mae’r prosiect hwn wedi chwarae rhan bwysig wrth recordio atgofion rhai o’r unigolion rheini y bu’n gwasanaethu ledled y DU.
"Onibai am y prosiect hwn, mi fyddai’r straeon yma wedi eu colli am byth a felly dyma enghraifft berffaith on pa mor bwysig yw hi i fuddsoddi arian y Loteri Genedlaethol mewn gwarchod ein treftdaeth.”
Pwysig cofio
Bu Ken Grain – sydd yn 89 ac yn byw yng Nghroesoswallt, yn gwasanaethu yn Singapore gyda’r Llu Awyr Brenhinol fel Gweithredwr Cyfeiriad Radio yn ystod y 1950au.
Meddai Ken “Mae wedi bod yn hynod ddiddorol ailymweld a’m mywyd yn ystod Gwasanaeth Milwrol a chofio’r amser hynny. Mae’n bwysig cofio amdano gan fod nifer yn teimlo ei fod yn gyfle wedi ei wastraffu ond dyma oedd y peth gorau i bobl ifanc.
“Dwi’n meddwl fod y prosiect yn ffordd dda o adael i bobl wybod beth digwyddodd yn ystod Gwasanaeth Milwrol. Roeddwn i’n un o’r rhai lwcus a mi roedd yn help mawr i mi wrth dyfu i fyny.”
Arddangosfa werthchweil
Mae Michael Wilkinson (prif lun) yn 87 ac yn byw yng Nghaer. Bu'n gwasanaethu yn Hednesford yn ystod ei Wasnaeth Milwrol ac mae’n un o’r cyn-filwyr sydd yn rhan o’r prosiect.
Meddai:“Dwi’n edrych yn ol arno (fy Ngwasanaeth Milwrol) fel profiad positif iawn. Llongyfarchiadau am Cofio Gwasanaeth Milwrol – mi rydych wedi gwneud gwaith bendigedig.”
Mi fydd yr arddangosfa yn teithio y DU yn hwyrach yn y flwyddyn ond mae modd i chi ei weld arlein.