Stamp a logos cydnabyddiaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Stamp a logos cydnabyddiaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

See all updates
Lawrlwytho ein stamp a'n logos i gydnabod ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Cydnabod eich ariannu gyda'n stamp 'Gwnaed yn bosibl gan'

Dylai ein stamp 'Gwnaed yn bosibl gan' gael ei arddangos yn amlwg gan bob prosiect a ariennir gennym, ynghyd â'r neges 'Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol’.

The National Lottery Heritage Fund acknowledgement stamp in teal

Gall y stamp, sydd ar gael mewn gwyn, gwyrddlas a du, weithio ar draws ystod o fformatau dylunio. Mae fersiynau print (eps) a sgrîn (png) o'r stamp ar gael.

Mae ein stamp hefyd ar gael yn Gymraeg, Gaeleg Yr Alban, Sgoteg Wlster, Gwyddeleg a Chernyweg.

Rhaid i bob prosiect a gyflwynir yng Nghymru ddangos y stampiau Cymraeg a Saesneg dwyieithog.

Mae’r adrannau canlynol ar y dudalen hon yn amlygu rhai pethau allweddol i chi eu hystyried – lawrlwythwch y pecyn cymorth cydnabyddiaeth am arweiniad llawn.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth cydnabyddiaeth am arweiniad llawn

Lleiafswm maint

Rhaid peidio â dangos ein stamp yn llai na'r lleiafswm meintiau o 51mm (print) a 198px (sgrîn). Ni ddylai fersiynau dwyieithog fod yn llai na 63mm (print) a 238px (sgrîn).

Rhaid i faint y stamp neu'r logo a ddefnyddir fod yn gymesur â maint y deunydd rydych yn ei gynhyrchu, er mwyn sicrhau ei fod yn glir ac yn hawdd ei ddarllen.

Ar gyfer deunyddiau cydnabyddiaeth mwy - er enghraifft ar ochr adeilad - gwnewch yn siŵr bod y stamp yn ddigon mawr fel bod modd ei ddarllen yn glir o bellter o bum metr.

Defnyddiwch ofod clir o gwmpas y logo sydd o leiaf hanner uchder y bysedd croes.

Lliw

Dim ond mewn du, gwyn neu wyrddlas y gellir atgynhyrchu'r stamp.

Peidiwch â'i ddefnyddio mewn pinc, aur, llwyd neu unrhyw liw arall nad yw'n cael ei nodi yma.

Mae'r stamp du'n addas ar gyfer print un lliw, ysgythriadau neu gerfwedd ar fetelau.

Camddefnyddio'r logo

Rhaid i chi beidio ag ail-lunio neu newid ein stamp/logo. Peidiwch â'i ledu neu ei docio er mwyn ei ffitio mewn gofod bach.

Er enghraifft, os yn defnyddio logo mewn dogfen Word, gofynnir i chi newid ei faint trwy glicio ar y corneli a'u llusgo ac nid ar ochrau blwch y logo.

Nodyn am ffeiliau eps

Mae'n bosibl na fydd ffeiliau EPS a fersiynau gwyn o'r stamp/logo'n weladwy yn eich porwr gwe. Cliciwch gyda'r botwm de a dewiswch 'save target as' i lawrlwytho'r ddelwedd a'i lansio yn eich pecyn golygu delweddau.

Stampiau amgen i'w defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol

Stamp bach/defnydd arbennig

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid defnyddio fersiwn llai o'r stamp nad yw'n cynnwys y testun 'Gwnaed yn bosibl gan'. Dyma pryd y byddai'r testun fel arall yn annarllenadwy oherwydd ei faint bach a/neu i'w ddefnyddio ar ddeunyddiau ansafonol fel ffabrig, metel neu bren.  

Logo Gwnaed yn bosibl gan

Pan fydd cyfyngiadau maint, gofod neu fformat yn golygu bod defnyddio'r stamp 'Gwnaed yn bosibl gan' yn rhy anodd neu ei fod yn annarllenadwy, yna mae logo 'Gwnaed yn bosibl gan' arall ar gael. Mae hwn yn opsiwn wrth gefn a dylid ei ddefnyddio fel dewis olaf.

Cysylltwch â ni os oes angen i chi ystyried defnyddio y naill na'r llall o'r logos amgen hyn.