Casgliadau Dynamig
Important
We are no longer accepting new applications through the Dynamic Collections campaign. Please apply for funding for your project through our open programmes.
Mae casgliadau'n helpu i ddod â straeon niferus pobl a chymunedau ledled y DU yn fyw.
Yn y Gronfa Treftadaeth, rydym am gefnogi amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a sefydliadau eraill i wneud y gorau o'u casgliadau.
Bydd ein hymgyrch Casgliadau Dynamig yn cefnogi sefydliadau casglu drwy ddod â chyllid prosiect at ei gilydd drwy ein rhaglenni agored, adnoddau digidol a rhannu gwybodaeth.
Fe'i cynlluniwyd i fynd i'r afael â heriau hirdymor yn y sector, y mae llawer ohonynt wedi'u gwaethygu gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd hefyd yn helpu sefydliadau i adeiladu ar syniadau a thueddiadau arloesol a ddatblygwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran ymgysylltu digidol.
Mae'r ymgyrch hefyd yn gweithredu ar y galw am gasgliadau i esblygu i ddiwallu anghenion newidiol y cymunedau o'u cwmpas, ac i adlewyrchu mwy o hanes a phrofiadau pobl.
Cynhwysol, gwydn, esblygol
Bydd Casgliad Dynamig yn:
- cael ei ddefnyddio gan, ac yn ystyrlon i, ystod ehangach o bobl
- galluogi gwahanol safbwyntiau i gael eu clywed ac amrywiaeth o straeon i gael eu hadrodd
- cael ei reoli a'i adolygu'n weithredol
Cadw mewn cysylltiad
Cofrestrwch i'n cylchlythyr am y newyddion diweddaraf am gasgliadau a straeon ysbrydoledig o bob rhan o'r DU.
Eisiau cynnal prosiect Casgliadau Dynamig?
Blogiau
Final weeks to apply for Dynamic Collections grants
Projects
Amgueddfa Cymru: Hel Trysorau, Hel Straeon
Daeth y prosiect hwn, gyda chefnogaeth ein cronfa Casglu Diwylliannau, ag amgueddfeydd ledled Cymru ynghyd â helwyr trysorau lleol, gan wella perthnasoedd a chasgliadau hirdymor.