Gwerthuso – canllaw arfer da
Drwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn deall pam mae gwerthuso yn bwysig a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i brosiectau a buddsoddiad treftadaeth yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn dysgu'r pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth gynllunio a chynnal eich gwerthusiad, ynghyd â dolenni i wybodaeth bellach.
Sylwer: yn dilyn lansiad ein Strategaeth Treftadaeth 2033, rydym yn dylunio fframwaith newydd i'n helpu i werthuso ac asesu ein heffaith dros y degawd nesaf. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru unwaith y bydd y fframwaith newydd wedi'i gwblhau.
Beth yw gwerthuso?
Mae’n broses strwythuredig i:
- ddeall pa mor dda y mae maes gwaith penodol yn ei wneud
- dysgu pa wahaniaethau rydych chi'n eu gwneud trwy'ch gwaith
- helpu i lywio penderfyniadau
Gall gwerthuso prosiect eich helpu i ddysgu pa mor dda y mae wedi cyflawni ei amcanion, yn ogystal â pha mor effeithiol, effeithlon a chynaliadwy ydoedd.
Pam fod gwerthuso o bwys?
Rydym am ariannu prosiectau sy'n cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer treftadaeth sy'n cael ei gwerthfawrogi, y gofelir amdani a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.
Mae neilltuo amser i ddysgu a gwella wrth fynd yn eich blaen yn arfer da. Mae llawer o fanteision i'w wneud yn rhan reolaidd o'ch gwaith.
Dylid ystyried gwerthuso, cyllidebu ar ei gyfer a'i gynnwys o ddechrau eich prosiect. Fel hyn gallwch olrhain yr hyn a gyflawnwyd a chynhyrchu mewnwelediadau amser real trwy gydol eich cyflwyniad.
Sut gall gwerthuso eich helpu chi?
Mae'n eich galluogi i:
- nodi beth sy'n gweithio'n dda a phethau yr hoffech eu gwneud yn well
- rhannu dysgu, awgrymiadau ymarferol a syniadau ag eraill
- dangos y gwahaniaeth y mae eich gwaith yn ei wneud i gyllidwyr, y sawl sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid eraill
Sut mae gwerthuso yn ein helpu ni?
Mae edrych ar yr hyn a ddysgwyd o werthuso prosiectau unigol yn ein helpu i ddeall:
- os yw ein strategaeth yn mynd i'r cyfeiriad cywir
- os yw ein rhaglenni a'n hegwyddorion buddsoddi yn cyflawni eu hamcanion
- sut i wella ein dull o ariannu
- profiadau ac anghenion sefydliadau sy'n gofalu am dreftadaeth ac yn ei harchwilio
- effaith unigol a chronnus a gwaddol ein hariannu
Sut i werthuso eich prosiect
Cwestiynau i ofyn i chi'ch hun wrth ddechrau arni:
- Beth yw pwrpas eich gwerthusiad? Beth ydych chi am ei gyflawni gyda'ch gwerthusiad? Er enghraifft – i wella’r hyn yr ydych yn ei wneud, i ddangos y gwahaniaeth a wnewch neu i hysbysu a dylanwadu. Mae'n debygol y bydd gennych ychydig o wahanol ddibenion, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi beth yw'r blaenoriaethau.
- Pwy yw'r brif gynulleidfa? Efallai y bydd llawer o wahanol bobl yn defnyddio'r dystiolaeth rydych chi'n ei chynhyrchu. Bydd penderfynu pwy yw'r brif gynulleidfa yn helpu i lunio eich dull o werthuso.
- Beth yw'r cwestiynau allweddol i'w hateb? Meddyliwch am yr hyn yr hoffech ei wybod neu ei ddysgu o'r gwerthusiad. Mae hyn yn debygol o fod yn nifer fach o gwestiynau trosfwaol sy'n arwain eich ymchwil.
Egwyddorion ar gyfer gwerthuso da
Dechreuwch yn gynnar. Meddyliwch am werthuso pan fyddwch chi'n dylunio prosiect neu cyn gynted â phosibl i gynnwys dysgu o'r cychwyn cyntaf.
Nodwch y cysylltiadau rhwng y pwyntiau canlynol, a all fod yn sail i fframwaith gwerthuso neu ddamcaniaeth newid:
- beth fydd eich prosiect yn ei gyflawni (gweithgareddau)
- beth fydd hwn yn ei wneud (allbynnau – canlyniadau diriaethol gweithgareddau'r prosiect, megis nifer yr ymwelwyr)
- y manteision y gobeithiwch y bydd hyn yn eu cyflawni (canlyniadau – y newidiadau neu’r buddion sy’n dod o’ch allbynnau, fel gwell gwybodaeth)
Cydbwyswch eich anghenion gwerthuso gyda'r gallu a'r adnoddau sydd ar gael. Mae yna wahanol ffyrdd o gynhyrchu tystiolaeth – mae'n ymwneud â'r hyn sy'n gweddu orau i'ch pwrpas, cynulleidfa a chwestiynau. Gallwch ei wneud eich hun, gallwch dalu ymgynghorydd neu gymysgedd o'r ddau. Bydd hyn yn dibynnu ar eich gallu, profiad, cyllideb ac adnoddau, y math o werthusiad rydych am ei wneud, yn ogystal â maint eich prosiect - dylai fod yn gymesur. Pa ddull bynnag a gymerwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu adnoddau digonol ar gyfer eich gwerthusiad o ran amser a chostau mewnol ac allanol.
Casglwch ddata a thystiolaeth sy'n bwysig. Mae llawer o bethau y gallech eu mesur, ond ni allwch fesur popeth. Gweithiwch allan beth sy'n bwysig i chi a'ch rhanddeiliaid. Ceisiwch adeiladu ar ymarfer a dysgu presennol lle bo'n briodol. Ystyriwch ystod eang o dystiolaeth – ansoddol a meintiol – a beth sy’n gweddu orau i’ch pwrpas. Os gallwch chi, casglwch rywfaint o ddata sylfaenol ar y dechrau er mwyn i chi allu olrhain yr hyn rydych chi'n ei gyflawni dros amser.
Dadansoddwch eich data i ddarparu tystiolaeth ar ganlyniadau. Meddyliwch am sut y byddwch yn dadansoddi eich data ac a oes gennych yr arbenigedd hwnnw neu a oes angen cymorth arnoch gan eraill. Mae adroddiad gwerthuso da yn cyflwyno data ac yn gwneud synnwyr (dadansoddiadau) o ystyr y canfyddiadau – adrodd stori o’r data yw hyn. Er enghraifft, dehongli'r hyn y mae eich data yn ei ddweud am weithgarwch ac ymgysylltiad y prosiect, meysydd cryfder neu feysydd i'w gwella.
Ceisiwch wneud eich gwerthusiad yn wrthrychol ac yn rhydd o ragfarn. Efallai y byddwch am ddangos gwaith eich prosiect mewn golau da, ond mae gwerthuso yn ymwneud â dysgu. Mae hyn yn golygu amlygu'r hyn sydd heb weithio neu heb ei gyflawni, yn ogystal â'r llwyddiannau. Weithiau byddwn yn gwyro’n anfwriadol yr hyn y mae canfyddiadau’n ei olygu wrth anwybyddu gwybodaeth nad yw’n cyd-fynd â’n profiad neu ragdybiaethau neu gredu bod pwynt yn bwysicach nag eraill oherwydd ein bod yn cytuno ag ef. Gall rhagfarn ddigwydd yn anfwriadol hefyd pan fo gwerthusiad yn cael ei wneud gan y rhai sydd agosaf at y prosiect. Er mwyn lliniaru hyn, dylech gynnwys pobl ag ystod o wahanol safbwyntiau wrth wneud synnwyr o'r canfyddiadau a phenderfynu beth maent yn ei olygu.
Cyflwynwch a rhannwch y dysgu. Dosbarthwch y gwaith gwerthuso yn adroddiad hunangynhwysol, gyda throsolwg o ddiben, dull gweithredu a’r hyn a ddysgwyd ar bob canlyniad a chasgliadau neu argymhellion. Dylai'r adroddiad gwerthuso gynnwys mewnwelediadau'r prosiect, meysydd i'w gwella a dysgu ar gyfer y dyfodol. Bydd casgliadau ac argymhellion clir yn gwneud y dysgu yn fwy hygyrch ac yn haws ei gymhwyso i waith yn y dyfodol.
Dolenni defnyddiol
Dechrau ar y gwerthusiad:
- archwiliwch adnoddau gwerthuso NCVO
- ymunwch â Better Evaluation, llwyfan gwybodaeth gymunedol
- dysgwch am raglen Inspiring Impact NPC