Cynhwysiant – canllaw arfer da
Trwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn darganfod sut i gynnwys pobl yn eich prosiect, sut i ddatblygu eich cynulleidfaoedd, dileu rhwystrau i gyfranogiad a chynllunio'r pethau hyn yn effeithiol yn eich prosiect. Byddwch hefyd yn dysgu am bwysigrwydd a manteision llesiant, meithrin partneriaethau a diogelu.
Rydym yn ystyried treftadaeth yn rhywbeth eang a chynhwysol. Credwn fod gan bawb yn y DU ran mewn treftadaeth a dylai pawb gael y cyfle i elwa ar arian y Loteri Genedlaethol, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau personol.
Mae cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad yn o'r pedair egwyddor buddsoddi a fydd yn llywio ein holl benderfyniadau ynghylch rhoi grantiau o dan Treftadaeth 2033.
Mae lefelau uwch o gynhwysiant yn allweddol i gymdeithas lewyrchus, decach. A bydd treftadaeth sy'n fwy cynhwysol hefyd yn fwy cynaliadwy (un arall o'n hegwyddorion buddsoddi).
Deall cynhwysiant
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb (ac Adran 75 yng Ngogledd Iwerddon) yn gofyn i ni a chyrff cyhoeddus eraill hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl sydd â 'nodwedd warchodedig'. Mae hyn yn cynnwys oedran (fel pobl ifanc 11-25 oed a phobl hŷn), anabledd (gan gynnwys iechyd meddwl, anableddau dysgu a dementia), ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Gall pobl â'r nodweddion hyn brofi rhwystrau i ymwneud â threftadaeth ac yn gyffredinol ni chânt eu gwasanaethu'n ddigonol fel ymwelwyr, cyfranogwyr, gwirfoddolwyr ac yn y gweithlu. Gall pobl ar incwm isel hefyd wynebu rhwystrau i ymgysylltu â threftadaeth.
Adnabod eich cynulleidfaoedd
Dylech ddeall pwy sy'n ymgysylltu â'ch sefydliad ar hyn o bryd a sut y bydd eich prosiect yn cynyddu'r ymgysylltiad hwnnw. Beth yw demograffeg eich sefydliad ac a yw'n ymroddedig i wasanaethu unrhyw gymunedau penodol? Bydd deall hyn yn rhoi gwaelodlin i chi ar gyfer cynllunio, asesu a gwerthuso newid.
Os ydych yn gwneud cais am grant o £250,000 neu fwy bydd angen i chi greu cynllun gweithgarwch ar gyfer eich cais cyfnod datblygu sy'n nodi sut y byddwch yn datblygu eich cynulleidfa.
Gall fod yn ddefnyddiol dechrau drwy fyfyrio ar y dystiolaeth sydd gennych am eich cynulleidfaoedd a’u hanghenion. Pwy yw eich cynulleidfaoedd arfaethedig ar gyfer eich prosiect, beth ydych chi'n ei wybod am eu hanghenion, eu dyheadau a'r rhesymau pam na fyddant efallai'n ymgysylltu? Ble mae eich bylchau? Gyda phwy nad ydych chi wedi siarad? A pha gynulleidfaoedd posib nad ydych yn clywed ganddynt? Pwy nad yw eich gwaith yn ei gyrraedd ar hyn o bryd? A beth sydd wedi'i ddysgu o brosiectau, gwasanaethau a sefydliadau eraill ynglŷn â'r ffordd orau o roi cynnig perthnasol a chyffrous at ei gilydd i gymryd rhan?
Trwy asesu eich cyd-destun a nodi pobl a chymunedau sydd ar goll o'ch cynulleidfaoedd, gweithlu neu lywodraethu, byddwch yn dechrau'r broses o fod yn fwy cynhwysol.
I'ch helpu i ddeall demograffeg yr ardal rydych chi'n gweithio ynddi, mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darparu gwybodaeth ar lefel genedlaethol a lleol ar ethnigrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol mewn gwahanol rannau o’r DU. Gallwch gymharu eich demograffeg â'r gymuned ehangach, deall y bylchau a gwneud gwaelodlin ar gyfer y gwelliannau rydych am eu cyflawni.
I ymchwilio i’ch cynulleidfaoedd presennol a’r cymunedau rydych yn gweithio gyda nhw, gallwch ddechrau drwy fapio’ch cymdogaeth, ardal, tref neu ddinas, gan gynnwys grwpiau gwirfoddol lleol, canolfannau ffydd, banciau bwyd, ac ati. Ystyriwch y grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig. Nid oes rhaid i hyn fod yn ymchwil desg yn llwyr. A allech chi ddefnyddio gweithdai a thrafodaethau gyda staff ac ymwelwyr ac aelodau o'r gymuned leol? A oes digwyddiadau yn bodoli eisoes y gallech wahodd pobl iddynt am fewnbwn ar gynllunio ar gyfer prosiect cynhwysol, hygyrch a chyfranogol?
Peidiwch ag anghofio data ansoddol yn seiliedig ar brofiad staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr. Gallai hyn gynnwys sylwadau, cyfnodolion neu gyfweliadau strwythuredig. Hefyd, holwch pwy sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn eich sefydliad treftadaeth. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i unrhyw fylchau yn nemograffeg eich gweithlu.
Defnyddio'r data a'r wybodaeth yn weithredol
A yw llywodraethu a gweithlu'ch sefydliad yn amrywiol ac yn gynrychioliadol o'ch cymuned? Os na, efallai y byddwch yn penderfynu cynnwys menter hyfforddi gweithredu cadarnhaol yn eich prosiect. A oes cyfleoedd i gyfranogwyr gymryd rolau gweithredol fel arweinwyr yn eich prosiect? Sut gall eich trefniadau llywodraethu (eich bwrdd, eich polisïau a’ch gweithdrefnau) adlewyrchu’n fwy cywir yr ystod fwy amrywiol o bobl yr ydych am eu cynnwys fel gwirfoddolwyr neu staff? Gweler ein pecyn cymorth ecwiti hiliol mewn natur a Chomisiwn Symudedd Cymdeithasol Llywodraeth y DU am fwy o wybodaeth ac adnoddau.
Mae llawer o gategorïau cymdeithasol a ddefnyddiwn mewn data ac mewn llaw-fer yn gorgyffwrdd ac yn rhyng-gysylltiedig. Mae bywydau pobl yn gymhleth ac yn amlochrog ac nid ydynt bob amser yn cael eu cwmpasu na'u hesbonio gan un categori mewn data. Efallai bod eich treftadaeth eisoes yn boblogaidd gyda phlant a theuluoedd ond nid yn amrywiol o ran dosbarth economaidd-gymdeithasol, er enghraifft. Efallai y byddwch yn penderfynu canolbwyntio prosiect ar ymestyn eich cynnig i ysgolion a theuluoedd llai cefnog drwy ddefnyddio dull sy’n cael ei arwain gan symudedd cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Os yw eich ymwelwyr presennol yn hŷn yn bennaf, efallai y byddwch yn ystyried cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o greu prosiect treftadaeth cyffrous, perthnasol ac arloesol. Cofiwch eu cynnwys yn y cynllunio a chreu gofod diogel i'w lleisiau a'u barn gael eu clywed.
Cael gwared ar rwystrau
Mae croesawu pawb, yn enwedig cynulleidfaoedd nad ydynt wedi’u gwasanaethu’n ddigonol neu sydd wedi cael trafferth cael mynediad at dreftadaeth, yn hanfodol ar gyfer treftadaeth sy’n cael ei gwerthfawrogi, y gofelir amdani a’i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Bydd gwella mynediad at dreftadaeth yn helpu eich prosiect i gynyddu ei gyrhaeddiad a’i effaith a chefnogi sector cryfach a mwy perthnasol.
Mae’r gyfraith a’r rheoliadau sy’n ymwneud â mynediad yn bwysig: deddfwriaeth Deddf Cydraddoldeb 2010 (ac Adran 75 yng Ngogledd Iwerddon) yn cynnwys gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn hygyrch. Ond mae hygyrchedd hefyd yn broses weithredol, greadigol a pharhaus a all effeithio ar bob sefydliad a phrosiect yn y sector treftadaeth. Darganfyddwch fwy am ein dull o ran addasiadau rhesymol.
Er mwyn blaenoriaethu'r newidiadau a fydd yn cael yr effaith fwyaf, bydd angen i chi ddeall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad i'ch prosiect yn ogystal â'r math o newidiadau y gellid eu gwneud. Dylid gwneud hyn drwy ymgynghori gyda grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol, gan gynnwys ymwelwyr posibl neu wirfoddolwyr, er enghraifft, a sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw. Mae cael y mewnbwn 'arbenigwr trwy brofiad' hwn yn hanfodol i'ch helpu i ddeall yr hyn yr ydych yn ei wneud yn dda a pha allu y bydd ei angen arnoch i allu gwneud mwy.
Cynnwys pobl anabl
Wrth feddwl am gynnwys pobl anabl, dylech ddeall a defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn cydnabod bod cymdeithas yn gosod rhwystrau yn ffordd pobl anabl y gellir eu gwrthdroi trwy weithredu cymdeithasol a dyrannu adnoddau. Mae’r model, a ddatblygwyd gan bobl anabl, yn amlygu bod cymdeithas yn anghyfartal ac nad pobl anabl unigol sy’n gyfrifol am newid, ond cyfrifoldeb pob un ohonom. Mae gan Scope, Mencap a Meddwl ragor o wybodaeth am y rhwystrau a brofir gan bobl ag anabledd corfforol a dysgu a rôl iechyd meddwl yn ein bywydau i gyd.
Os ydych yn rhedeg safle treftadaeth neu adeilad cyhoeddus, un ffordd o asesu rhwystrau ffisegol yw gwneud archwiliad mynediad. Mae yna ymgynghorwyr mynediad cofrestredig a all eich helpu.
Os na ellir symud rhwystr yn gyfan gwbl, dylech wneud addasiadau rhesymol. Er enghraifft, gosod lifft neu ramp mynediad yn lle grisiau. Siaradwch â phobl am yr amrywiaeth a’r math o seddi rydych yn eu darparu, yn yr awyr agored a’r tu mewn, fel y gall teuluoedd neu ffrindiau, gan gynnwys aelod hŷn sydd angen cymorth braich neu gefn, eistedd gyda’i gilydd i fwynhau eu hymweliad.
Gall gwella mynediad ar eich safle ar gyfer un grŵp â nodweddion gwarchodedig helpu pawb yn aml, er enghraifft, pobl hŷn neu deuluoedd â phlant bach.
Rhowch ystyriaeth i ddarparu hyfforddiant ar gyfer staff a gwirfoddolwyr treftadaeth ar anableddau anweladwy neu 'anweledig', gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, awtistiaeth, nam ar y golwg, nam ar y clyw neu anawsterau synhwyraidd a phrosesu. Mae llawer o sefydliadau dan arweiniad pobl ag anableddau'n darparu hyfforddiant rheolaidd. Gallwch gynnwys costau hyfforddiant cychwynnol yn eich cais am grant. Adolygwch eich hyfforddiant yn rheolaidd a gwahoddwch adborth gan gydweithwyr ac ymwelwyr anabl.
Mae rhai pobl ag anableddau anweladwy neu 'anweledig' yn profi anabledd deinamig, sy'n golygu bod yr unigolyn weithiau'n ddefnyddio cymorth symudedd, ond efallai na fydd ei angen ar adegau eraill. Er enghraifft, weithiau gall fod angen sedd flaenoriaeth ar yr unigolyn, ac weithiau ddim. Peidiwch â chymryd yn ganiataol pa fath o gymorth y gallai fod ei angen ar rywun, gwrandewch ar y person anabl a lle bynnag y bo modd, cynigiwch ddewisiadau, e.e. gwahanol fathau o seddau, llwybrau teithio hygyrch o gwmpas safle, clustffonau canslo sŵn neu addasiadau eraill.
Hygyrchedd ar-lein
Os ydych yn darparu adnoddau neu wybodaeth ddigidol, bydd angen i chi sicrhau eu bod ar gael, yn hygyrch ac yn agored. Mae VocalEyes wedi creu adroddiad ac offeryn meincnodi mynediad ar gyfer y sector treftadaeth, wedi'i gynllunio i helpu i sicrhau na chaiff pobl ag anableddau eu hallgáu.
Os yw eich prosiect yn cynhyrchu allbynnau digidol, er enghraifft deunyddiau dysgu, cynnwys amlgyfrwng, tudalennau gwe neu wefannau newydd, bydd bodloni ein gofynion digidol o ran bod ar gael, yn hygyrch ac yn agored yn cynyddu nifer y bobl a all elwa ar dreftadaeth ar-lein.
Dysgwch fwy am hygyrchedd ar-lein yn ein canllaw digidol.
Ffyrdd eraill o gynyddu mynediad
Gellir mynd i’r afael â rhwystrau synhwyraidd drwy gomisiynu paneli dehongli neu arddangosiad cyffyrddol, darparu sgyrsiau neu ddigwyddiadau yn Iaith Arwyddion Prydain a darparu canllawiau print bras neu sain ar gyfer arddangosfeydd neu lwybrau.
Gellir mynd i'r afael â diffyg mynediad deallusol trwy adnoddau dysgu amlsynhwyraidd a gynhyrchir ar y cyd â thiwtor cwrs Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).
Gallwch leihau'r rhwystrau economaidd i gymryd rhan yn eich prosiect gyda diwrnodau mynediad gostyngol neu am ddim, teithiau hunan-dywys am ddim, ardal bicnic lle gall pobl ddod â'u bwyd eu hunain a chyflwyno opsiwn teithio am ddim i'ch prosiect neu safle.
Cael eich ysbrydoli
Ymhlith y prosiectau rydym wedi’u hariannu o’r blaen y gallwch gael eich ysbrydoli ganddynt mae:
- Cyflwynodd Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy trwy fysiau gwennol yn rhai o'i safleoedd a thocynnau 'mynediad i bawb' gan gynnwys mynediad o £1 i hyd at chwech o bobl ar Gredyd Cynhwysol.
- Mae prosiect Esgyrndy Digiol Bamburgh Bones yn ein helpu i ddeall diwylliant a thraddodiadau claddu Eingl-Sacsonaidd gan ddefnyddio offer dehongli'r 21ain ganrif, gan gynyddu mynediad deallusol i'r safle i ymwelwyr ledled y byd a rheoli'r heriau mynediad ffisegol ac ymarferol i'r 'berl gudd DU' hon.
- MaeArsyllfa Jodrell Bank yn Swydd Gaer yn sefydliad gwyddoniaeth o'r radd flaenaf sy'n ymroddedig i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach. Mae eu gwefan yn nodi'r holl wybodaeth mynediad y mae angen i ymwelwyr ei gwybod.
- Mae Amgueddfa RAF Hendon yn darparu gwybodaeth mynediad helaeth, gan gynnwys union leoliad darpariaeth toiledau Changing Places.
- Mae New to Nature yn gwella mynediad i dirweddau a natur trwy ddylunio a gweithredu arferion recriwtio sy'n denu talent newydd ac amrywiol.
Cael pobl i gymryd rhan
Gall prosiectau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i gynnwys gwahanol gynulleidfaoedd yn fwy gweithredol. Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am y dewisiadau sydd gennych fel sbectrwm. Ar un pen, gallwch feddwl pa gynulleidfaoedd y byddwch yn eu gwahodd i gymryd mwy o ran mewn agweddau penodol ar brosiect ehangach. Ar ben arall y sbectrwm, gall sefydliadau weithio mewn ffordd benagored gyda chyfranogwyr, gan drosglwyddo rheolaeth, uchelgais a gwneud penderfyniadau i'r bobl yr ydych am eu cynnwys.
Fel rhan o gynllunio, dylai prosiectau ystyried y dull cywir ar eu cyfer. Waeth beth fo maint a ffocws eich prosiect, man cychwyn defnyddiol yw cynllunio i greu amgylchedd croesawgar lle mae ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff yn teimlo eu bod yn perthyn.
Dylai ddechrau gyda chyhoeddusrwydd sy'n apelio at y cymunedau yr ydych am eu denu a rennir yn y lleoedd neu'r cyfryngau a ddefnyddir ganddynt. Dangoswch iddyn nhw fod y cynnig – boed yn ddigwyddiad neu’n gyfle gwirfoddoli digidol, er enghraifft – yn berthnasol iddyn nhw, eich bod chi wedi ystyried gofynion mynediad ac wedi lleihau eu rhwystrau rhag cymryd rhan.
Meddyliwch sut y gallwch chi wneud i bobl deimlo bod croeso iddynt yn eich digwyddiadau neu safle. Gwnewch yn siŵr bod staff neu wirfoddolwyr sy’n dod i gysylltiad â’r cyhoedd yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi’n rheolaidd ac y gellir trafod pryderon (er enghraifft ymddygiad anghyfarwydd ymwelydd a allai fod o ganlyniad i awtistiaeth, anabledd dwys neu ddementia) gyda staff priodol. Mae eich prosiect yn gyfle gwych i ddod o hyd i atebion i wneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae cael y cyfleusterau cywir yn arwydd i bobl bod eich safle yn croesawu pawb. Mae'n dangos eich bod yn rhagweld ystod eang o bobl ag anghenion gwahanol a bod y bobl hyn yn fwy tebygol o gael profiad da pan fyddant yn mynychu. Ystyriwch:
- dolenni sain, sesiynau dehongli gan ddefnyddio sain ddisgrifiad neu drin gwrthrychau i gynnwys ymwelwyr dall neu rannol ddall
- gwybodaeth mewn ieithoedd cymunedol, neu siaradwyr mewnol, i gynnwys ystod fwy amrywiol o bobl mewn treftadaeth
- Gwella cyfleusterau toiledau: gall Changing Places a thoiledau niwtral o ran rhywedd wneud gwahaniaeth i bwy sy'n ymweld a sut maent yn teimlo. Os ydych yn trefnu digwyddiad, gallwch gynnwys costau llogi cyfleuster Changing Places yn eich cynlluniau cyllideb.
Ydych chi'n adlewyrchu'r bobl rydych chi'n ceisio eu cyrraedd? Mae cynrychiolaeth yn bwysig. Gall gweld amrywiaeth o bobl yn cael eu cynrychioli gan staff a gwirfoddolwyr helpu ystod fwy amrywiol o ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt. Er enghraifft, gall arweinwyr gweithdai ifanc, yn weithredol ac yn amlwg, sicrhau bod eich prosiectau yn ymgysylltu ac yn siarad â phobl iau ac mae llawer o brosiectau yn defnyddio llais a safbwyntiau gwahanol gynulleidfaoedd yn eu dull o ddehongli treftadaeth i ymwelwyr.
Dylai dehongliadau ac arddangosiadau hefyd fod yn gynrychioliadol. Gall hyn wneud treftadaeth yn fwy perthnasol, ysbrydoli cyfranogiad ac annog empathi rhwng cymunedau. Ystyriwch yr ystod lawn o straeon sy'n gysylltiedig â'ch treftadaeth, casgliad, safle neu adeilad a sut y gallech adlewyrchu profiadau pobl mewn perthynas â dosbarth, rhywedd neu rywioldeb, er enghraifft. Mae cefnogi cymunedau i adrodd straeon yn datblygu ymdeimlad cryf o berchnogaeth, yn darparu cynnwys newydd diddorol a gall ysgogi mwy o gyfranogiad.
Mae llawer iawn o dystiolaeth sy’n dangos bod pobl yn gwerthfawrogi rôl a diogelwch mannau treftadaeth y DU a chefnogaeth staff a gwirfoddolwyr i archwilio hanesion cymhleth, sydd weithiau’n heriol. Anogwch ddiwylliant o ymddiriedaeth a dysgu ar y cyd am unrhyw hanesion cymhleth y gallai eich prosiect eu harchwilio a sut mae gwahanol bobl a chymunedau yn profi’r meysydd anodd, a allai fod yn drallodus, yn ein bywydau heddiw.
Mwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth
- Gwahoddodd y prosiect Stories and Treasures of Street and Dale yn Amgueddfa ac Oriel Craven bobl leol i gyfrannu'n uniongyrchol at yr arddangosiadau a'r dehongli
- Defnyddiodd Amgueddfa Pitt Rivers guraduron cymunedol gyda phrofiadau uniongyrchol o LHDTQ+ ar ei arddangosfa Beyond the Binary
- gweler ein canllaw arfer da dehongli am ragor o syniadau a chyngor
Cyfranogiad a llesiant
Mae gan dreftadaeth rôl gref i'w chwarae wrth wella llesiant. I'r gwrthwyneb, gall diffyg llesiant, ac iechyd corfforol a meddyliol gwael leihau parodrwydd pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys treftadaeth. Mae llawer o brosiectau rydym wedi'u hariannu wedi canolbwyntio ar wella llesiant ymwelwyr fel rhan o'u dull at gyfranogiad.
Mae’r GIG yn argymell pum ffordd o gyflawni llesiant gwell:
- cysylltu
- bod yn weithgar
- cymryd sylw (neu fod yn ystyriol)
- dysgu
- rhoi nôl
Mae prosiectau treftadaeth yn aml mewn sefyllfa dda i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl adeiladu’r camau hyn yn eu bywydau, gan eu helpu i gyflawni eu nodau personol a chymdeithasol a chyflawni ymdeimlad o bwrpas mewn cymdeithas.
Beth allech chi ei wneud i wella llesiant a chyfranogiad:
- darparu cyfleoedd i bobl sy'n profi unigedd neu nad ydynt mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant i wirfoddoli, gyda'r nod o'u cefnogi i gyflogaeth â thâl
- rhedeg gweithgareddau mewn partneriaeth â grwpiau neu elusennau iechyd meddwl lleol, megis sesiynau trin ar gyfer pobl â dementia ac ymweliadau pwrpasol ar gyfer pobl sy’n profi awtistiaeth
- cynnal cyrsiau creadigol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a chreu arddangosfa gyhoeddus o'u gwaith
- darparu trafnidiaeth, croeso cynnes a gweithgareddau pwrpasol i alluogi ystod ehangach o bobl i weld treftadaeth sy’n brydferth, yn ysgogol neu’n ymlaciol
- mewn swydd ddisgrifiadau meddyliwch am ofyn am sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, cyllidebu, digidol neu sgiliau ‘pobl’ gwych yn lle cymwysterau ffurfiol
Nodi partneriaid posibl
Ar ôl nodi'ch cynulleidfaoedd targed a'r hyn y gallai fod ei angen arnynt i gymryd rhan, ystyriwch bartneriaid posibl i'ch helpu i gynllunio (ac o bosibl cyflawni) y gweithgareddau neu'r newidiadau y gallech eu cynnwys. Gweler yr adran adnoddau yn ddiweddarach yn y canllaw hwn am ragor o syniadau.
Mapiwch y cysylltiadau, rhwydweithiau a phartneriaethau sydd eisoes yn bodoli yn eich ardal a phwy allai gynnig cymorth neu gyngor. Gall fod yn ddefnyddiol cael cymorth a gwybodaeth gan sefydliadau lleol neu genedlaethol sy’n gweithio y tu allan i’r sector treftadaeth, fel sefydliad ieuenctid neu anabledd, neu rwydwaith ffydd, hil, rhywedd neu gydraddoldeb rhywiol.
Wrth ystyried partneriaeth newydd, trafodwch nod eich grŵp neu fudiad a sicrhewch eich bod yn deall prif feysydd gwaith partneriaid posibl. Nodwch lle mae nodau’n cael eu rhannu, er enghraifft i feithrin sgiliau, hyfforddiant, arweinyddiaeth neu gyfleoedd gwirfoddoli, neu i herio unigedd cymdeithasol ac unigrwydd. Beth yw'r pwysau a'r galluoedd yn eich sefydliadau a sut y gall cydweithio sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bawb?
Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i weithio gyda sefydliadau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r un rhwystrau ymarferol, megis diffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Efallai y bydd grwpiau eraill hefyd yn chwilio am ddarpariaeth well neu amgen, trwy gynghorau plwyf neu sefydliadau cymunedol (Sgowtiaid, Geidiaid, Dial A Ride), felly rhannwch eich profiadau. Gallai'r sgyrsiau hyn eich arwain at gynnwys sefydliadau ffydd, ieuenctid neu ofalwyr yn eich cynlluniau treftadaeth, i gronni sgiliau datblygu cymunedol a gwella cyfleoedd teithio i gynnwys ystod fwy amrywiol o bobl yn eich sefydliad.
Cyfrifoldebau diogelu
Er y gallai cyfrifoldebau diogelu ar gyfer darparwyr gwasanaethau fod yn bwnc ynddo’i hun, rydym yn cynnwys diogelu yma oherwydd gallai agor eich prosiect i gynulleidfaoedd newydd gynnwys cyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd sydd mewn mwy o berygl o niwed neu’n llai abl i amddiffyn eu hunain rhag y risg o gamdriniaeth neu esgeulustod. Fel deiliad grant, bydd angen i chi fodloni eich rhwymedigaethau diogelu cyfreithiol.
Os ydych yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion mewn amgylchiadau bregus, pobl hŷn sy'n defnyddio gwasanaethau gofal neu bobl ag anableddau dysgu, bydd angen i chi gael polisïau ac arferion diogelu yn eu lle. I gael rhagor o fanylion, gweler yr adran adnoddau yn ddiweddarach yn y canllaw hwn.
Cofiwch fod llawer o sectorau a sefydliadau y tu allan i dreftadaeth, gan gynnwys y sectorau ieuenctid, addysg ac iechyd, yn defnyddio gweithdrefnau diogelu fel arfer safonol ar hyn o bryd. Dechreuwch sgyrsiau gyda phobl brofiadol am ddiogelu fel rhan o adeiladu eich gwybodaeth am gynhwysiant a chynnwys ystod fwy amrywiol o bobl mewn treftadaeth. Peidiwch â gofyn na disgwyl i wirfoddolwyr ar eich prosiect fod yn gyfrifol am gefnogi cyfranogwyr bregus heb ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth. Gwnewch yn glir i wirfoddolwyr pwy yn eich sefydliad sy'n gyfrifol am ddiogelu. Os na allwch wneud hyn, peidiwch â chynnwys y grwpiau hyn fel rhan o'ch prosiect.
Bydd ein canllaw i weithio gyda phobl ifanc a phlant ar-lein a'n canllaw preifatrwydd a diogelwch ar-lein yn eich helpu i reoli gweithgareddau a chyfarfodydd ar-lein yn ddiogel.
Os ydych yn creu adnoddau digidol gyda phlant a phobl ifanc neu amdanynt, data categori arbennig neu oedolion mewn perygl o niwed, bydd angen i chi ddarllen ein canllawiau ar greu adnoddau digidol: GDPR, hawlfraint a defnyddio trwyddedau agored.
Teimlo'n ddiogel
Gwyddom y gall treftadaeth chwarae rhan mewn cysylltu cymunedau, meithrin ymddiriedaeth a gwybodaeth a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol. Ac eto, mae’r cynnydd mewn troseddau casineb yn y DU tuag at bobl â nodweddion gwarchodedig, megis pobl ag anableddau dysgu, cymunedau LHDTQ+, cymunedau ethnig amrywiol a grwpiau ffydd, wedi gwneud i rai pobl deimlo’n anniogel ac nad oes croeso iddynt mewn mannau cyhoeddus, a hynny'n ddealladwy. Ystyriwch faterion diogelwch yn eich sefydliad fel rhan o'ch cynllunio cynhwysiant a hyfforddiant staff.
Cynllunio eich prosiect
Mae'n debyg na fydd yn bosibl cyflawni popeth y gallwch feddwl amdano gydag un prosiect. Mae'n bwysig canolbwyntio eich cynlluniau. Mae uchelgais yn hanfodol wrth ymrwymo i wella a thrawsnewid prosiectau a’r sector treftadaeth yn ehangach. Ond mae angen i chi a'ch tîm fod yn glir ynghylch yr hyn yr ydych am ei wneud a bod yn hyderus y byddwch yn gallu cyflawni'r nodau y mae eich prosiect yn eu gosod.
Cynnal eich effaith
Cynlluniwch werthusiad o'ch gwaith cynhwysiant o'r dechrau, gan gynnwys meddwl sut y gallech chi gynnal eich effaith. Ystyriwch sut y gall y prosiect hwn helpu i gyflawni eich uchelgeisiau tymor hwy ar gyfer cynhwysiant. Pa newidiadau fydd wedi eu gwneud? A fyddwch chi’n gallu dangos tystiolaeth bod gennych chi gysylltiadau cymunedol cryfach, modelau llywodraethu newydd, sgiliau ac arbenigedd staff ehangach neu gyfleusterau parhaol newydd sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y bobl rydych chi wedi’u cyrraedd gyda’ch prosiect? Sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn casglu barn a phrofiadau’r bobl sy’n ymwneud â’ch prosiect ac yn ymateb iddynt yn ystod a thu hwnt i’ch prosiect?
Cyllidebu ar gyfer cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad
Bydd angen i chi gyllidebu'n briodol i sicrhau bod eich gwaith cynhwysiant yn realistig ac yn gyflawnadwy. Mae rhai egwyddorion syml i'w dilyn a rhestr wirio o gostau posibl i'w hystyried.
Tâl a thriniaeth deg
- Sicrhewch eich bod yn talu o leiaf y gyfradd Cyflog Byw, neu Gyflog Byw Llundain lle bo'n berthnasol, ar gyfer yr holl staff sy'n ymwneud â'ch prosiect.
- Er y gall interniaethau roi cyfleoedd i bobl gael profiad gwerthfawr, nid ydynt yn bosibl i bobl o deuluoedd incwm is. Dylai interniaid sy'n bodloni'r diffiniad o 'weithiwr' dderbyn naill ai'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar eu hoedran.
- Peidiwch â disgwyl i bobl anabl, pobl iau neu bobl eraill yr ydych yn gwerthfawrogi ac yn defnyddio eu harbenigedd i roi o'u hamser. A oes ffyrdd y gallwch dalu neu ddarparu gwerthfawrogiad (ee: talebau, tocynnau mynediad teulu) am amser ac arbenigedd a rennir?
- Bydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy pan fyddwch yn darparu lluniaeth dda a phriodol. Meddyliwch am ddewisiadau diwylliannol a dietegol. Gwiriwch beth mae pobl yn ei fwyta a'i yfed ymlaen llaw a cheisiwch beidio â rhagdybio.
- Ystyriwch unrhyw gostau cudd. Er enghraifft, gallai cynnwys pobl ag anableddau dysgu fel cyfranogwyr llawn a chyfranwyr at eich prosiect gynnwys talu costau gweithiwr cymorth, adnoddau dysgu ychwanegol, cludiant neu lawer mwy o amser. Trafodwch y costau hyn yn gynnar gyda phartneriaid a chyllidebu yn unol â hynny.
Rhestr wirio o gostau posibl i'w hystyried
Gan ddibynnu ar faint a graddfa eich prosiect, efallai y bydd angen i chi ystyried rhai neu’r cyfan o’r costau hyn mewn perthynas â’ch gwaith cynhwysiant, gan helpu i gael gwared ar rwystrau a gwneud addasiadau rhesymol:
- ymchwil a monitro cynulleidfa: gosod gwaelodlin a chasglu a dadansoddi data
- ymgynghori â grwpiau cymunedol yr ydych am eu cyrraedd a/neu gael mynediad at archwiliadau
- ymgysylltu cymunedol neu ddigwyddiadau dysgu
- costau cynnal ar gyfer allbynnau digidol a phrofion hygyrchedd ar-lein
- gwesteio gwefannau, dylunio a chyhoeddusrwydd, ac ymchwil ar gyfer cynnwys/straeon newydd
- costau recriwtio a hyfforddi ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr
- addasiadau rhesymol ar gyfer safleoedd: mynediad corfforol, dehongliad neu addasiadau synhwyraidd
- costau eraill cynnwys pobl, megis treuliau gwirfoddolwyr, costau cludiant, costau gofal plant, dillad amddiffynnol neu offer iechyd a diogelwch ar gyfer hyfforddeion
- offer prosiect digidol, hyfforddiant a chostau cysylltedd i gyfranogwyr nad oes ganddynt ddyfeisiau a mynediad i'r rhyngrwyd neu sydd â sgiliau digidol cyfyngedig
- Costau cyfieithu: rhaid i brosiectau rydym yn eu hariannu yng Nghymru ddarparu gwasanaethau, gweithgareddau a deunyddiau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gallai hefyd fod yn briodol i chi ddefnyddio Gaeleg, Cernyweg neu iaith gymunedol arall ochr yn ochr â Saesneg yn eich prosiect yn dibynnu ar gyd-destun eich gwaith.
- Gwerthuso a rhannu eich dysgu gyda phobl o fewn eich sefydliad, cyllidwyr a rhanddeiliaid. Mae hyn yn helpu i sicrhau tryloywder, atebolrwydd a gall amlygu sut y gellir gwneud gwelliannau.
Adnoddau
- Mae'r arolwg Taking Part yn Lloegr yn darparu gwybodaeth am ystod o gyfranogiad ac ymgysylltu, gan gynnwys treftadaeth.
- Mae'r arolwg Monitor of Engagement with the Natural Environment (MENE) yn darparu data tueddiadau ar gyfer sut mae pobl yn defnyddio'r amgylchedd naturiol yn Lloegr.
- Mae'r Ymddiriedolaeth Cydraddoldeb yn cofnodi effeithiau anghydraddoldeb ar ein cymdeithas.
- Mae Llywodraeth y DU wedi creu gwefan i gefnogi ei Archwiliad Gwahaniaethau Hiliol gan roi ffeithiau a ffigurau yn ymwneud ag ethnigrwydd.
- Mae Ymddiriedolaeth Runnymede yn cyhoeddi ymchwil ar hil, ethnigrwydd a chydraddoldeb, gan gynnwys y rhyng-gysylltiadau rhwng rhywedd, ethnigrwydd a thlodi.
- Mae’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol yn gorff statudol ac annibynnol sy’n bodoli i helpu i greu gwlad lle nad yw amgylchiadau geni rhywun yn pennu eu canlyniadau mewn bywyd. Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi ystod o becynnau cymorth ac adnoddau i helpu cyflogwyr.
- Mae Ymddiriedolaeth Sutton yn gweithio ar symudedd cymdeithasol yn y DU. Maent wedi ymchwilio i rôl interniaethau di-dâl fel rhwystr i ddilyniant gyrfa.
- Mae'r Ymddiriedolaeth Synhwyraidd yn darparu ystod o ganllawiau, offer ac adnoddau i helpu sefydliadau i wella eu hygyrchedd.
- Mae VocalEyes yn darparu canllawiau a dysgu ar hygyrchedd a chynhwysiant digidol i gefnogi amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys adnoddau wedi’u cyd-ddylunio gan gydweithwyr anabl a B/byddar.
- Mae Llyfrgell Menywod Glasgow wedi cynhyrchu adroddiad ar anghydraddoldeb i lywio gwaith y sector amgueddfeydd.
- Ymddiriedolaeth Shaw yw un o nifer o elusennau yn y DU sy'n gweithio ar ran pobl anabl. Maent yn aml yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cynnig gwasanaethau cyngor hygyrchedd.
- Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyngor ar gyfathrebu hygyrch ac mae amrywiaeth o elusennau hefyd yn darparu adnoddau, gan gynnwys RNIB, RNID a Action Hearing Loss.
- Mae Historic England yn cynhyrchu canllawiau ar fynediad hawdd i adeiladau hanesyddol a thirweddau.
- Mae'r GIG yn cyhoeddi cyngor ar ddiogelu pobl agored i niwed.
- Mae gan Kids in Museums drosolwg clir o ddiogelu sy'n berthnasol i brosiectau treftadaeth sy'n ceisio deall rolau a chyfrifoldebau.
- Mae'r NSPCC yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar amddiffyn plant ym mhob un o bedair gwlad y DU.
- Mae'r ymgynghoriaeth anabledd Access All Areas wedi cynhyrchu fideo o adnoddau hygyrchedd Theatr y Royal Court gan gynnwys cyfarwyddiadau i'r lleoliad, blaen tŷ, archebu diodydd a mannau ymlacio.