Effaith ac etifeddiaeth ein menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth
Fe wnaethom lansio ein menter £4.2miliwn i godi sgiliau a hyder digidol y sector treftadaeth ym mis Chwefror 2020. Bu'r rhaglen uchelgeisiol yn ymateb i waith polisi Culture is Digital yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), a nododd gyfleoedd sylweddol i ddatblygu'r sector treftadaeth drwy ddefnyddio technolegau. Yn ddiweddarach cyfrannodd DCMS £1m ychwanegol i ehangu ein gwaith llwyddiannus.
Bedair blynedd ymlaen, rydym wedi ariannu 55 o brosiectau sydd wedi cefnogi dros 53,000 o unigolion yn gweithio ac yn gwirfoddoli mewn dros 6,400 o sefydliadau.
Ein nod oedd adeiladu hyder digidol ymhlith sefydliadau bach a sefydliadau dan arweiniad gwirfoddolwyr; darparu hyfforddiant a chyfleoedd dysgu digidol i gynyddu cyrhaeddiad a'r effaith ar sefydliadau bach a chanolig; a chefnogi arweinyddiaeth ddigidol ar draws y sector.
Yr hyn y mae ein buddsoddiad wedi'i alluogi
Mae'r prosiectau y gwnaethom eu cefnogi wedi darparu o leiaf 242,000 o oriau o hyfforddi a datblygu a chreu dros 880 o adnoddau dysgu trwydded agored. O ganlyniad i hyn mae:
- 85% o brosiectau wedi cynyddu eu sgiliau digidol a hyder
- 100% o gyfranogwyr Arwain y Sector wedi cynyddu eu hyder digidol
- ecosystem yn y DU o 64 o sefydliadau cymorth digidol ac arbenigwyr wedi'i datblygu
- cynnydd wedi digwydd mewn mynediad at dreftadaeth ac wrth gyrraedd cynulleidfaoedd treftadaeth newydd
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae effaith ac etifeddiaeth ein menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth wedi bod yn drawiadol. Gwnaethom lwyddo i ehangu’r fenter mewn ymateb i alw o’r sector gyda chymorth gan DCMS ac mae miloedd o unigolion a sefydliadau wedi gwella eu sgiliau a’u hyder i ddefnyddio digidol er mwyn gwneud treftadaeth yn haws ei darganfod, yn hygyrch ac yn agored. Erbyn hyn mae cyfoeth o adnoddau dysgu trwydded agored ar gael yn Gymraeg a Saesneg i helpu’r sector i fanteisio i'r eithaf ar y byd digidol.
“Trwy gyrraedd mwy o bobl ac ennyn eu diddordeb mewn treftadaeth gallwn sicrhau y caiff ei gwerthfawrogi a'i chynnal ac y gofalir amdani ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.”
Ein hymrwymiad i drawsnewid digidol
Nododd y gwerthuswyr, InFocus, alw ac angen clir am sgiliau a hyfforddiant digidol. Dywedodd sefydliadau eu bod yn dal i gael trafferth gydag amser, capasiti, adnoddau a mynediad at arbenigedd.
Bydd cefnogi hyder arweinwyr a byrddau i flaenoriaethu trawsnewid digidol, a gwella rhannu gwybodaeth am ddefnydd cost isel o dechnoleg, yn hanfodol i gyflawni aeddfedrwydd digidol yn y sector treftadaeth.
Mae digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol o dan ein strategaeth 10 mlynedd Treftadaeth 2033 ac mae'n rhan annatod o'r egwyddorion buddsoddi a fydd yn llywio ein penderfyniadau ynghylch grantiau dros y deng mlynedd nesaf.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn digidol ar gyfer treftadaeth drwy ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Os gall mwy o sgiliau digidol wella cynaladwyedd eich sefydliad, neu os gall defnydd creadigol o ddigidol wneud treftadaeth yn fwy hygyrch ac ysbrydoli mwy o bobl i ddiogelu treftadaeth, rydym am glywed gennych.
Cael gwybod mwy
Darllenwch y gwerthusiad Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth llawn yn y PDF sydd ynghlwm wrth y dudalen hon i gael gwybod mwy am y gwahaniaeth y mae ein hariannu wedi'i wneud.
Ein gwaith ymchwil a gwerthuso
Rydym yn cynnal ymchwil yn rheolaidd i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y sector treftadaeth, ac yn gwerthuso ein gwaith i ddeall yn well y newid yr ydym yn ei wneud. Darllen mwy o'n mewnwelediad.