Buddion

Buddion

Cael gwybod mwy am y buddion y gallwch eu disgwyl pan fyddwch yn ymuno â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Oriau a gwyliau

Ar gyfer swydd amser llawn, bydd gweithwyr fel arfer yn gweithio wythnos pum niwrnod o 35 awr.

Gwyliau blynyddol o 26 diwrnod. Mae hyn yn codi, ar ben-blwydd eich dyddiad dechrau, un diwrnod ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth wedi'i gwblhau hyd at uchafswm o 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth y gellir ei alw, ynghyd â gwyliau statudol ac 1.5 'diwrnod braint' bob blwyddyn.  

Bydd yr oriau ar gyfer swyddi rhan-amser yn pro-rata, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr (net). Mae gwyliau blynyddol a hawl i wyliau banc hefyd yn cael eu cyfrifo ar sail pro-rata.

Gweithio hyblyg

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg, o oriau cywasgedig a  gweithio gartref i oriau rhan-amser a rhannu swydd.

Absenoldeb rhiant

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyblyg o ran absenoldeb rhiant a mabwysiadu, gan gynnwys absenoldeb rhiant gwell.

Datblygu’r gweithlu

Rydym yn cynnig mynediad i amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant gan gynnwys gweithdai ac e-ddysgu a ddarperir yn fewnol, yn ogystal â chyfleoedd dysgu allanol.

Pensiwn

Rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol o ran pensiwn:

  • Aelodaeth o Alpha dan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS)
  • Cyfrif Pensiwn Partneriaeth

Darperir mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn yn dilyn penodiad. 

Cyflog ymlaen llaw

Cynigir swm di-log ymlaen llaw i bob aelod o staff sydd wedi cwblhau eu cyfnod prawf, i dalu cost tocyn tymor blynyddol, i brynu beic neu fel blaendal ar gartref newydd.

Caiff y swm a roddir ymlaen llaw ei ad-dalu drwy ddidyniad rheolaidd o'r cyflog.

Cynllun Beicio i'r Gwaith

Fel rhan o gynllun Beicio i'r Gwaith y llywodraeth, gallwn logi beiciau ac offer diogelwch beicwyr i weithwyr fel budd di-dreth. Mae ein cynllun Beicio i’r Gwaith yn cynnig beiciau hyd at £5000 neu £500 ar gyfer gweithwyr ar gontract cyfnod penodol.

Aelodaeth campfa a sgrinio iechyd

Ar ôl tri mis o wasanaeth byddwn yn cynnig hyd at £50 y mis (a delir drwy'r gyflogres ac yn drethadwy) ar gyfer aelodaeth campfa. O'ch diwrnod cyntaf o wasanaeth mae yna hefyd opsiwn o sgrinio iechyd a ddarperir gan Nuffield Health.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Mae Workplace Wellness yn darparu llinell gymorth 24 awr gyfrinachol dros y ffôn, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’n cael ei darparu gan gwnsleriaid hyfforddedig a all helpu unigolion i ddelio ag ystod o broblemau sydd o bosib yn effeithio ar eu bywydau personol neu eu perfformiad yn y gwaith.

Gofal Plant Di-dreth

Mae Gofal Plant Di-dreth yn darparu hyd at £500 bob tri mis (£2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob plentyn i helpu gyda chostau gofal plant. Bydd y llywodraeth yn talu £2 am bob £8 rydych yn ei dalu i'ch darparwr gofal plant.

Gwirfoddoli

Mae gan weithwyr hawl i saith awr o amser gwirfoddoli bob blwyddyn, er mwyn cyfrannu at eu cymuned leol.