Ein hymrwymiad i'r Gymraeg

Ein hymrwymiad i'r Gymraeg

See all updates
Mae Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Rydym ar hyn o bryd yn gweithredu o dan ein Cynllun Iaith Gymraeg a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 28 Mehefin 2007. 

Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gweithredu'r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru.

Rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i barhau i wella a diwygio ein Cynllun Iaith Gymraeg presennol ac rydym yn anelu at gyhoeddi'r cynllun diwygiedig cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cyflwyno ymrwymiadau newydd yn ogystal â chyhoeddi canllawiau a phecyn newydd cynhwysfawr o adnoddau i hyrwyddo dwyieithrwydd a fydd yn helpu prosiectau i gyflawni yn y ddwy iaith yng Nghymru.

Y camau cyntaf

Os byddwch yn derbyn cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyflawni eich prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi wneud hynny'n ddwyieithog. Mae cynnig gwasanaethau i'ch prosiectau yn Gymraeg a Saesneg yn rhan o'ch dibenion cymeradwy. Mae hefyd yn gyfle perffaith i sicrhau bod eich prosiect yn cyrraedd ystod eang o bobl mewn cymunedau ledled y wlad. Mae'n rhaid i siaradwyr Cymraeg allu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg a rhaid cynhyrchu'r holl ddeunyddiau ar gyfer y cyhoedd yn y ddwy iaith.

Mae'n bwysig eich bod yn ystyried sut y byddwch yn cyflawni eich prosiect yn ddwyieithog cyn i chi gyflwyno'ch cais am gyllid, gan y bydd angen i chi gynnwys unrhyw gostau cysylltiedig o fewn cyllideb eich prosiect. Dylech ddangos yn glir sut y byddwch yn cynnig darpariaeth ddwyieithog yng nghyllideb a chynllun eich prosiect ac yn cynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais.

Mae gennym gyfeiriad e-bost uniongyrchol yn y Gronfa i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am fod yn ddwyieithog. Cysylltwch â cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk neu cysylltwch â'n prif gyfeiriad e-bost cymru@heritagefund.org.uk a byddwn yn cysylltu'n ôl cyn gynted â phosibl.

Gallwch hefyd siarad yn uniongyrchol â'ch Rheolwr Buddsoddi neu un o'n Rheolwyr Ymgysylltu ar ddechrau'r broses ymgeisio.

Canllaw

Mae gwaith ar y gweill i ysgrifennu canllawiau newydd i brosiectau ar sut i gyflawni eu gwaith yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac rydym yn anelu at gyhoeddi'r ddogfen yn y dyfodol agos. 

Mae gennym dîm cwbl ddwyieithog yn y Gronfa Treftadaeth yng Nghymru, felly mae croeso cynnes i chi siarad â'ch Rheolwr Buddsoddi neu anfon e-bost cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk am gyngor ar gyfieithu, recriwtio a phethau eraill sy'n ymwneud â chyflwyno prosiect dwyieithog llwyddiannus.

Adborth

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog ac rydym yn falch o allu darparu gwasanaeth llawn i'n cwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg. O bryd i'w gilydd, gall pethau fynd o chwith. Os hoffech drafod y gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, cysylltwch â ni ar cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk

Dolenni defnyddiol

  • Ein stampiau cydnabod a'n logos (mae'n rhaid i bob prosiect yng Nghymru ddefnyddio ein deunyddiau cydnabod Cymraeg/Saesneg)
  • Eich ardal chi: Cymru
  • Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Cynllun grant cyfalaf a fwriedir i alluogi cymunedau yng Nghymru i adfer a gwella natur.
  • Coetiroedd Cymunedol - Cynllun grant cyfalaf a fwriedir i adfer, creu, cysylltu a rheoli coetiroedd yng Nghymru.
  • Comisiynydd y Gymraeg - Sefydlwyd Comisiynydd y Gymraeg yn 2012 i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg yw Cymru lle gall pobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru - Os ydych chi'n chwilio am gyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd, fe welwch yr unig restr o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd cymwys a'u manylion ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.