Mynegi pryder
Rydym wedi'n hymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel. Fel ceidwaid arian cyhoeddus a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'ch pryderon, ac mae gennym brosesau i sicrhau y gellir ymchwilio iddynt.
Mae'r arweiniad hwn yn esbonio sut i godi pryder am brosiectau yr ydym wedi'u hariannu.
Beth gallwn ni ei ystyried trwy'r broses hon?
Gallwch chi godi pryder ynghylch:
- cais cyfredol am ariannu, neu
- brosiect a ariannwyd gennym ni
- twyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth
Noder, fodd bynnag:
- Os ydych chi'n codi pryder ynghylch cais am gyllid, byddwn yn adolygu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Os byddwn o'r farn bod yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu'n berthnasol i'n penderfyniad, byddwn yn ei hystyried o fewn y broses asesu.
- Ni allwn wneud sylwadau ar faterion caniatâd cynllunio. Dylech godi'r rhain yn uniongyrchol gyda'r awdurdod cynllunio perthnasol a'r sefydliad dan sylw.
- Ni allwn ymwneud ag unrhyw anghydfod personol sydd gennych gyda derbynnydd grant penodol. Os yw eich pryder yn anghydfod personol dylech godi hynny gyda'r sefydliad dan sylw yn unol â'u prosesau nhw.
- Os ydych chi'n codi pryder ynghylch prosiect rydym wedi’i ariannu, byddwn ni'n ystyried yr wybodaeth rydych chi'n wedi'i darparu ac yn cymryd camau i ymdrin â hyn gyda derbynnydd y grant os byddwn yn ystyried bod amodau a thelerau ein grant wedi cael eu torri.
- Er y gallwn gymryd camau i ymchwilio i weithredu'n groes i gytundeb ariannu, ni allwn orfodi'r gyfraith. Os yw eich pryder yn ymwneud â honiad o dorri'r gyfraith, dylech ystyried codi'r mater gyda'r corff rheoleiddio perthnasol neu, yn achos materion troseddol, gyda'r heddlu.
- Gallwn ystyried honiadau o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth os ydynt yn cyfeirio at brosiect a ariennir gennym ni neu gais cyfredol am ariannu. Byddwn yn rhoi gwybod i'r heddlu am achosion o'r fath.
Sut i godi pryder
Os hoffech godi pryder, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy:
E-bostio: enquire@heritagefund.org.uk
Ffonio: 020 7591 6044
Os oes gennych nam ar y clyw neu'r lleferydd gallwch gysylltu â ni trwy Relay UK gan ddefnyddio'ch ffôn testun neu ap Relay UK. Deialwch 18001 a 020 7591 6044.
Rydym wedi'n hymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch ac rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau'n hygyrch i bawb. Os ydych chi'n profi neu'n rhagweld unrhyw rwystrau i godi pryder, cysylltwch â'n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi'i hymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol i bob cydweithiwr. Mae trin eraill â pharch yn sail i'n holl waith.
Nid ydym yn disgwyl i unrhyw gydweithwyr fyth oddef unrhyw fath o wahaniaethu, aflonyddu neu fwlio gan ein hymgeiswyr, grantïon ac aelodau'r cyhoedd. Mae ein polisi Rheoli Ymddygiad Annerbyniol gan Gwsmeriaid yn nodi sut yr ydym yn ymdrin â’r ymddygiad hwn yn gyson ac yn deg.
Ymateb i'ch pryderon
Byddwn yn cydnabod derbyn eich pryder ac yn ceisio darparu ymateb llawn o fewn 10 niwrnod gwaith. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen mwy o amser arnom i adolygu eich pryder ac yn rhoi amserlen ddiwygiedig i chi.
Noder, nid ydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ein gweithdrefnau ymchwilio gan y gallai gwneud hynny ganiatáu i sefydliadau osgoi ein gwiriadau a pheryglu ein gallu i ddiogelu arian cyhoeddus. Gan hynny, efallai y bydd modd i ni roi gwybodaeth gyfyngedig yn unig i chi am gynnydd neu ganlyniad unrhyw ymchwiliad a gynhaliwn.
Nid oes hawl i adolygu ein hymateb o dan y weithdrefn hon.
Yr hawl i gyfrinachedd
Fel rhan o adolygu eich pryder mae'n bosib y bydd angen i ni gysylltu â'r sefydliad rydym wedi'i ariannu neu sydd wedi gwneud cais am ariannu. Os byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn parchu eich anhysbysrwydd ac yn anrhydeddu unrhyw geisiadau penodol a wnewch ynghylch cyfrinachedd.
Yn yr un modd, os ydych chi'n gweithio i'r sefydliad rydych yn codi pryder yn ei gylch, neu rydych yn gyswllt a enwir ar gais am grant i ni, ac rydych eisiau i ni gadw eich manylion yn gyfrinachol, rhowch wybod i ni am hyn pan fyddwch yn codi eich pryderon gyda ni. Bydd eich cais yn cael ei barchu.
Os byddwn yn derbyn gwybodaeth sy'n awgrymu y gallai pobl fod mewn perygl, mae'n bosib y bydd angen i ni rannu'r wybodaeth honno gyda'r heddlu neu awdurdodau priodol eraill. Yn y cyfryw achosion, byddem yn parhau i gymryd camau i gynnal eich cyfrinachedd.