Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mai 2023
Atodlen o Benderfyniadau
Rhondda Heritage / Treftadaeth Y Rhondda
Ymgeisydd: Rhondda Radio Ltd
Crynodeb o'r prosiect: Creu llwybr treftadaeth ffisegol, ar draws y Rhondda, mewn sawl "gorsaf" benodedig, rhaglen hyfforddi hybrid, gwella sgiliau gwirfoddolwyr mewn sawl maes gan gynnwys adrodd storïau, cyfweld a golygu cynnwys.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £85,008 (100%)
Gwrando a Dysgu Gyda'n Gilydd - prosiect Ysgol Gynradd
Ymgeisydd: Golden-Oldies
Crynodeb o'r prosiect: Prosiect blwyddyn sydd â'r nod o ddod â grwpiau o bobl hŷn a phlant ynghyd i weithio ar brosiectau pontio'r cenedlaethau ar draws De Cymru, yn seiliedig ar y thema eang 'Gwrando a Dysgu'.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £31,700 (90.065%)
Our Cardiff Heritage Project
Ymgeisydd: Cymdeithas Tai Cadwyn Cyf
Crynodeb o'r prosiect: Mwyhau lleisiau trigolion Butetown er mwyn ceisio rhoi llwyfan i dreftadaeth ei thrigolion, ei rhannu a'i dathlu.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £8,500 (85%)
Carmarthenshire LGBTQ+ Heritage
Ymgeisydd: CETMA Ltd
Crynodeb o'r prosiect : Casglu storïau gan y bobl sy'n rhan o'r Gymuned LHDTC+, coladu'r holl Dreftadaeth LHDTC+ ynghyd a dathlu Mis Hanes LHDT ym mis Chwefror 2024.
Penderfyniad: Gwrthod
Sesiwn Werin Tŷ Tawe
Ymgeisydd: Menter Iaith Abertawe
Crynodeb o'r prosiect: Ail-lansio sesiynau caneuon gwerin Tŷ Tawe. Bydd yn cyflwyno sesiynau caneuon gwerin misol yng nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe, un i oedolion a sesiwn ar wahân a anelir at blant.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £3,800 (100%)
Tiger Bay, Cardiff Bay giving the story new life
Ymgeisydd: The Heritage & Cultural Exchange
Crynodeb o'r prosiect: Prosiect 2 flynedd i ehangu ymgyrhaeddiad yr archif, a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u targedu a fydd yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda'r gymuned, gwirfoddolwyr, a rhanddeiliaid eraill.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £98,000 (100%)
Heritage Comes Alive At Bailey Hill
Ymgeisydd: Grass Under Foot C.I.C.
Crynodeb o'r prosiect: Bydd cwmni bach o dri actor proffesiynol a thywysydd yn dod â hanes Bailey Hill yn fyw o oes y goresgyniad Normanaidd, drwy'r brwydrau dros annibyniaeth i Gymru, drwy'r rhyfeloedd byd hyd at yr oes bresennol
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £9,993 (100%)
Henry V commemoration and community engagement
Ymgeisydd: Cyngor Tref Trefynwy
Crynodeb o'r prosiect: Ennyn diddordeb trigolion Trefynwy yn eu cysylltiad â Harri V ym mlwyddyn 600 mlwyddiant ei farwolaeth, yn ogystal â hyrwyddo'r agwedd bwysig hon ar ymwelwyr â'r dref.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £10,000 (91.91%)