Sut rydym yn helpu i newid bywydau: stori Tom
“Pan ddechreuais yn yr ysgol uwchradd, roeddwn yn berson nerfus iawn ac yn ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau.
“Roedd fy mhoenau meddwl yn gwneud i mi deimlo'n eithaf unig ac roedd yn effeithio ar fy ngwaith ar y dechrau.”
Roedd Tom, o dde Cymru, yn gweld bywyd yn anodd. Ond yna fe ddaeth ei fam â Llamgi (Springer Spaniel) o gartref cŵn bach adref pan oedd ym mlwyddyn saith yn yr ysgol, ac fe ddechreuodd weld llygedyn o obaith.
"Trodd fy nghi fel math o gefnogwr personol. Roedd hi wir yn rhoi’r hyder i mi yn yr ysgol ac roeddwn yn gallu cysylltu fy nheimladau â'm ci."
Fe helpodd Tilly y Ci Tom i chwilio am brofiad gwaith.
Cymryd cyfle
Drwy hap a damwain, ar ddiwrnod allan gyda'i deulu i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ger Caerdydd, gwelodd Tom hysbyseb am gwrs ŵyna undydd.
Mae'r Amgueddfa sy’n arddangos bywyd, diwylliant a phensaernïaeth Gymreig wedi derbyn mwy na £11miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ail-agorodd y llynedd ar ôl ailddatblygiad enfawr, ac mae bellach yn cynnig gwaith cwrs ymarferol wedi'i ariannu gan y Loteri Genedlaethol hefyd.
"Cefais fy nysgu ar y cwrs gan Emma y bugail, fe wnaethon ni dreulio’r diwrnod cyfan gyda'n gilydd," meddai Tom.
"Roedd y profiad yn cadarnhau fy mod wir eisiau bod yn filfeddyg neu wneud rhywbeth gydag anifeiliaid, felly roedd gen i fwy o hyder."
"Roeddwn i'n meddwl y byddai angen i mi ad-dalu fy nyled i'r deyrnas anifeiliaid oherwydd helpodd Tilly mi drwy gydol fy mywyd, drwy fy helpu i ymdopi â'r straen, felly roeddwn i'n meddwl mai'r proffesiwn gorau i helpu anifeiliaid fyddai bod yn filfeddyg."
Y camau cyntaf at yrfa gyffrous
Fe wnaeth Tom fwynhau ei diwrnod gymaint fel yr ysbrydolwyd ef i ymgeisio a mynd i'r brifysgol gan ei osod ar lwybr tuag at yrfa gyffrous.
Tra bod ei deulu’n falch, mae'n credu y gallai ei ffrind ffyddlon deimlo'n wahanol am ei fod yn gadael:
"Rwy'n meddwl y bod Tilly wir eisiau i mi aros adref a rhoi fy holl sylw iddi hi drwy'r dydd ... ond rwy’n siŵr ei bod yn hapus y byddaf yn gallu helpu cŵn eraill fel hi, ond mae hi bach yn eiddigeddus. "
Gwyliwch stori Tom ar wefan y Loteri Genedlaethol.